Neidio i'r prif gynnwy

Gwaith cydweithredol i wella gwasanaethau gofal llygaid yn ennill gwobr Rhagoriaeth mewn Gofal Glawcoma 2022 Glaucoma UK

Mae timau Optometreg Gofal Sylfaenol a Glawcoma Gofal Eilaidd y Bwrdd Iechyd, ynghyd â Gareth Bulpin, Pensaer Cenedlaethol Digido Gofal Llygaid GIG Cymru, wedi ennill gwobr Rhagoriaeth mewn Gofal Glawcoma eleni am eu gwaith i wella gofal llygaid i gleifion ledled Cymru.

Dyluniwyd y Wobr Rhagoriaeth mewn Gofal Glawcoma i ddathlu’r gwaith arloesol sy’n digwydd ym maes gofal glawcoma. Cafodd ein timau eu henwebu am eu hymdrechion i wella gofal llygaid i gleifion ledled Cymru drwy gydweithio â gofal iechyd sylfaenol ac eilaidd, a gwneud y defnydd gorau o ddatblygiadau digidol.

Ymatebodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (BIP) a Gareth Bulpin i’r pandemig COVID-19 drwy ddatblygu Cofnod Cleifion Electronig (EPR) a system atgyfeirio electronig newydd ar gyfer gofal llygaid yng Nghymru, y system genedlaethol gyntaf o’i math.

Roedd y system newydd hon yn galluogi cleifion i ddewis yr apwyntiad a oedd yn fwy addas iddynt o ran amser a lleoliad. Roedd hefyd yn golygu gwella amseroedd aros i gleifion.

Dywedodd Gareth Bulpin, Pensaer Cenedlaethol Digido Gofal Llygaid GIG Cymru yn BIP Caerdydd a’r Fro: “Dyma’r wobr orau i’w hennill o bell ffordd ac yr un sy’n golygu mwyaf. Mae ein gwaith wedi cael effaith sylweddol ar ganlyniadau cleifion a, thrwy wella amserlenni triniaeth, mae wedi atal y rhai sydd â’r achosion mwy cymhleth rhag datblygu cyflyrau mwy difrifol neu golli golwg hyd yn oed. Rydym yn edrych ymlaen at weld y buddion ychwanegol y gallwn eu cyflwyno dros y flwyddyn nesaf.”

O fis Ebrill 2020 hyd heddiw, mae nifer y cleifion sy’n cael eu gweld ar amser wedi parhau i gynyddu ac yn 69.1% ar hyn o bryd.

Yn ogystal â gwella profiadau cleifion, mae’r mentrau hefyd wedi helpu i ryddhau capasiti meddygon ymgynghorol a lleoedd mewn clinigau, gan eu galluogi i ganolbwyntio ar drin cleifion cymhleth sydd angen gofal brys. I gael rhagor o wybodaeth am y wobr ewch i wefan Glaucoma UK drwy glicio yma.

 

17/03/2022

Dilynwch ni