Neidio i'r prif gynnwy

Harolwg Asesu Anghenion Fferyllol: Rydym am glywed gennych chi

20 Mawrth 2026

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro newydd lansio ein harolwg asesu anghenion fferyllol. 

Mae'r arolwg hwn yn rhan allweddol o'r asesiad ehangach o anghenion fferyllol, sy'n cefnogi'r sefydliad i adolygu argaeledd gwasanaethau fferyllol mewn fferyllfeydd ledled Caerdydd a'r Fro , gan gynnwys pa mor bell y mae angen i gleifion deithio i gael mynediad at eu fferyllfa a'r gwasanaethau y mae cleifion yn eu defnyddio fwyaf.  

Yn bwysicaf oll, mae'r asesiad hwn yn archwilio a yw'r gwasanaethau presennol yn diwallu anghenion ein cymunedau, ac a oes unrhyw gyfleoedd a/neu welliannau i wasanaethau y gallwn eu hystyried dros gyfnod o bum mlynedd.   

Drwy gymryd rhan yn yr arolwg hwn, gallwch helpu i lunio sut mae gwasanaethau fferyllol yn cael eu darparu ledled Caerdydd a'r Fro, gan sicrhau bod ein cymunedau yn gallu manteisio ar y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. 

Mae'r arolwg yn cau ddydd Mawrth 7 Ebrill 2026. Gallwch gwblhau'r arolwg ar-lein nawr drwy fynd i: Arolwg cyhoeddus ar gyfer asesiad anghenion fferyllol (PNA) Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Os oes angen copi papur o'r arolwg arnoch, cysylltwch â CAV.CommunityPharmacy@wales.nhs.uk.

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via  via SignVideo.

Dilynwch ni