Yn dilyn y cadarnhad y bydd dydd Llun 19 Medi yn Ŵyl y Banc i nodi Angladd Gwladol Ei Mawrhydi'r Frenhines Elizabeth II, bydd newidiadau i'r gwasanaethau a ddarparwn.
Bydd ein cleifion a'n cydweithwyr yn ymuno ag unigolion, sefydliadau a busnesau ledled y wlad i dalu teyrnged i'w Mawrhydi a choffáu ei theyrnasiad.
Hoffem ddiolch o galon i'n holl gydweithwyr am eu proffesiynoldeb a'u hymroddiad yn ystod y cyfnod anodd hwn. Rydym yn deall y gall newidiadau i wasanaethau fod yn rhwystredig, ond fel gwasanaeth iechyd rydym yn parhau i wynebu pwysau eithriadol ac mae ein staff i gyd yn gweithio'n ddiflino i gynnig y gofal gorau posib.
Yn unol â'n gweithdrefnau Gŵyl y Banc arferol, byddwn yn cynnig darpariaeth well ar gyfer ein gwasanaethau gofal brys a heb ei drefnu er mwyn ein galluogi i gefnogi cleifion sydd angen gofal ar frys.
Gweler y wybodaeth ganlynol am y newidiadau i'r gwasanaeth ar gyfer dydd Llun 19 Medi.
Yn unol â chanllawiau cenedlaethol Llywodraeth Cymru, byddwn ni'n gohirio nifer o apwyntiadau a llawdriniaethau sydd wedi eu trefnu o flaen llaw. Bydd y rhan fwyaf o lawdriniaethau brys yn dal i fynd yn eu blaen, gan gynnwys triniaeth canser.
Byddwn yn cysylltu â chi drwy neges destun neu dros y ffôn os oes angen aildrefnu eich apwyntiad ddydd Llun 19 Medi.
Os nad ydych wedi clywed gennym ac nad ydych yn siŵr a yw eich apwyntiad yn dal i fynd yn ei flaen, ffoniwch y rhif ffôn ar eich llythyr apwyntiad.
Yn unol â threfniadau Gŵyl y Banc arferol, bydd meddygfeydd yn cau am 6.30pm ddydd Gwener 16 Medi ac yn ailagor o 8.30am ddydd Mawrth 20 Medi.
Mae'n bwysig felly eich bod yn cynllunio ymlaen llaw ac yn sicrhau bod gennych yr holl feddyginiaethau y mae'n bosibl y bydd eu hangen arnoch ac yn archebu unrhyw bresgripsiynau rheolaidd cyn y penwythnos.
Dros benwythnos Gŵyl y Banc os oes angen i chi gael cyngor gofal iechyd neu ofal brys y tu allan i oriau arferol, mae GIG 111 Cymru ar gael. Gallwch gael cyngor ar ofal iechyd a gwybodaeth leol ar wefan GIG 111 Cymru neu drwy ffonio 111.
Bydd ein Canolfannau Brechu Torfol yn Nhŷ Coetir a Holm View, y Barri yn parhau ar agor a bydd pob apwyntiad dos atgyfnerthu COVID-19 yn mynd yn ei flaen fel arfer. Os na allwch fynychu eich apwyntiad brechu ddydd Llun 19 Medi, ffoniwch ein llinell trefnu apwyntiadau ar 02921 841234 rhwng 9am - 7pm i aildrefnu.
Os oes gennych apwyntiad brechu mewn meddygfa ddydd Llun 19 Medi, bydd eich apwyntiad yn cael ei ganslo.
Bydd apwyntiadau brechu mewn fferyllfeydd cymunedol yn cael eu cynnal yn y lleoliadau a'r amseroedd canlynol:
Byddwn yn cysylltu â'r rhai sydd ag apwyntiadau wedi'u trefnu yn y lleoliadau hyn y tu allan i'r amseroedd hyn, neu yn Fferyllfa Tesco Penarth, Fferyllfa Central Heol Wellfield neu yn Uned Symudol Fferyllfa Well, drwy lythyr a fydd yn cynnwys apwyntiad wedi’i aildrefnu maes o law. Peidiwch â chysylltu â ni i aildrefnu eich apwyntiad.
Rydym yn cydnabod y gallai hwn fod yn gyfnod anodd i lawer o bobl, ac mae nifer o sefydliadau sy'n darparu cymorth 24 awr gan gynnwys y canlynol:
Bydd ein gwasanaethau i gyd yn gweithredu fel arfer o ddydd Mawrth 20 Medi 2022.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.