Neidio i'r prif gynnwy

Ffioedd deintyddol GIG Cymru o 1 Ebrill 2024

Bydd ffioedd deintyddol GIG Cymru yn cynyddu ar 1 Ebrill 2024. Os ydych yn talu am driniaeth ddeintyddol y GIG, byddwch yn talu un o’r taliadau safonol canlynol a bennir gan Lywodraeth Cymru: 

Band 1 — £20 

Mae hyn yn cynnwys archwiliad, diagnosis, gofal ataliol a chynllunio ar gyfer triniaeth bellach. 

Band 2 — £60 

Mae hyn yn cynnwys yr holl driniaethau angenrheidiol a gwmpesir gan y tâl o £20.00 YN OGYSTAL Â thriniaeth ychwanegol megis llenwadau, triniaeth sianel y gwreiddyn neu dynnu dannedd. 

Band 3 — £260 

Mae’r ffi hwn yn cynnwys yr holl driniaeth angenrheidiol a gwmpesir gan y taliadau o £20.00 a £60.00 YN OGYSTAL Â choronau, dannedd gosod a phontydd. 

Os oes angen triniaeth Band 1, Band 2 neu Fand 3 arnoch, byddwch yn talu un ffi hyd yn oed os byddwch yn ymweld fwy nag unwaith i gwblhau cwrs o driniaeth. 

Gofal Brys — £30 

Bydd hyn yn cynnwys asesiad, diagnosis a gofal ataliol. Os oes angen, bydd yn cynnwys pelydrau-X ac unrhyw driniaeth angenrheidiol i atal dirywiad sylweddol yn y cyflwr neu i fynd i’r afael â phoen difrifol. 

Os ydych wedi’ch eithrio rhag taliadau deintyddol y GIG, byddwch yn derbyn gofal a thriniaeth am ddim. Gallwch ddefnyddio’r gwiriwr ar-lein i weld a oes gennych hawl i gael cymorth.

Ni chodir tâl am bresgripsiwn y GIG yng Nghymru. 

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i llyw.cymru/ffioedd-deintyddol-ac-eithriadau-y-gwasanaeth-iechyd-gwladol-gig

Dilynwch ni