Mae meddyg a ddisgrifiwyd gan ei gydweithwyr fel un angerddol, ymroddedig a hyrwyddwr dros wasanaethau strôc yng Nghymru wedi derbyn MBE yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2024.
Dywedodd Dr Hamsaraj Shetty, sydd wedi gweithio fel meddyg ymgynghorol yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ers bron i dri degawd, ei bod yn “anrhydedd fawr” cael ei gydnabod am ei wasanaethau i ofal strôc.
Mae’r clinigwr profiadol wedi chwarae rhan arwyddocaol wrth ddatblygu gofal a thriniaeth strôc ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ac mae wedi cael ei ddisgrifio fel eiriolwr a llysgennad ar gyfer gwaith amlddisgyblaethol.
Mae wedi ennill sawl gwobr am ei waith, gan gynnwys y Wobr Rhagoriaeth Strôc Cymru gyntaf yng Nghynhadledd Strôc Cymru 2018 am ei ymrwymiad a’i ymroddiad i wasanaethau strôc o fewn y Bwrdd Iechyd.
Dywedodd: “Mae’n anrhydedd fawr i dderbyn MBE. Ym maes meddygaeth strôc rydyn ni'n gweithio fel tîm, felly mae'r anrhydedd hon hefyd yn mynd i'r cydweithwyr rydw i wedi cael y fraint o weithio gyda nhw dros y blynyddoedd. Rwy’n ddiolchgar iawn am eu cefnogaeth gadarn trwy gydol fy ngyrfa.”
Dywedodd Dr Shetty fod meddygaeth strôc wedi dod yn bell iawn yng Nghaerdydd, ac yn wir ledled Cymru, ers dechrau ei yrfa.
“Mae yna chwyldro wedi bod yn y broses o ddelio â chleifion strôc,” ychwanegodd. “Roedd ein cyfradd marwolaethau 30 diwrnod ar gyfer cleifion strôc acíwt yng Nghaerdydd a’r Fro tua 28% ym 1998, a rhyw bedair neu bum mlynedd yn ôl roedd y ffigur hwnnw wedi gostwng i 11%.
“Un o’r rhesymau dros y gostyngiad hwn, rwy’n credu, oedd dod â chleifion strôc at ei gilydd i un ward yn yr uned strôc acíwt yn 2007. Fe wnaeth hynny ein helpu i roi triniaeth fwy penodedig.
“Mae gwelliannau mawr wedi bod, wrth gwrs, mewn triniaeth strôc gan gynnwys y defnydd o gyffuriau thrombolytig a thriniaeth endofasgwlaidd lle gallwch chi dynnu’r clot, ac mae hyn wedi gwella rhai cleifion yn llwyr mewn gwirionedd.”
Ar ôl graddio o Goleg Meddygol Mysore yn India, hyfforddodd Dr Shetty fel darlithydd mewn ffarmacoleg glinigol a therapiwteg a daeth yn uwch gofrestrydd mewn meddygaeth gyffredinol yng Nghaerdydd.
Ar ôl gweithio fel meddyg ymgynghorol yn Ysbyty Southmead ym Mryste am gyfnod byr, daeth yn ôl i brifddinas Cymru ym 1995 i weithio yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Bu’n allweddol wrth arwain datblygiadau gwasanaethau strôc yng Nghaerdydd a’r Fro a ledled Cymru drwy Gymdeithas Meddygon Strôc Cymru a gychwynnodd yn 1998.
Roedd hefyd yn aelod o Grŵp Gweithredu Strôc Llywodraeth Cymru tan 2014, yn aelod o Bwyllgor Datblygu Gwasanaeth ac Ansawdd Cymdeithas Meddygon Strôc Prydain rhwng 2006 a 2009, ac yn un o sylfaenwyr Pwyllgor Cenedlaethol Fforwm Strôc y DU.
Dr Shetty oedd Cynghorydd Rhanbarthol Coleg Brenhinol y Meddygon ar gyfer Meddygaeth Strôc tan 2015, ac mae wedi chwarae rhan arwyddocaol mewn nifer o dreialon strôc aml-ganolfan allweddol. Yn 2007 ef oedd y Llywydd cyntaf erioed, nad oedd yn dod o Ewrop, ar Gymdeithas Feddygol Caerdydd yn ei hanes 137 mlynedd.
Er iddo ymddeol dros dro yn 2015, penderfynodd Dr Shetty ddychwelyd i'r proffesiwn dri mis yn ddiweddarach. “Rwy’n meddwl mai fi, fwy na thebyg, yw’r meddyg hynaf yng Nghymru,” dywedodd y dyn 71 oed yn gellweirus.
“Sylweddolais y byddai’r holl brofiad roeddwn i wedi’i ennill yn mynd i wastraff pe bawn i’n ymddeol ac yn eistedd gartref. Roeddwn i'n meddwl y byddwn i'n llawer mwy defnyddiol i'r cleifion a'r gymuned pe bawn i'n dychwelyd i'r gwaith. Rwy'n mwynhau fy swydd yn fawr gan fy mod yn gweithio gyda phobl wych. Maen nhw i gyd mor ymroddedig.”
Dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Suzanne Rankin, a’r Cadeirydd Charles ‘Jan’ Janczewski: “Rydym yn hynod falch o Dr Shetty am ei waith ymroddedig yn cefnogi cleifion strôc ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg a Chymru. Mae hwn yn gyflawniad haeddiannol ac yn dyst i'w gyfraniadau i'r GIG.
“Mae Dr Shetty wedi treulio ei yrfa yn hyrwyddo gwasanaethau strôc yng Nghymru ac wedi bod yn rhan allweddol o ddatblygu gwasanaethau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a ledled Cymru. Ar ran y Bwrdd Iechyd, estynnwn einllongyfarchiadauiddo.”