7 Mawrth 2024
Bydd y gwasanaeth CPN (Nyrs Seiciatrig Gymunedol) ar benwythnosau yn dod i ben ar 30 Ebrill 2024.
Pam fod y gwasanaeth ar benwythnosau yn newid?
Crëwyd y gwasanaeth CPN ar benwythnosau yn ystod cyfnod pan oedd dau wasanaeth seiciatrig i oedolion. Roedd y rhain naill ai’n dderbyniadau cleifion mewnol neu’n ofal cymunedol. Roedd hyn yn golygu, ar adeg ei sefydlu, nad oedd unrhyw ddarpariaeth ar gyfer cleifion cymunedol ar benwythnosau.
Mae gwasanaethau iechyd meddwl wedi esblygu ers hynny gyda datblygiad gwasanaethau 7 diwrnod yr wythnos fel Timau Datrys Argyfwng a Thriniaeth yn y Cartref, Timau Allgymorth ac Adfer ac, yn fwyaf diweddar, 111 Pwyswch 2. Gyda’r cynnydd hwn yn y gwasanaeth a ddarperir, ynghyd â’r cynnydd mewn sefydliadau trydydd sector, mae gostyngiad cyson wedi bod yn nefnydd y gwasanaeth CPN ar benwythnosau.
Beth yw’r manteision i gleifion?
Byddwn yn cynnal sesiwn galw heibio wyneb yn wyneb a fydd yn agored i unigolion sy’n gymwys i dderbyn y gwasanaeth hwn. Bydd hwn yn gyfle i drafod unrhyw gwestiynau neu bryderon sydd gennych ynglŷn â’r newid yn y gwasanaeth.
Prif Ystafell Seminar – Ysbyty Hafan-y-Coed
13 Mawrth 2024 – 17:30 tan 19:30
Os hoffech fynychu’r sesiwn uchod neu os oes gennych unrhyw ymholiadau neu adborth ynglŷn â’r newid hwn, gallwch gysylltu â ni drwy:
E-bost: cav.engagement.cav@wales.nhs.uk
Rhif ffôn: 07812495339
Gallwch hefyd gysylltu â’ch tîm Llais lleol i roi adborth a gofyn am gyngor annibynnol:
E-bost: Cardiffandvaleenquiries@llaiscymru.org
Rhif ffôn: 02920 750112
Cwestiynau Cyffredin
Ar bwy y bydd y newid hwn yn effeithio?
Ar hyn o bryd mae’r gwasanaeth hwn ar gael i unigolion y neilltuwyd cydlynydd gofal iddynt o fewn CMHT.
Gyda phwy y gallaf siarad os nad wyf yn teimlo y gallaf fynychu’r sesiwn galw heibio?
Os hoffech drafod y newid hwn ond yn teimlo na allwch fynychu’r sesiwn galw heibio, gallwch anfon e-bost at y cyfeiriad uchod neu drafod hyn gyda’ch cydlynydd gofal.