Neidio i'r prif gynnwy

Menywod yn dysgu mwy am sgrinio a brechiadau mewn digwyddiad Ramadan enfawr

3 Ebrill 2024

Daeth cannoedd o fenywod a phlant i Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer dathliad Ramadan arbennig, a oedd hefyd yn rhannu gwybodaeth iechyd y cyhoedd hanfodol gyda’r rhai a oedd yn bresennol. 

Roedd y digwyddiad Bywydau Iach, a gynhaliwyd ddydd Mercher 27 Mawrth, yn gyfle i fenywod o ffydd Islamaidd ddarganfod mwy am bwysigrwydd sgrinio’r fron, sgrinio serfigol a sgrinio’r coluddyn, yn ogystal â brechiadau yn ystod plentyndod. 

Aeth panel o arbenigwyr - o feddygon teulu i bediatregwyr i arbenigwyr iechyd y cyhoedd - i fyny ar y llwyfan i ateb amrywiaeth o gwestiynau yn ymwneud ag iechyd a chwalu mythau a oedd wedi parhau mewn rhai cymunedau.  

Roedd gan ddwsinau o sefydliadau o’r trydydd sector, awdurdod lleol, yr heddlu a’r gwasanaeth iechyd stondinau o amgylch un o ystafelloedd cynadledda’r stadiwm i roi rhagor o wybodaeth a chyngor i’r rhai a oedd yn bresennol.  

Roedd castell neidio, gêm Connect 4 enfawr ac artist Henna yn difyrru’r plant drwy gydol y prynhawn, ac ar fachlud haul (Maghrib) darparwyd pryd o fwyd (Iftar) i alluogi pobl i dorri eu hympryd.  

Gwahoddwyd menywod sy’n byw yn nhri o glystyrau gofal sylfaenol Caerdydd - Dwyrain, De Ddwyrain, a Dinas a De Caerdydd - yn benodol i fynychu gan fod gan y poblogaethau hyn ymhlith y cyfraddau sgrinio a brechu isaf yn y ddinas. 

Bablin Molik, Arglwydd Faer Caerdydd a’r fenyw ddu gyntaf i hawlio’r teitl uchel ei bri, oedd yn gyfrifol am agor y digwyddiad a dywedodd: “Fel menyw, rwy’n deall pwysigrwydd iechyd da, i i fi fy hun, i fy nheulu ac i’r rhai o’m cwmpas.  

“Weithiau, fodd bynnag, gall fod yn anodd dod o hyd i, neu ddeall, gwybodaeth dda, ac mae angen i ni gael y wybodaeth honno er mwyn gwneud penderfyniadau a allai effeithio ar ein hiechyd. Bydd y digwyddiad hwn yn helpu menywod i gasglu rhywfaint o wybodaeth, gofyn cwestiynau, a chlywed gan arbenigwyr ym maes iechyd a lles. 

“Yn Islam, rhoddir pwyslais mawr ar gadw iechyd a lles. Anogir Mwslimiaid i ofalu am eu hiechyd corfforol gan ei fod yn cael ei ystyried yn ymddiriedaeth gan Allah (Duw). Felly, mae mentrau sydd wedi’u hanelu at hybu iechyd a lles, fel rhaglenni brechu a sgrinio, yn cael eu hystyried yn gadarnhaol o fewn y gymuned Islamaidd.” 

Roedd y panel arbenigol ar gyfer y digwyddiad yn cynnwys: 

  • Dr Amara Naseem, Meddygfa Bae Caerdydd, Grangetown ac aelod craidd o Muslim Doctors Cymru 

  • Cheryl Williams, Prif Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd, Tîm Iechyd y Cyhoedd Lleol Caerdydd a’r Fro 

  • Dr Meena Ali, Obstetregydd a Gynaecolegydd Ymgynghorol, BIP Caerdydd a’r Fro 

  • Dr Assim Javaid, Pediatregydd, BIP Caerdydd a’r Fro 

  • Helen Jessop, Uwch Arbenigwr Ymgysylltu â Sgrinio, Iechyd Cyhoeddus Cymru 

Cadeiriwyd y drafodaeth panel gan Dr Sayma Ahmed, Partner Meddyg Teulu ym Meddygfa Cloughmore yn y Sblot ac Aelod Craidd o Muslim Doctors Cymru. Dywedodd: “O fewn rhai o’n cymunedau, mae’r nifer sy’n manteisio ar bethau fel sgrinio ac imiwneiddio yn llawer is na’r cyfartaledd. Roeddem yn teimlo pe gallem ddod â’n cymunedau a’n gweithwyr gofal iechyd proffesiynol at ei gilydd, y gobaith oedd y gallem chwalu rhai mythau a grymuso cleifion i deimlo’n wirioneddol hyderus i fanteisio arnynt pan fyddant yn cael eu cynnig iddynt. 

“Mae sgrinio yn achub bywydau. Gwyddom na ellir canfod llawer o ganserau oherwydd nad ydynt yn arwain at symptomau, a gyda llawer o ganserau amrywiol, erbyn i’r symptomau ymddangos, mae’n rhy hwyr i wneud unrhyw beth yn eu cylch.  

“Gyda chanser y coluddyn, y fron a chanser ceg y groth yn benodol, os gallwn eu canfod yn gynnar drwy sgrinio, gallwn sicrhau ymyrraeth gynnar a chael gwell prognosis.  

“Mae hefyd yn bwysig iawn i blant gael eu himiwneiddiadau rheolaidd. Mae gennym amserlen wych a gynigir trwy’r GIG ac iechyd y cyhoedd sydd am ddim i bawb. Mae yna blant mewn rhannau eraill o’r byd yn marw o heintiau y gallwn ni eu hatal yma yn y DU.” 

Dywedodd Sheila Williams, Rheolwr Datblygu Prosiect Clwstwr ar gyfer Ardal y De Ddwyrain ac un o drefnwyr y digwyddiad: “Pwrpas y diwrnod oedd dod draw i ddathlu Ramadan, mwynhau noson hyfryd iawn gyda’n gilydd ond hefyd sicrhau bod pobl yn dysgu rhywbeth. 

“Mae’n gwbl hanfodol i ni wneud cysylltiadau â chymunedau, i rwydweithio a chydweithio â nhw i ddarganfod pa rwystrau allai fod i gael mynediad at sgrinio a brechiadau.”  

I ddarganfod mwy am imiwneiddiadau plentyndod yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, cliciwch yma neu ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yma. I gael rhagor o wybodaeth am sgrinio cliciwch yma

Dilynwch ni