Neidio i'r prif gynnwy

Gwaith celf newydd wrth ymyl y grisiau yn annog staff i siarad Cymraeg

8 Mehefin 2021

Bydd staff Bwrdd Iechyd Prifysgol (BIP) Caerdydd a’r Fro yn datblygu eu sgiliau Cymraeg diolch i waith celf newydd sydd wedi’i osod wrth ymyl y grisiau ym mhencadlys y sefydliad yn Nhŷ Coetir.

Mae’r gwaith celf newydd, sy’n cynnwys tirnodau yng Nghymru a geiriau Cymraeg cyffredin, wedi cael ei ariannu drwy garedigrwydd Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro. 

Fe’i gosodwyd fel rhan o’r ymgyrch Meddwl Cymraeg – Think Welsh a lansiwyd yn ddiweddar, sy’n annog gweithwyr y Bwrdd Iechyd i feddwl yn weithredol am y Gymraeg, ac ystyried sut y gallant gyfrannu at wneud gwasanaethau yn fwy hygyrch i siaradwyr Cymraeg. 

Mae’r ymgyrch yn rhan o ymdrechion ehangach i ddathlu treftadaeth y Bwrdd Iechyd fel prif sefydliad sector cyhoeddus ym mhrifddinas Cymru, a bwriad mentrau fel gosod y gwaith celf newydd yw gwella’r defnydd o’r Gymraeg.

Dywedodd Jessica Sharp, Swyddog y Gymraeg yn BIP Caerdydd a’r Fro: “Mae hwn yn gam enfawr ymlaen i ni yn BIP Caerdydd a’r Fro, o ran proffil y Gymraeg. 

“Mae tua 65 y cant o’r boblogaeth yn ddysgwyr gweledol, ac felly, drwy osod y gwaith celf hwn mewn ardaloedd prysur, gobeithiwn y bydd staff yn dechrau sylwi arno a dysgu’r cyfarchion a’r ymadroddion syml hyn, i’w defnyddio gyda chydweithwyr a chleifion - man cychwyn holl bwysig wrth i ni geisio ymgorffori diwylliant cwbl ddwyieithog.

“Rydym yn ddiolchgar iawn i gael cefnogaeth y Tîm Gweithredol, ac Abi Harris, Cyfarwyddwr Gweithredol Cynllunio Strategol yn arbennig, fel Hyrwyddwr dynodedig y Gymraeg ar gyfer y Bwrdd Iechyd, a chefnogaeth lawn y Timau Cyfalaf, Ystadau a Chyfleusterau.  Hoffwn hefyd ddiolch i Grosvenor Interiors am eu cefnogaeth a’u cymorth parhaus i gynhyrchu’r gwaith celf hwn.”

 

Dilynwch ni