Neidio i'r prif gynnwy

Dydd Gŵyl Dewi Hapus

1 Mawrth 2024

Pwy oedd Dewi Sant?

Ganwyd Dewi Sant yn 500 a bu farw ar 1 Mawrth – Dydd Gŵyl Dewi - yn 589. Ef yw’r unig nawddsant brodorol yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon. Mae’n debyg i’w fam, Santes Non, roi genedigaeth iddo yn ystod storm! Dewi Sant oedd y ffigwr mwyaf yn Oes y Seintiau yn y 6ed ganrif. Teithiodd ymhell ac agos, a sefydlodd ugeiniau o gymunedau crefyddol ledled Cymru a Lloegr. Mae gweddillion Dewi Sant wedi’u claddu yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi, Sir Benfro.

Bu farw Dewi Sant ar 1 Mawrth – Dydd Gŵyl Dewi - yn 589. Fe’i claddwyd ar safle Eglwys Gadeiriol Tyddewi, lle bu ei gysegrfa yn fan pererindod poblogaidd drwy gydol yr Oesoedd Canol. Daeth ei eiriau olaf i’w ddilynwyr o bregeth a roddodd ar y dydd Sul cynt: ‘Byddwch lawen, cadwch y ffydd, a gwnewch y pethau bychain a welsoch ac a glywsoch gennyf i.’

Mae ‘Gwnewch y pethau bychain mewn bywyd’ - yn dal i fod yn ymadrodd adnabyddus yng Nghymru.

Dilynwch ni