Neidio i'r prif gynnwy

Dosau Atgyfnerthu'r Gwanwyn COVID-19 bellach ar gael i'r rhai sy'n gymwys wrth alw heibio i Ganolfannau Brechu Torfol

10 Mehefin 2024

Gall pobl sy’n gymwys ar gyfer Dos Atgyfnerthu’r Gwanwyn COVID-19, ond sydd heb ei dderbyn, bellach alw heibio i un o Ganolfannau Brechu Torfol BIP Caerdydd a’r Fro.

Nod y rhaglen, a ddechreuodd ar 2 Ebrill ac a fydd yn cael ei chynnal tan 30 Mehefin, yw cynnig amddiffyniad ychwanegol i’r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru.

Mae’r rhai sy’n gymwys ar gyfer Dos Atgyfnerthu’r Gwanwyn COVID-19 yn cynnwys:

  • oedolion sy’n 75 mlwydd oed ac yn hŷn
  • preswylwyr mewn cartrefi gofal i bobl hŷn, ac
  • unigolion 6 mis oed ac yn hŷn sydd â system imiwnedd wan.

Dylai pob unigolyn cymwys fod wedi derbyn gwahoddiad i gael y brechiad trwy lythyr personol i’w cyfeiriad cartref.  Fodd bynnag, gall y rhai sydd heb dderbyn y dos atgyfnerthu bellach alw heibio i un o Ganolfannau Brechu Torfol y Bwrdd Iechyd heb apwyntiad.

Mae’r Canolfannau Brechu Torfol wedi’u lleoli yn Ysbyty Rookwood, Llandaf, CF5 2YN (ar agor saith diwrnod yr wythnos, 9am-6pm) ac Ysbyty’r Barri, CF62 8YH (ar agor ar ddydd Sadwrn yn unig, 9am-6pm).

Os ydych wedi derbyn gwahoddiad trwy lythyr i gael y brechiad ac ni allwch fynychu eich apwyntiad, ffoniwch y ganolfan alwadau Brechu Torfol ar 02921 841234 rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio gwyliau banc.

Brechiadau yw’r amddiffyniad gorau o hyd yn erbyn salwch difrifol sy’n deillio o COVID-19. Mae’r amddiffyniad yn gostwng dros amser, felly mae’n bwysig cael y brechiadau diweddaraf os ydych yn gymwys.

Mae rhagor o wybodaeth am ddos atgyfnerthu’r gwanwyn ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yma.

Mae’r ddwy Ganolfan Brechu Torfol hefyd ar agor i oedolion a phlant alw heibio i gael y brechiad rhag y frech goch. Mae achosion o’r frech goch yng Ngwent ar hyn o bryd ac mae arbenigwyr iechyd y cyhoedd yn ofni y bydd yn lledaenu i Gaerdydd a’r Fro.

Y frech goch yw un o’r clefydau mwyaf heintus yn y byd a gall achosi ystod o gymhlethdodau difrifol mewn pobl heb eu brechu, yn enwedig plant.

Ffoniwch y Tîm Iechyd Plant Lleol ar 02921 836926 neu 02921 836929 i wirio a yw eich plentyn eisoes wedi’i frechu. Dyw hi byth yn rhy hwyr i ddal i fyny ar y dosau a fethwyd.

Dilynwch ni