Neidio i'r prif gynnwy

Murlun Ward y Gofod Newydd yn Serennu

1 Mawrth 2021

Mae murlun dwyieithog newydd wedi’i osod yn Ward y Gofod yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru i helpu annog cleifion sy’n siarad Cymraeg i deimlo’n gyfforddus i ddefnyddio eu hiaith o ddewis ar y ward.

Lansiwyd y murlun ar thema’r gofod, a gefnogwyd gan Y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Mae’r murlun, a ddyluniwyd gan ddefnyddio syniadau gan gleifion a staff o Ward y Gofod, yn cynnwys ymadroddion Cymraeg a lluniau o dirnodau poblogaidd yng Nghymru, megis yr Wyddfa, Castell Coch a Stadiwm Principality, i annog cleifion ifanc, eu teuluoedd a staff y Bwrdd Iechyd i deimlo’n falch o’n treftadaeth a chael mynediad at wasanaethau’r Bwrdd Iechyd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn rhan o’r murlun, mae’r Bwrdd Iechyd hefyd wedi cyflwyno masgot newydd o’r enw Cadog, a fydd yn wyneb mwy a mwy cyfarwydd ledled y Bwrdd Iechyd i helpu hyrwyddo’r Gymraeg.

Cafodd enw ‘Cadog’, sy’n golygu ‘brwydr’, ei ysbrydoli gan ymwelydd ifanc â’r murlun pan gafodd ei osod. Mae’n nodweddiadol o’r ysbryd brwydro a welir gan gleifion yn yr ysbyty plant bob dydd.

Dywedodd Simone Joslyn, Pennaeth Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro: “Mae’n bleser gennym gefnogi ariannu’r prosiect hwn sydd nid yn unig yn llonni’r ward, ond hefyd yn helpu i amlygu ymrwymiad y Bwrdd Iechyd i’r Gymraeg ar gyfer ein cleifion ifanc a’u teuluoedd.

“Trwy ddarparu murluniau a chelf megis y gwaith hwn mewn ysbytai, mae wir yn helpu i wneud amgylcheddau deimlo’n fwy croesawgar a chyfeillgar, yn enwedig ar adeg sy’n anodd i’r claf a’r teulu.”

Mae’r murlun yn un cam bach sy’n rhan o nod y Bwrdd Iechyd i ddod yn sefydliad cwbl ddwyieithog. Mae’n rhan o’r ymgyrch Meddwl Cymraeg - Think Welsh, sy’n annog gweithwyr y Bwrdd Iechyd i roi’r Gymraeg ym mlaen eu meddwl, ac ystyried sut y gallant gyfrannu at wneud gwasanaethau yn fwy hygyrch i siaradwyr Cymraeg.

Dywedodd Jessica Sharp, Swyddog y Gymraeg yn BIP Caerdydd a’r Fro: “Mae’n bwysig bod ein cleifion o bob oedran sy’n siarad Cymraeg yn teimlo’n gyfforddus i ddefnyddio ein gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg os mai dyna eu hiaith o ddewis, felly rydw i’n falch iawn o’r murlun newydd hwn.

“Hoffwn ddiolch i Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro am wneud y prosiect hwn yn bosibl, ac i gleifion a staff yn ysbyty’r plant am ddod â thaith Cadog drwy’r gofod yn fyw gyda’u syniadau gwych.”

Grosvenor Interiors oedd yn gyfrifol am ddylunio a gosod y murlun newydd, a chafwyd cefnogaeth gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro.

Dysgwch sut y gallwch gefnogi prosiectau yn y dyfodol sy’n gwella amgylcheddau clinigol ar wefan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro.

 

01/03/2021

Dilynwch ni