Neidio i'r prif gynnwy

Lansio Radio Ysbyty Morgannwg ar DAB ledled Caerdydd a Bro Morgannwg

03 Mawrth 2026

Mae Radio Ysbyty Morgannwg yn dathlu pennod newydd bwysig ar ôl lansio'n swyddogol ar radio digidol DAB ledled Caerdydd a Bro Morgannwg. Mae'r orsaf arobryn, a gynhelir yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr ymroddedig ac sydd wedi'i lleoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru, bellach yn gallu cael ei chlywed gan fwy o wrandawyr nag erioed o'r blaen.

Mae ehangu i fod ar DAB yn golygu y gall hyd yn oed mwy o gleifion, staff, ymwelwyr a'r gymuned ehangach fwynhau cymysgedd unigryw'r orsaf o gerddoriaeth, adloniant a gwybodaeth iechyd.

I nodi'r lansiad, cynhaliodd Radio Ysbyty Morgannwg benwythnos arbennig o raglenni byw a oedd yn cynnwys dathlu Dydd Gŵyl Dewi. Cafodd gwrandawyr flas o'r hyn sydd ar gael drwy gydol yr wythnos, o raglenni cerddoriaeth sy'n codi calon, i sioeau arbenigol yn ogystal ag eitemau sy'n canolbwyntio ar iechyd.

Dywedodd y Cadeirydd, Jamie Pritchard: “Mae hon yn garreg filltir hanesyddol arall yn hanes ein gorsaf. Y flwyddyn nesaf, byddwn yn dathlu 60 mlynedd, a pha ffordd well o ddechrau'r dathliadau'n gynnar na lansio ar DAB. Mae hyn yn ein galluogi i wasanaethu cleifion, staff ac ymwelwyr ymhellach gyda gwybodaeth bwysig, cerddoriaeth wych a sioeau diddorol. Mae radio ysbyty wedi ymwneud â chwmnïaeth a chysylltiad erioed. Ers 1967, rydym wedi bod yn darparu adloniant a llais cyfeillgar i gleifion yn ystod eu harhosiad, ac mae bod ar DAB yn ein helpu i ddod â'r cysur hwnnw i hyd yn oed mwy o bobl ar draws ein cymuned. Mae'r lansiad hwn yn sicrhau y gallwn barhau i dyfu, cyrraedd cynulleidfaoedd newydd a pharhau i fod yn wasanaeth gwerthfawr am flynyddoedd i ddod.”

Ychwanegodd Pennaeth Profiad y Claf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Michelle Fowler: “Rydym wrth ein bodd yn clywed am daith gyffrous Radio Ysbyty Morgannwg wrth iddynt lansio ar DAB. Mae'n garreg filltir wych ac yn destament gwirioneddol i waith caled ac ymroddiad y tîm. Edrychwn ymlaen at barhau â'n partneriaeth gref a chefnogi eu cenhadaeth i ddod â llawenydd a chysur i gleifion trwy ddarllediadau arobryn."

Bydd Radio Morgannwg yn dathlu carreg filltir eleni, gan nodi chwe degawd o gefnogaeth ddiysgog i gleifion Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mae'n gyflawniad gwirioneddol anhygoel, ac rydym yn falch o fod yn rhan o'r daith.”

Gallwch bellach glywed Radio Ysbyty Morgannwg ar DAB ledled Caerdydd a Bro Morgannwg, yn ogystal â'r ap pwrpasol, drwy seinyddion clyfar, drwy ofyn i "Chwarae Radio Ysbyty Morgannwg" ac ar-lein: radioglamorgan.com

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni