29 Gorffennaf 2024
Disgwylir mwy o dywydd poeth ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg dros y dyddiau nesaf gydag uchafbwyntiau o 26C. Os ydych chi allan yn mwynhau’r tywydd, cadwch eich hun yn ddiogel.
Os ydych chi ein hangen, cofiwch y gall eich Fferyllfeydd Cymunedol helpu gyda nifer o gyflyrau sy’n gysylltiedig â gwres a chlefyd y gwair. I ddod o hyd i’ch Fferyllfa Gymunedol agosaf, ewch i Fferyllfeydd Cymunedol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (gig.cymru).
Gwres pigog (brech gwres)
Mae gwres pigog yn anghyfforddus, ond fel arfer yn ddiniwed. Fel arfer mae'n gwella ar ei ben ei hun ar ôl ychydig ddyddiau.
Symptomau brech gwres yw:
Smotiau bach, uchel
Teimlad coslyd, pigog
Chwyddo ysgafn
Mae'r frech yn aml yn edrych yn goch, ond gall hyn fod yn llai amlwg ar groen brown neu ddu.
Y prif beth i'w wneud yw cadw'ch croen yn oer fel nad ydych chi'n chwysu ac yn cosi.
Llosg haul
Llosg haul yw croen poeth a phoenus a achosir gan ormod o haul. Gall y croen bilio a disgyn i ffwrdd ar ôl ychydig ddyddiau. Gallwch ei drin eich hun. Mae fel arfer yn gwella o fewn saith diwrnod.
Os oes gennych losg haul, mae'n bwysig:
Mynd allan o’r haul cyn gynted â phosibl
Oeri eich croen drwy gael cawod oer, bath neu gyda thywel llaith (cymerwch ofal i beidio â gadael i fabi neu blentyn ifanc fynd yn rhy oer)
Defnyddio hufen neu chwistrell ‘aftersun’
Yfed digon o ddŵr i oeri ac osgoi dioddef o ddiffyg hylif
Cymryd poenladdwyr fel paracetamol neu ibuprofen ar gyfer unrhyw boen
Gorchuddio croen sydd wedi dioddef llosg haul rhag golau haul uniongyrchol nes bod y croen wedi gwella'n llawn
Dioddef o ddiffyg hylif
Mae diffyg hylif yn golygu bod y corff yn colli mwy o hylif nag y mae’n ei gymryd i mewn. Os na fydd hyn yn cael ei drin, mae’n gallu mynd yn waeth a bod yn broblem ddifrifol.
Mae symptomau diffyg hylif mewn oedolion a phlant yn cynnwys:
Teimlo’n sychedig
Wrin melyn tywyll ag arogl cryf
Pendro neu deimlo’n benysgafn
Teimlo wedi blino
Ceg, gwefusau a llygaid sych
Pasio dŵr yn anaml, a llai na 4 gwaith y dydd
Er mwyn lleihau'r risg o ddioddef o ddiffyg hylif mewn tywydd poeth, dylech yfed mwy o hylifau nag arfer. Mae'n well cymryd llymeidiau bach yn amlach. Dylech yfed digon yn ystod y dydd fel bod eich wrin yn lliw clir golau.
Gall eich Fferyllfeydd Cymunedol eich helpu os ydych yn dioddef o ddiffyg hylif.
Fodd bynnag, os oes gennych chi neu rywun arall y symptomau canlynol, dylech ffonio 999 neu fynd i'r Uned Achosion Brys:
Os ydych chi'n teimlo'n anarferol o flinedig
Os ydych chi'n ddryslyd
Nid yw unrhyw bendro pan fyddwch yn sefyll i fyny yn diflannu
Nid ydych wedi pasio wrin drwy'r dydd
Os yw eich pwls yn wan neu'n gyflym
Os ydych chi’n cael ffitiau (trawiadau)
Gall y rhain fod yn arwyddion eich bod yn dioddef o ddiffyg hylif difrifol a bod angen triniaeth frys arnoch.
Gall fod yn eithaf cyffredin i blant ifanc ddioddef o ddiffyg hylif a gall fod yn ddifrifol os na chaiff ei drin yn gyflym. Mae'n bwysig bod plant ifanc yn yfed digon o hylifau. Gallwch ddefnyddio llwy i'w helpu i'w gwneud hi'n haws i blant lyncu hylifau.
Os oes gan eich plentyn unrhyw un o'r symptomau canlynol, dylech fynd at eich meddyg teulu ar frys:
Ymddangos yn gysglyd
Anadlu'n gyflym
Ychydig neu ddim dagrau pan fyddant yn crio
Bod ganddynt fan meddal ar eu pen sy'n suddo tuag i mewn (fontanelle suddedig)
Ceg sych
Wrin melyn tywyll neu heb basio dŵr yn ystod y 12 awr ddiwethaf
Dwylo a thraed oer sy’n edrych yn gochlyd
Gorludded gwres
Nid yw gorludded gwres fel arfer yn ddifrifol os gallwch oeri o fewn 30 munud. Os yw'n troi'n drawiad gwres, mae angen ei drin fel argyfwng.
Mae arwyddion o orludded gwres yn cynnwys:
Pen tost
Pendro a dryswch
Dim chwant bwyd a theimlo'n sâl
Chwysu gormodol a chroen gwelw, oer a llaith
Crampiau yn y breichiau, y coesau a'r stumog
Anadlu neu guriad y galon cyflym
Tymheredd uchel o 38C neu uwch
Bod yn sychedig iawn
Os oes gan rywun orludded gwres, dilynwch y pedwar cam hwn:
Symudwch nhw i le oer
Gofynnwch iddyn nhw orwedd i lawr a chodi eu traed ychydig
Gwnewch iddynt yfed digon o ddŵr. Mae diodydd chwaraeon neu ddiodydd ail-hydradu yn iawn
Oerwch eu croen - chwistrellwch nhw â dŵr oer neu gyda sbwng a'u ffanio. Mae pecynnau oer o amgylch y ceseiliau neu'r gwddf yn dda hefyd
Os oes gennych chi neu rywun arall arwyddion o orludded gwres, rhowch y person yn yr ystum adfer a ffoniwch 111 neu gofynnwch am help gan GIG Cymru 111 ar-lein.
Os ydych chi'n poeni am eich symptomau, defnyddiwch wiriwr symptomau GIG 111 Cymru trwy glicio yma.
Dyma rai ffyrdd ychwanegol y gallwch chi gadw’n ddiogel yn y gwres ac i’n helpu ni i helpu chi os ydych chi ein hangen:
Cadwch lygad ar anwyliaid, yn enwedig y rhai sy’n oedrannus neu’n agored i niwed
Cadwch y llenni ar gau mewn ystafelloedd sy’n wynebu’r haul i helpu i gadw mannau dan do yn oerach
Yfwch ddigon o ddŵr neu sgwash. Noder y gall diodydd sy’n llawn siwgr, diodydd alcoholig neu ddiodydd sy’n cynnwys caffein eich gwneud chi’n fwy sychedig
Os ydych yn mynd yn y car, peidiwch byth â gadael unrhyw un mewn cerbyd wedi parcio, yn enwedig plant ifanc neu anifeiliaid
Mae’r haul ar ei boethaf rhwng 11am a 3pm, ceisiwch osgoi’r haul yn ystod yr amseroedd hyn
Mae dŵr yn apelgar yn ystod tywydd poeth; os ydych chi’n mynd i nofio i oeri, cymerwch ofal a dilynwch y cyngor diogelwch lleol
Gwisgwch eli haul UV ac SPF uchel os ydych chi yn yr haul
Gwisgwch ddillad ysgafn, llac a het i amddiffyn eich pen a’ch gwddf
Os ydych chi’n ystyried gwneud ymarfer corff yn y tywydd poeth, ystyriwch ei wneud ar adegau oerach o’r dydd (y peth cyntaf yn y bore, neu’r peth olaf yn y nos)
Am fwy o gyngor ar sut i gadw’n ddiogel yr haf hwn, ewch i'n tudalen we Hwyl yn yr Haf yma.