Neidio i'r prif gynnwy

Matiau gweddi newydd ar gael i gleifion mewn angen

Mewn adeiladau ysbytai ar draws Caerdydd a’r Fro, mae ystafelloedd Noddfa ar gael i gleifion, staff ac ymwelwyr, gan ddarparu gofod diogel i bobl weddïo, cael cyfle i feddwl neu ofyn am gymorth.

Yn ddiweddar, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi gweithio gyda chwmni matiau gweddi o Gaerdydd, Umbrella Faith, i ddarparu 20 o fatiau gweddi ychwanegol i rai wardiau, y gellir eu defnyddio ble bynnag a phryd bynnag y bydd angen un ar rywun.

Mae’r matiau hyn wedi’u cyflwyno i wardiau yn Ysbyty Athrofaol Llandochau ac Ysbyty Athrofaol Cymru, ac maent ar gael i gleifion neu ymwelwyr a fyddai efallai’n cael trafferth yn mynd i’w hystafell Noddfa agosaf.

Dechreuodd Sadique Maskeen, sylfaenydd Umbrella Faith, ei gwmni mat gweddi personol yn 2023 yn dilyn genedigaeth ei blentyn. Pan oedd ei wraig yn rhoi genedigaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru, mae Sadique yn cofio sut yr oedd yn hiraethu am weddïo, ond eisiau aros wrth ochr ei wraig.

“Byddai hynny wedi bod yn gysur aruthrol i mi; gwybod y gallwn gymryd eiliad a gweddïo heb adael y ward” cofia Sadique.

Ers hynny, mae Sadique wedi bod yn gweithio gyda busnesau a gwasanaethau ar draws De Cymru, gan sicrhau bod mwy o fatiau gweddi ar gael i’r rhai sydd eu hangen.

Mae matiau gweddi newydd y Bwrdd Iechyd wedi’u hariannu gan Adran Profiad y Claf ac maent bellach ar gael ar wardiau gofal lliniarol, iechyd meddwl, oncoleg plant a geni.

Mae hyn wedi golygu y gall mwy o gleifion ac ymwelwyr gymryd seibiant i weddïo neu ofalu am eu lles pryd bynnag y bydd angen, heb adael y ward.

I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau Caplaniaeth a Gofal Ysbrydol sydd ar gael yn ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ewch i https://cavuhb.nhs.wales/news/latest-news/meet-our-chaplains/.

Dilynwch ni