4.2.2025
Mae'r Gwasanaeth Cyswllt Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol yn wasanaeth sy'n seiliedig ar feddygon teulu lle mae Ymarferwyr Iechyd Meddwl Arbenigol yn gweithio mewn meddygfeydd i gynorthwyo meddygon teulu a chleifion sydd â phroblemau iechyd meddwl.
Mae’r cydweithwyr profiadol iawn hyn yn gweithio o fewn practisau meddyg teulu i helpu i ddeall natur y broblem a’r llwybr gorau a mwyaf effeithlon at adferiad. Caiff yr ymarferwyr sgwrs ffôn 20 munud o hyd gyda’r unigolyn i ganfod yr hyn sydd bwysicaf iddynt.
Mewn llawer o achosion, gellir datrys y problemau yn y practis heb fod angen eu hatgyfeirio at wasanaeth neu asiantaeth arall. Mae ein cydweithwyr yn gyfarwydd iawn â’r holl asiantaethau a gwasanaethau eraill sydd ar gael yn y gymuned, gan gynnwys asiantaethau Presgripsiynu Cymdeithasol yn y sector elusennau, yn ogystal â’r gwahanol lwybrau clinigol drwy’r Bwrdd Iechyd.
Yn dilyn y sgwrs gychwynnol, gallai’r canlyniad olygu cael mynediad at wasanaethau ar y we, cyngor, arweiniad a chymorth, neu gefnogaeth fwy strwythuredig gan ystod o wasanaethau yn y gymuned. Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnig Therapi Gwybyddol Ymddygiadol, cwnsela, hunangymorth dan arweiniad, cymorth profedigaeth a rheoli dicter yn ogystal â mynediad at grwpiau a gwasanaethau sydd â’r nod o fynd i’r afael â materion yn ymwneud â thai, dyled, cyflogaeth, adfer yn dilyn camdriniaeth, cymorth trais domestig neu ynysigrwydd cymdeithasol.
Mae ein Hymarferwyr Iechyd Meddwl hefyd yn gallu cynorthwyo gydag atgyfeiriadau at wasanaethau eraill fel Timau Iechyd Meddwl Cymunedol, Therapïau Seicolegol, Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol a gwasanaethau Trawma arbenigol.
Y nod yw cynorthwyo pobl i wneud synnwyr o’r hyn a allai fod yn eu poeni a dod o hyd i opsiwn cadarnhaol i sicrhau newid.
Mae ymgynghoriadau wyneb yn wyneb ar gael os yw’r ymarferydd yn credu y byddai hyn yn fuddiol, os oes angen lle diogel ar berson i siarad neu os yw’n cael trafferth cyfathrebu dros y ffôn. Mae cyfieithwyr hefyd ar gael yn ôl yr angen.
Mae GIG 111 Pwyswch 2 yn wasanaeth sydd ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos sy’n cynnig cymorth, cyngor ac arweiniad iechyd meddwl brys.
Mae’r gwasanaeth yn cynnig cyngor asesu a chyfeirio i unrhyw un sy'n profi argyfwng iechyd meddwl, neu sydd angen cymorth i reoli eu symptomau. Mae GIG 111 Pwyswch 2 hefyd â mynediad i Noddfa trwy Platfform rhwng 17:00-01:00 ar gyfer y rhai sydd angen mwy o gefnogaeth yn yr amser hwnnw.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn argymell bod y Tîm Cyswllt Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol (PCMHT) yn cael ei ddiddymu a bod yr adnoddau a gynigir ar hyn o bryd mewn practisau meddygon teulu yn cael eu trosglwyddo i helpu i ddatblygu gwasanaeth GIG 111 Pwyswch 2 ymhellach. Mae'r newid hwn yn golygu y byddai'r gwasanaeth a ddarperir trwy GIG 111 Pwyswch 2 ar gael 24/7.
Er mwyn sicrhau bod y Bwrdd Iechyd yn gallu mynd i’r afael ag unrhyw bryderon sydd gan y cyhoedd am y newid hwn, mae’n cynnal gweithgareddau ymgysylltu tan ddiwedd mis Mawrth 2025 i wrando ar adborth ac ateb unrhyw gwestiynau. Bydd cydweithwyr o’r tîm iechyd meddwl ar gael i ateb unrhyw gwestiynau yn y digwyddiadau canlynol.
Cynhelir y ddwy sesiwn yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd, Ystafell Gyfarfod Fawr, Heol Glossop, Caerdydd CF24 0SZ
Mae'r ddwy sesiwn yn cael eu cynnal ar Microsoft Teams.I gael rhagor o fanylion am y sesiynau hyn ac i drefnu lle, e-bostiwch Cav.engagement.cav@wales.nhs.uk rhif ffôn 07812495339.
Gallwch hefyd rannu eich adborth trwy ddefnyddio ein mewnflwch e-bost ymgysylltu a’n llinell ffôn:
Yn olaf, gallwch hefyd geisio cyngor annibynnol neu roi adborth i Llais: