27 Medi 2024
Nid oes rhodd fwy na’r rhodd o fywyd trwy roi organau a, phan fydd anwylyd yn sâl, gallwch deimlo’n ddiymadferth. Dros gyfnod o 30 mlynedd, cafodd Mary ac Oliver Hando y cyfle i roi un o’u harennau ac achub bywyd mab a thad ddwywaith.
Daeth Mary yn ymwybodol o broblemau wrinol cronig ei mab, Steven am y tro cyntaf pan oedd yn 12 oed yn unig. Cafodd Steven ei ruthro i’r ysbyty gydag achos tybiedig o lid y pendics, ond daeth yn amlwg yn fuan mai ei arennau oedd yn achosi’r broblem fawr.
Trosglwyddwyd Steven i Ysbyty St Phillips yn Llundain lle cafodd lawdriniaeth. Ni lwyddwyd i achub un aren a dangoswyd bod gan y llall weithrediad isel iawn, ond fe wellodd honno dros amser a’i gynnal am 20 mlynedd.
Dywedodd Mary; “Ar ôl y cyfnod hwnnw, sylweddolwyd nad oedd yr aren yn gweithio’n dda a bod angen dialysis. Pan ddaeth i’r amlwg wedyn nad oedd hyd yn oed dialysis yn ddigon a bod angen trawsblaniad, dechreuodd ei dad a minnau brofion cydnawsedd er mwyn dod yn rhoddwyr byw. Roedd y ddau ohonom yn gydnaws ond fi gafodd fy newis.”
“Yn amlwg roedd rhywfaint o bryder – ond pa fam na fyddai’n gwneud popeth o fewn ei gallu i achub bywyd ei phlentyn? Felly, ym mis Gorffennaf 1993, digwyddodd y trawsblaniad yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd. Roedd popeth i weld yn mynd yn dda heblaw bod angen aros ychydig ddyddiau cyn i’r aren a drawsblannwyd ddechrau gweithio. Unwaith i hynny digwydd, trawsnewidiwyd bywyd Steven am y 29 mlynedd nesaf.”
“Cymerodd ychydig o amser i mi wella’n llwyr. Nid oedd llawdriniaeth twll clo ar gael i mi ym 1993, ond gyda 31 mlynedd wedi bod ers rhoi fy aren, nid wyf erioed wedi teimlo bod unrhyw beth ‘ar goll’. Mae fy iechyd cyffredinol wedi bod yn dda iawn.”
Gan symud ymlaen at 2019, dechreuodd Steven gael problemau eto ac, yn y pen draw, cafodd ei roi ar ddialysis unwaith yn rhagor gyda’r angen i ddod o hyd i roddwr arall. Dyma lle daeth mab Steven, Oliver, i chwarae ei ran.
Dechreuodd Oliver ei rownd gyntaf o brofion i weld a fyddai’n rhoddwr cydnaws ac, yn ffodus, cafwyd ateb cadarnhaol;
“Drwy lwc, y tro hwn, ni ddirywiodd aren fy nhad mor gyflym â’r tro diwethaf felly roedd yn gallu mwynhau ychydig mwy o flynyddoedd o fywyd normal cyn bod angen iddo fod yn ôl ar ddialysis yn 2022. Ar ôl 18 mis o brofion pellach, gan wneud yn siŵr bod iechyd fy nhad yn dda, ac aros am ddyddiad y trawsblaniad, fe ddigwyddodd o’r diwedd.”
Derbyniodd Steven aren Oliver ar 5 Awst 2024 yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Wrth siarad am sut y gwnaeth gallu bod yn rhoddwr i’w dad wneud iddo deimlo, dywedodd Oliver;
“Pan wnes i ddarganfod am y tro cyntaf fy mod yn opsiwn posibl, sylweddolais mai hwn oedd un o’r penderfyniadau mwyaf yr oeddwn erioed wedi gorfod eu gwneud. Fodd bynnag, ar ôl darllen rhai llyfrynnau gwybodaeth am y broses a’r risgiau, roeddwn yn hyderus fy mod eisiau mynd amdani.
Roeddwn wrth fy modd yn darganfod fy mod wedi pasio’r prawf iechyd trylwyr a’m bod yn cyfateb bron yn berffaith fel rhoddwr. Bu’n rhaid aros yn hir wedyn tra roeddem yn aros i iechyd fy nhad fod mewn lle da ac am wahanol brofion ar ei ochr. Nid oedd yn teimlo’n real am gryn dipyn, nes yn sydyn, dywedwyd wrthym fod dyddiad dim ond tair wythnos i ffwrdd wedi dod ar gael yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Roedd yn teimlo fel tipyn o sioc ei fod yn mynd i ddigwydd o’r diwedd. Cefais ychydig wythnosau o deimlo’n nerfus yn arwain at y llawdriniaeth ond gyda chefnogaeth wych fy ffrindiau, fy nheulu a fy mhartner, roeddwn yn teimlo’n barod ac yn hyderus pan gyrhaeddodd diwrnod y trawsblaniad.”
Mae Oliver a Steven bellach chwe wythnos i mewn i’w hadferiad, a diolch byth roedd gweithrediad aren newydd Steven yn wych yn syth ar ôl y trawsblaniad. Mae Steven yn gwella’n dda ac yn edrych ymlaen yn fawr at ei fywyd yn y dyfodol heb ddialysis. Mae’n gobeithio teithio unwaith eto i’r holl leoedd y mae’n eu caru.
Mae Oliver a Mary wedi llwyddo i achub bywyd Steven nid unwaith, ond ddwywaith ac roeddent yn awyddus i rannu eu neges am roi organau gyda’r rhai a allai fod yn ystyried cychwyn ar eu taith eu hunain fel rhoddwyr;
“I unrhyw un sy’n ystyried dod yn rhoddwr, byddwn i’n dweud mai eich dewis chi yw hi bob amser ac ni ddylech deimlo dan unrhyw bwysau i roi os ydych chi’n ansicr yn ei gylch. Mae bob amser risg wrth roi a gydag unrhyw lawdriniaeth, ond mae’r risgiau hyn yn glir i chi o’r cychwyn cyntaf ac mae’r staff yn hapus iawn i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych ar unrhyw adeg.
Os ydych chi’n dewis bwrw ymlaen â rhoi, rydych chi’n rhoi anrheg enfawr ac mae’n un o’r pethau mwyaf gwerth chweil y gwnewch chi yn eich bywyd. Byddwch yn cael eich cefnogi yr holl ffordd ar hyd y daith gan gynnwys trwy gydol eich adferiad.”
Gallai treulio dau funud yn gwneud rhywbeth nawr achub hyd at 9 bywyd. Cadarnhewch eich penderfyniad i roi organau a rhoi gwybod i'ch teulu. Dyma’r peth gorau wnewch chi heddiw. Ewch i organdonation.nhs.uk.