Neidio i'r prif gynnwy

Gall plant a fethodd eu dos cyntaf o'r brechlyn HPV bellach fynd i glinig dal i fyny arbennig

9 Awst 2023

Gall plant a fethodd eu dos cyntaf o’r brechlyn HPV bellach fynd i glinig dal i fyny arbennig yn ddiweddarach y mis hwn. 

Mae merched a bechgyn 12 a 13 oed yn cael cynnig y brechlyn HPV (human papillomarvirus) fel rhan o raglen frechu’r GIG. 

Mae’n helpu i amddiffyn rhag canserau a achosir gan HPV, gan gynnwys canser ceg y groth, rhai canserau’r pen a’r gwddf a rhai canserau’r ardaloedd rhefrol a’r organau cenhedlu. Mae hefyd yn helpu i amddiffyn rhag dafadennau gwenerol. 

Bob blwyddyn mae’r brechlyn yn cael ei roi i ddisgyblion Blwyddyn 8 yn eu hysgol uwchradd, ond yn anorfod bydd rhai plant yn colli’r apwyntiad. 

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn trefnu clinig dal i fyny arbennig ar gyfer y brechlyn HPV - drwy apwyntiad yn unig - yn Ystafell Gynadledda Ysbyty Dewi Sant, Heol Ddwyreiniol y Bont-faen, Caerdydd, CF11 9XB ddydd Mawrth, 15 Awst rhwng 1.15pm a 3pm. 

Mae’r apwyntiadau hyn ar gael i unrhyw blant ym Mlwyddyn 8 i Flwyddyn 11 (cynhwysol). Ffoniwch 02920 907661/664 i drefnu apwyntiad. 

I gael rhagor o wybodaeth am yr holl frechlynnau a gaiff plant ym Mlynyddoedd 7 i 11 a pham, edrychwch yma

Dilynwch ni