Neidio i'r prif gynnwy

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn falch iawn o gael ei ailachredu gan 'The Veterans Covenant Healthcare Alliance (VCHA)

30 Hydref 2023

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn falch iawn o gael ei ailachredu gan Gynghrair Gofal Iechyd Cyfamod y Cyn-filwyr (VCHA). Mae’r VCHA yn grŵp o ddarparwyr GIG, gan gynnwys ymddiriedolaethau acíwt, iechyd meddwl, cymunedol ac ambiwlans sydd wedi cytuno i fod yn esiamplau o’r gofal a’r cymorth gorau i Gymuned y Lluoedd Arfog.

Rydym wedi bod yn cymryd camau breision i wella’r gofal a’r cymorth y mae aelodau’r gymuned yn ei dderbyn ac rydym wedi derbyn ailachrediad Veteran Aware o ganlyniad i’n hymdrechion. Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yw’r bwrdd iechyd cyntaf yng Nghymru i fynd drwy’r broses ailachredu 3 blynedd.

Goruchwyliwyd y broses achredu gan y VCHA, a’i nod yw sicrhau bod pobl o Gymuned y Lluoedd Arfog yn cael sylw dyledus ac nad ydynt o dan anfantais mewn gofal iechyd o ganlyniad i’w bywyd milwrol. Mae’n gwneud hyn drwy ddatblygu, rhannu a llywio’r gwaith o weithredu arfer gorau, gan godi safonau i bawb yn y GIG ar yr un pryd.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn falch o fod wedi cyflawni’r ailachrediad hwn i ddangos eu gwaith a’u hymrwymiad parhaus i Gymuned y Lluoedd Arfog.

Dywedodd Maisy Provan, Arweinydd Cydweithredol Cyfamod y Lluoedd Arfog a Gofal Iechyd i Gyn-filwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, “Rwyf wrth fy modd bod y Bwrdd Iechyd wedi cyflawni ailachrediad VCHA a’n bod wedi cael ein cydnabod am ein hymdrechion parhaus i gyflawni safonau gofal uchel ar gyfer ein Cymuned Lluoedd Arfog. Mae bob amser mwy o waith i’w wneud ond mae’n wych gwybod ein bod yn darparu gwasanaethau a chymorth sy’n bodloni’r safon uchel hon o achredu.”

Fel rhan o’n gwaith i sicrhau bod cyn-filwyr yn cael mynediad teg at y gofal iechyd gorau posibl, rydym yn falch o fod wedi llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog ac wedi bod yn gofyn i bob un o’n cleifion a ydynt erioed wedi gwasanaethu yn Lluoedd Arfog Prydain, er mwyn cynnig dull gwell o nodi cyfleoedd ar gyfer cymorth ychwanegol.

I gael rhagor o wybodaeth am ein cefnogaeth i Gymuned y Lluoedd Arfog, ewch i'r dudalen benodol ar ein gwefan.

Dilynwch ni