23.09.22
Mae Nyrsys Clinigol Arbenigol Endometriosis (CNSs) yng Nghymru wedi ennill Gwobr Fferylliaeth Cymru am Ddatblygiadau yn Iechyd Menywod. Mae’r digwyddiad blynyddol yn gyfle i weithwyr fferyllol proffesiynol ar draws ystod amrywiol o ddisgyblaethau ddathlu arloesedd ac arfer gorau.
Roedd y wobr yn cydnabod datblygiad Nyrsys Clinigol Arbenigol Endometriosis ar gyfer pob Bwrdd Iechyd yng Nghymru. Rôl CNS yw gwella mynediad i wasanaethau i ferched a menywod.
Mae endometriosis yn effeithio ar un o bob deg o fenywod a gall achosi poen difrifol, gan gael effaith sylweddol ar ansawdd bywyd merched a menywod y mae'r cyflwr yn effeithio arnynt. Mae’r CNSs newydd yn gam cadarnhaol tuag at wella ymwybyddiaeth a diagnosis o endometriosis yng Nghymru. Mae'r nyrsys yn cydweithio i rannu arfer gorau ar draws y rhanbarth.
Beth yw symptomau endometriosis?
Yn 2018, comisiynwyd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen gan Lywodraeth Cymru i asesu’r gwasanaeth a ddarparwyd a mynediad at ofal i ferched a menywod ag endometriosis yng Nghymru. Un o’r nifer o argymhellion oedd y byddai pob Bwrdd Iechyd yn cyflogi Nyrs Glinigol Arbenigol Endometriosis.
Prif nod y datblygiad hwn oedd gwella mynediad at reolaeth a chefnogaeth, a gwella’r gwasanaeth a ddarperir mewn gofal sylfaenol ac eilaidd - mae achosion o oedi cyn cael diagnosis wedi cael eu cynyddu gan y pandemig. Mae hyn wedi arwain at gynnydd sylweddol yn nifrifoldeb effaith symptomau endometriosis. Mae'r CNSs yn gallu darparu mynediad cyflym at system adolygu a rheoli symptomau a darparu cysylltiadau ar gyfer cymorth.
Dywedodd Liz Bruen, Arbenigwr Nyrsio Endometriosis a Phoen yn y Pelfis, sydd wedi chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o sefydlu’r ddarpariaeth CNS endometriosis yng Nghymru: “Mae cael nyrsys penodedig ar gyfer endometriosis yn mynd i gael effaith wirioneddol ystyrlon ar bobl yr amheuir bod ganddynt endometriosis neu sydd wedi cael diagnosis o endometriosis yng Nghymru. Mae'n hysbys bod diagnosis o endometriosis yn gallu bod yn heriol ac mae hyn yn cael effaith ddifrifol. Rwy'n falch o fod wedi bod yn rhan o’r broses o ddatblygu’r rhaglen hon ac rwy’n llawn cyffro i weld sut y gallwn ddatblygu gwasanaethau ymhellach. Mae Gwobr Fferylliaeth Cymru yn dyst i’r gwaith sydd wedi digwydd i wneud hyn yn bosibl.”
Mae Grŵp Gweithredu Iechyd Menywod Cymru (WHIG) wedi datblygu gwefan ar endometriosis i gleifion a chlinigwyr. Ewch i wefan Endometriosis Cymru am wybodaeth am endometriosis gan gynnwys dull olrhain symptomau ac offer diagnosis.