3 Awst 2021
Mae llawer o deuluoedd ar draws Bro Morgannwg yn ei chael yn anodd cael gafael ar fwyd fforddiadwy, iachus a maethol. Mae’r pandemig COVID-19 wedi creu sefyllfa heriol iawn, sydd wedi newid amgylchiadau ariannol pobl, ac wedi peri cynnydd sydyn yn y galw am fwyd fforddiadwy.
Yn ystod y pandemig, darparodd Banc Bwyd y Fro 4,490 o barseli bwyd, a chafwyd 46% o atgyfeiriadau o ganlyniad i incwm isel. Mae’r heriau o ran argaeledd a fforddiadwyedd bwyd yn y Fro yn amlwg, ond rydym am glywed gan y gymuned er mwyn cael dealltwriaeth well o’r cymorth sydd angen ei ddarparu.
Mae Bwyd y Fro yn gweithio’n agos gyda’r Bwrdd Iechyd a nifer o bartneriaid yn cynnwys Banc Bwyd y Fro a Chyngor Bro Morgannwg, i ddeall y rhwystrau y mae pobl sy’n byw yn y Fro yn eu hwynebu i fwydo eu hunain neu eu teuluoedd. I gael mewnwelediad ac i glywed gan boblogaeth Llanilltud Fawr, lansiwyd arolwg newydd fel rhan o brosiect peilot i helpu i ddarparu gwell cymorth i’r rhai sy’n ei chael yn anodd cael gafael ar brys da bob dydd. Mae’r arolwg byr, dienw ar gael i holl breswylwyr Llanilltud Fawr, er mwyn rhoi cyfle i deuluoedd rannu eu profiadau o ran cael gafael ar fwyd.
Pam Llanilltud Fawr?
Mae Llanilltud Fawr, fel llawer o gymunedau eraill ledled y Fro, yn gartref i grwpiau gwerthfawr ac ymroddedig sy’n gweithio i sicrhau bod eu preswylwyr yn gallu cael gafael ar fwyd da. Serch hynny, mae’r gymuned yn dal i wynebu’r un heriau sy’n gysylltiedig â chael gafael ar fwyd, â gweddill y Fro. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag aelodau o’r gymuned ar draws Llanilltud Fawr i gasglu straeon a phrofiadau er mwyn cael dealltwriaeth fanwl o’r hyn sydd angen ei wneud i helpu pobl i gael gwell gafael ar fwyd. Bydd y prosiect peilot yn llywio sut y gallwn geisio ehangu’r gwaith hwn y tu hwnt i Lanilltud Fawr, er mwyn sicrhau bod pawb yn y Fro yn gallu cael pryd da bob dydd.
Gallwch gwblhau’r arolwg Mynediad Llanilltud at Fwyd drwy glicio yma neu ffonio’r llinell gymorth benodedig ar 02921 836517 i adael neges, bydd pob ymateb yn ddienw felly rydym yn annog pawb i ateb mor onest ag agored ag y gallant.