Neidio i'r prif gynnwy

'Fues i yn yr ysbyty gyda'r ffliw gaeaf diwethaf - dyma pam mae angen i bob grŵp cymwys gael eu brechu'

Mae dyn ifanc gafodd ei dderbyn i’r ysbyty gyda symptomau ffliw difrifol y Nadolig diwethaf wedi annog pawb sy’n gymwys i gael eu brechu.

Cafodd Joseph Sullivan, 26, ei gludo i’r uned achosion brys yn Ysbyty Athrofaol Cymru pan waethygodd ei gyflwr wythnos ar ôl priodas ei frawd.

Mae Joseph, sydd â diabetes math 1 a hefyd â system imiwnedd wan, wedi rhybuddio pawb mewn grwpiau agored i niwed i gymryd y ffliw o ddifrif gan fod ganddo’r potensial i hawlio bywydau.

“Dydw i erioed wedi teimlo mor sâl yn fy mywyd. Ni fyddwn yn ei ddymuno ar neb. Daeth ag ystyr hollol newydd i’r gair ‘ffliw’ i mi,” cyfaddefodd.

Dywedodd Joseph fod pethau wedi dechrau gwaethygu ar y dydd Mawrth ar ôl priodas ei frawd, y penwythnos cyn y Nadolig, a bod yn rhaid iddo gael seibiant o’i waith yn sgil y salwch.

“Roedd gen i symptomau twymyn nodweddiadol: pen tost, teimlo’n rhy boeth neu’n rhy oer, cael trafferth yn dod yn gyfforddus a theimlo’n ofnadwy yn gyffredinol. Erbyn y dydd Iau dechreuais deimlo ychydig yn well, ond ar y dydd Gwener deffrais yn teimlo llawer gwaeth,” cofiodd.

Dywedodd Joseph, a oedd yn mynd i aros gyda’i rieni i ddechrau nes ei fod yn gwella, ei fod yn teimlo mor sâl iddo orfod gofyn iddyn nhw ei yrru i’r uned achosion brys.

Yn dilyn profion, cadarnhaodd meddygon fod ffliw yn bresennol yn system Joseph. Dywedodd fod staff meddygol wedi cymryd ei gyflwr “o ddifrif” gan fod y feirws wedi effeithio ar ei lefelau siwgr yn y gwaed ac wedi gwaethygu ei hepatitis awtoimiwn sy’n achosi problemau gyda’r afu.

“O’r eiliad y cerddais i mewn, roedden nhw’n gallu gweld fy mod i’n sâl. Roeddwn i’n edrych yn llwyd. Er mai dyma anterth cyfnod prysur y gaeaf, cefais fy ngweld yn gyflym. Pe na bawn i wedi mynd i’r ysbyty pan es i, mae’n gas gennyf feddwl sut gyflwr fyddai wedi bod arna i.”

Bu’n rhaid iddo aros dros nos yn yr uned achosion brys er mwyn i glinigwyr allu monitro ei gyflwr yn fanwl a rhoi hylifau mewnwythiennol iddo i’w helpu i wella.

“Er i mi gael fy rhyddhau 24 awr yn ddiweddarach, parheais i deimlo’n sâl am wythnosau lawer wedyn,” meddai. “Fe wnes i golli llawer o bwysau gan nad oeddwn yn teimlo fel bwyta, a gwnes i ddim codi o’r gwely o gwbl ar Ddydd Nadolig.”

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn dechrau ei raglen brechu rhag y ffliw a COVID-19 ym mis Medi. Mae’r rhai sy’n gymwys yn cynnwys:

Brechiad rhag y ffliw
  • Plant dwy a thair oed ar 31 Awst, 2024
  • Plant yn yr ysgol gynradd o’r dosbarth derbyn i flwyddyn 6 (cynhwysol)
  • Plant yn yr ysgol uwchradd o flwyddyn 7 i flwyddyn 11 (cynhwysol)
  • Pobl rhwng 6 mis a 64 oed mewn grwpiau risg glinigol
  • Pobl 65 oed ac yn hŷn (oedran ar 31 Mawrth, 2024)
  • Menywod beichiog
  • Gofalwyr sy’n 16 mlwydd oed ac yn hŷn
  • Pobl rhwng 6 mis a 65 oed sy’n byw gyda rhywun sydd â system imiwnedd wan
  • Pobl ag anabledd dysgu
  • Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
  • Yr holl staff mewn cartrefi gofal sydd â chyswllt rheolaidd â chleientiaid

Bydd y brechlyn ffliw chwistrell trwyn i blant a phobl ifanc yn dechrau ym mis Medi. Bydd y rhai 2 a 3 oed yn cael eu brechlynnau yn bennaf mewn meddygfeydd, tra bydd plant cynradd ac uwchradd yn cael eu gwahodd am eu rhai nhw yn yr ysgol. Mae pigiad heb gelatin hefyd ar gael trwy bractisau meddyg teulu neu glinigau brechu cymunedol.

Bydd y broses o gyflwyno brechlyn y ffliw ymhlith oedolion yn dechrau ym mis Hydref.

Brechiad COVID-19
  • Pobl rhwng 6 mis a 64 oed sydd â chyflwr iechyd hirdymor (sy’n cynnwys menywod beichiog a phobl â system imiwnedd wan)
  • Preswylwyr mewn cartref gofal i oedolion hŷn
  • Pobl 65 oed ac yn hŷn (oedran ar 31 Mawrth, 2025)
  • Gofalwyr di-dâl
  • Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
  • Staff sy’n gweithio mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn

Bydd y broses o gyflwyno’r brechlyn COVID-19 ar gyfer grwpiau cymwys yn dechrau ym mis Hydref.

“Byddwn i’n bendant yn dewis y brechlyn rhag y ffliw, a dioddef o fraich ychydig yn dyner, na mynd trwy’r hyn a brofais i eto,” ychwanegodd Joseph.

“Rwy’n ofni’r syniad o ddal y ffliw eto y gaeaf hwn, a’r ffordd orau o’i atal yw trwy gael y brechlyn.”

Bydd pob person cymwys yn cael ei wahodd trwy lythyr i dderbyn eu brechiadau COVID-19 a’r ffliw naill ai yn eu practis meddyg teulu, fferyllfa leol neu glinig brechu cymunedol agosaf.

Ar y cam hwn yn y rhaglen ni fydd pobl yn gallu cerdded i mewn i glinig brechu cymunedol heb apwyntiad.

I’r rhai sydd ag apwyntiadau, mae cyfeiriadau’r canolfannau brechu cymunedol fel a ganlyn:

  • Hyb Trelái: Heol Orllewinol y Bont-faen, Trelái, CF5 5BQ
  • Ysbyty’r Barri: Heol Colcot, Y Barri, CF62 8YH
  • Canolfan Iechyd Butetown: Plas Iona, Butetown, CF10 5HW
  • Ysbyty Rookwood: Heol y Tyllgoed, Llandaf, CF5 2YN
  • Y Sblot: The Old Star Centre, 2 Heol y Sblot, y Sblot, Caerdydd, CF24 2BZ
  • Hyb Cymunedol Penarth
  • Hyb Maelfa: Round Wood, Llanedeyrn, CF23 9PF

Mae rhagor o wybodaeth am frechlynnau’r ffliw a COVID-19 ar gael ar Brechlyn ffliw a brechlyn COVID-19 hydref/gaeaf 2024/25.

Dilynwch ni