Neidio i'r prif gynnwy

Gwobrau Cydnabyddiaeth Staff Cyfalaf, Ystadau a Chyfleusterau a Phrentisiaethau 2023

 

Cynhaliwyd y digwyddiad dathlu hwn yr oedd mawr ddisgwyl amdano ddydd Gwener 6 Hydref yng Ngwesty Leonardo, Caerdydd a gwnaeth staff CEF, Swyddogion Gweithredol y Bwrdd Iechyd, aelodau annibynnol a noddwyr fwynhau noson wych.

Roedd hwn yn gyfle i ddathlu ymrwymiad ac ymroddiad y 1400 o staff sy'n rhan o'r bwrdd gwasanaeth ac sy'n darparu ystod eang o wasanaethau yn cynnwys cadw tŷ, arlwyo cleifion, diogelwch, cynnal a chadw ystadau, rheoli gwastraff, i enwi ond ychydig.

"Mae eu cyfraniad a'u cefnogaeth yn hanfodol ac hebddyn nhw ni allem weithredu" Craig Davies, Rheolwr Gwasanaeth yr Adran Achosion Brys.

Yn ystod ei anerchiad croeso, gwnaeth Geoff Walsh, Cyfarwyddwr CEF ddangos fideo byr a oedd yn amlygu’r teimladau a'r boddhad sydd gan staff wrth ddarparu eu gwasanaethau er budd cleifion. Cafwyd sylwadau hefyd gan gydweithwyr mewn adrannau eraill a oedd yn dangos y parch uchel tuag at CEF a'r rôl bwysig y maent yn ei chwarae wrth ddarparu gwasanaethau.

Siaradodd ein Cadeirydd, Charles Janczewski, am ei ymweliadau i gwrdd â'r timau yn yr adran cadw tŷ, llieiniau, gwastraff ac arlwyo ac roedd yn synnu at gymhlethdod a maint y gwaith i reoli gwastraff a lliain yn benodol. Gwelodd drosto'i hun y brwdfrydedd a'r balchder sydd gan y staff wrth fynd ati i gyflawni eu tasgau dyddiol.

Yn ei sylwadau cloi, dywedodd Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd:

"Rydych chi'n hanfodol i'r gofal a'r gwasanaeth rydyn ni yng Nghaerdydd a'r Fro yn eu darparu i'n cleifion. Hebddoch chi, byddai gwaith y gweddill ohonom ar draws ein hysbytai, ein cymunedau a'n lleoliadau UHM yn amhosib"

Aeth yn ei blaen:

"Mae wedi bod yn wych bod yn bresennol heno i ddathlu gwaith caled a chyflawniadau tîm anhygoel ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro."

Cyflwynwyd gwobrau ar draws deg categori ar y noson:

Hefyd yn cipio gwobr am ‘Gair Calonogol’ - George Alexis Gwasanaethau Diogelwch ac Ansawdd, Cynaliadwyedd ac Effeithlonrwydd - Andrew Wood, Cyfleusterau

Hoffwn gyfeirio yn arbennig hefyd at y sawl a ddaeth yn agos i’r brig, am eu cyflawniad eithriadol.

Yn agos at y brig:

Mynd yr Ail Filltir: Michael Booker a Helen Greatrex

Addysg a Datblygu: Ben Phillips ac Alexandra Bamsey / Ethan Prosser/Pranav Rathod/Alice Bryant (Cynorthwywyr Arlwyo)

Byw'r Gwerthoedd a'r Ymddygiadau: Angela McCarthy a Loretta D’oyley

Goruchwyliwr / Rheolwr Ysbrydoledig: Modi Mathew a Gina Mather

Gair Calonogol: Ajimon Gopalan a Mark Loftus

Ansawdd, Cynaliadwyedd ac Effeithlonrwydd: Mark Miller a Rachel Dibble

Gwaith Tîm Rhagorol: Tîm Ystafell Post YAC a Thîm Ymateb Cyflym YALl

Arweinyddiaeth: Damian Winstone ac Emma Simpson-Wells

Effaith ar Brofiad y Claf: Emma Phillips a Sarah Wood

Myfyriwr / Prentis y Flwyddyn: Conor Coyle, Alicia Stevens a Daniel Botfield

Dilynwch ni