Neidio i'r prif gynnwy

Mae KidzMedz Cymru yn dysgu plant a phobl ifanc sut i lyncu tabledi yn ddiogel yn y fenter gyntaf o'i math yng Nghymru 

31 Gorffennaf 2023

Mae plant a phobl ifanc ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg yn cael eu haddysgu sut i lyncu tabledi a chapsiwlau yn ddiogel fel y gallant newid o feddyginiaeth hylif i dabledi yn y fenter gyntaf o’i math yng Nghymru. 

KidzMedz Cymru yw'r fenter gyntaf o'i math yng Nghymru ac mae'n dysgu cleifion dros bump oed sut i lyncu tabledi a chapsiwlau yn ddiogel fel y gallant newid o feddyginiaeth hylif neu gael tabledi ar bresgripsiwn cyn gynted ag y byddant yn dechrau triniaeth. 

Lansiwyd y rhaglen yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru ym mis Mehefin 2023 ar ôl derbyn grant o £9,500 gan Gronfa Loteri Staff Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro. 

Dros y 12 mis nesaf, disgwylir y bydd 400 o blant a phobl ifanc yn dysgu sut i lyncu tabledi a chapsiwlau’n ddiogel a bydd y defnydd o feddyginiaethau hylif a roddir ar bresgripsiwn ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn gostwng 40%. 

Ar ôl y cyfnod prawf cychwynnol o 12 mis, y gobaith yw y bydd KidzMedz Cymru yn cael ei gyflwyno ledled Cymru. 

Mae gan dabledi nifer o fanteision dros feddyginiaeth hylif i gleifion, eu gofalwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan gynnwys: 

  • I blant a phobl ifanc, nid oes cymaint o flas ych-a-fi gan dabledi, mae nhw’n cynnwys llai o siwgr ac mae plant sy'n llyncu tabledi yn tueddu i gadw at eu trefn meddyginiaeth yn well 
  • I ofalwyr, mae tabledi’n para’n hirach, nid oes angen eu storio mewn oergell, maent yn haws eu cludo ac ar gael yn haws mewn fferyllfeydd lleol 
  • I ragnodwyr, mae llai o siawns o wneud camgymeriadau wrth ysgrifennu presgripsiynau a gallant ragnodi symiau mwy ohonynt 
  • Ar gyfer fferyllwyr, mae tabledi’n cael eu stocio'n fwy cyffredin mewn fferyllfeydd lleol o gymharu â hylifau. 

Dywedodd Bethan Davies, Fferyllydd Arweiniol Ysbyty Plant Cymru: “Mae KidzMedz Cymru yn fenter sy’n addysgu plant ac oedolion ifanc sut i lyncu tabledi a chapsiwlau. 

“Rydyn ni wedi cael llwyddiant mawr hyd yn hyn - yn enwedig gydag un claf a oedd yn derbyn ei feddyginiaethau yn flaenorol trwy gastrostomi. Trwy ddysgu sut i gymryd tabledi a chapsiwlau, rydym wedi gallu cael gwared ar y gastrostomi ac mae ansawdd ei fywyd wedi gwella'n fawr. Mae ei deulu wedi gallu mynd ag ef ar wyliau am y tro cyntaf yn ddiweddar. 

“Rydym yn gobeithio parhau i weld llwyddiant mawr o’r prosiect hwn ac yn anelu at sicrhau bod 400 o blant yn dysgu sut i gymryd tabledi a chapsiwlau erbyn diwedd y flwyddyn.” 

Bydd plant a phobl ifanc yn cael eu haddysgu sut i lyncu tabledi’n ddiogel gan ddefnyddio techneg chwe cham sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Byddant yn dechrau trwy ddewis diod o'u dewis - naill ai dŵr neu sudd ffrwythau heb siwgr - a byddant yn gweithio trwy gyfres o losin o wahanol feintiau yn raddol. 

Unwaith y byddant wedi cwblhau’r rhaglen ac yn gallu llyncu tabledi neu gapsiwlau yn ddiogel ac yn hyderus, byddant yn derbyn pecyn addysg sy’n cynnwys pecyn tabledi, potel ddŵr a thystysgrif. Bydd rhieni a gofalwyr hefyd yn derbyn taflen wybodaeth. 

Datblygwyd y cynllun gyntaf yn Ysbyty Plant Great North yn Newcastle yn 2020 ac mae wedi ennill Gwobr Cynaliadwyedd y GIG, Gwobr Gwerth HSJ am Fferylliaeth ac Optimeiddio a Gwobr Syniadau Da mewn Iechyd am Ddangos Effaith ar Wella Ansawdd. 

Dilynwch ni