Neidio i'r prif gynnwy

KidzMedz Cymru

Bwriad KidzMedz Cymru yw dysgu plant a phobl ifanc dros bump oed sut i lyncu tabledi a chapsiwlau yn ddiogel.

Mae gan dabledi a chapsiwlau nifer o fanteision dros feddyginiaethau hylif. Nod y rhaglen yw cefnogi plant a phobl ifanc i newid o feddyginiaeth hylif i dabledi neu ganiatáu iddynt gael tabledi ar bresgripsiwn cyn gynted ag y byddant yn dechrau triniaeth.

Mae KidzMedz Cymru yn dilyn rhaglenni llwyddiannus a gyflwynwyd mewn rhannau o Loegr a’r Alban a’i nod yw sicrhau lleihad o 40% yn y defnydd o feddyginiaethau hylif a roddir ar bresgripsiwn dros y 12 mis nesaf.

Mae gan dabledi nifer o fanteision dros feddyginiaeth hylif i gleifion, eu gofalwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan gynnwys:

  • I blant a phobl ifanc, nid oes cymaint o flas ych-a-fi gan dabledi, mae nhw’n cynnwys llai o siwgr ac mae plant sy'n llyncu tabledi yn tueddu i gadw at eu trefn meddyginiaeth yn well
  • I ofalwyr, mae tabledi’n para’n hirach, nid oes angen eu storio mewn oergell, maent yn haws eu cludo ac ar gael yn haws mewn fferyllfeydd lleol
  • I ragnodwyr, mae llai o siawns o wneud camgymeriadau wrth ysgrifennu presgripsiynau a gallant ragnodi symiau mwy ohonynt
  • Ar gyfer fferyllwyr, mae tabledi’n cael eu stocio'n fwy cyffredin mewn fferyllfeydd lleol o gymharu â hylifau.

Bydd plant a phobl ifanc yn cael eu haddysgu sut i lyncu tabledi’n ddiogel gan ddefnyddio techneg chwe cham sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Byddant yn dechrau trwy ddewis diod o'u dewis - naill ai dŵr neu sudd ffrwythau heb siwgr - a byddant yn gweithio trwy gyfres o losin o wahanol feintiau yn raddol.

Unwaith y byddant wedi cwblhau’r rhaglen ac yn gallu llyncu tabledi neu gapsiwlau yn ddiogel ac yn hyderus, byddant yn derbyn pecyn addysg sy’n cynnwys pecyn tabledi, potel ddŵr a thystysgrif. Bydd rhieni a gofalwyr hefyd yn derbyn taflen wybodaeth.

Datblygwyd y cynllun gyntaf yn Ysbyty Plant Great North yn Newcastle yn 2020 ac mae wedi ennill Gwobr Cynaliadwyedd y GIG, Gwobr Gwerth HSJ am Fferylliaeth ac Optimeiddio a Gwobr Syniadau Da mewn Iechyd am Ddangos Effaith ar Wella Ansawdd.

Llyncu tabledi: Canllaw i rieni a gofalwyr

Top Tips!

  • Byddwch yn gadarn ac yn gyson ond ceisiwch osgoi cosbau a bygythiadau
  • Rhowch anogaeth iddynt mewn ffordd gadarnhaol!
  • Mae wir yn eu helpu i weld pa mor falch ydych chi eu bod wedi cymryd eu meddyginiaeth.
  • Dylai cymryd y dabled fod yn rhan o’u trefn ddyddiol h.y. brecwast, tabled, brwsio dannedd.
  • Ceisiwch roi eu meddyginiaeth ar yr un pryd bob dydd lle bo hynny’n bosibl.
  • Osgowch hylifau trwchus.
  • Rhowch reolaeth i’r plentyn trwy adael iddynt ddewis pa feddyginiaeth i’w chymryd yn gyntaf.
  • Ceisiwch beidio â llwgrwobrwyo neu fargeinio.
  • Defnyddiwch fwyd i helpu i leihau blas cas (rhowch lwyaid o iogwrt neu jeli iddynt ar ôl llyncu).
  • Ceisiwch osgoi twyllo’r plentyn gyda bwyd (peidiwch â chuddio’r dabled!)
  • Gwnewch y broses yn hwyl!

Os yw eich plentyn yn gwrthod...

  • Peidiwch byth â gofyn i’ch plentyn os ydynt eisiau cymryd y feddyginiaeth. Nid yw hyn yn ddewisol.
  • Byddwch yn gadarn pan mae hi’n bryd cymryd y feddyginiaeth (dim gweithgareddau eraill).
  • Dylech fod ag agwedd bendant. Rydych chi’n disgwyl iddynt gymryd y feddyginiaeth yn yr un modd ag y byddech chi’n disgwyl iddynt wisgo côt y tu allan.
  • Peidiwch â chynhyrfu.
  • Arhoswch yn yr ystafell gyda’r plentyn. Gallant adael a mynd i chwarae / gwneud gweithgaredd arall dim ond pan fyddant wedi cymryd y feddyginiaeth.
  • Siaradwch â’ch tîm meddygol os nad yw eich plentyn yn cymryd ei feddyginiaeth.

Am unrhyw gwestiynau am y rhaglen, e-bostiwch KidzMedz.Cymru.Cav@wales.nhs.uk

Dilynwch ni