Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2024 | Cwrdd â rhai o'r menywod ysbrydoledig yn BIPCAF 

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ddathliad byd-eang o gyflawniadau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod a'r thema eleni yw #YsbrydoliCynhwysiant.  

Wrth i fenywod ledled y byd ddod at ei gilydd i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2024, mae rhai o'n cydweithwyr wedi rhannu eu meddyliau a'u straeon.  

 

Zoe Morrison —Nyrs Glinigol Arbenigol Syndrom Heb Enw (SWAN) 

Rwy'n gweithio gyda phlant yr amheuir bod ganddynt glefyd heb ddiagnosis, a'u teuluoedd. Rwy'n cefnogi'r teulu trwy eu taith ddiagnostig yng Nghlinig SWAN ac yn darparu gofal cydgysylltiedig yn ogystal â chymorth cyfannol a seicogymdeithasol. 

Fy hoff ran o'm swydd yw'r cleifion a'r teuluoedd rwy'n gweithio gyda nhw a'r tîm rwy'n gweithio ochr yn ochr â nhw. Rwyf wedi gallu cwrdd a gweithio'n agos gydag eraill ledled y byd sy'n ymroddedig i wella bywydau cleifion a'u teuluoedd y mae clefyd prin neu glefyd heb ddiagnosis wedi effeithio arnynt. 

Pe baech yn gofyn i mi bum mlynedd yn ôl ble y byddwn yn gweld fy hun ni fyddwn byth wedi breuddwydio hyd yn oed am fod yn y sefyllfa rydw i nawr gyda'r cyfleoedd sydd gen i. Byddwn yn annog unrhyw un sy'n ystyried swydd fel fy un i beidio â bod ofn yr her newydd, efallai mai dyma'r peth gorau a wnaethoch chi erioed! 

Thema eleni yw Ysbrydoli Cynhwysiant ac rwy'n credu ei bod yn hynod bwysig cael gweithlu amrywiol a chynhwysol. Mae ein poblogaeth cleifion mor amrywiol ac mae'n bwysig bod hyn hefyd yn cael ei gydnabod a'i gynrychioli yn ein gweithlu. Mae cael gweithlu amrywiol a chynhwysol yn caniatáu inni gysylltu a chydymdeimlo’n wirioneddol â'n cleifion ac mae'n creu cyfle i ofal iechyd fod yn hygyrch i bawb, waeth beth fo'u rhyw, diwylliant, oedran, cenedligrwydd neu gyfeiriadedd rhywiol. 

 

Indu Deglurkar — Llawfeddyg Cardiothorasig Ymgynghorol 

Ymunais â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro am y tro cyntaf 30 mlynedd yn ôl ar ôl fy interniaeth ac rwyf wedi bod yn Llawfeddyg Cardiothorasig Ymgynghorol ers 2010. Rwy'n cael boddhad aruthrol yn perfformio llawdriniaethau risg uchel ar y galon i wella ansawdd bywyd ein cleifion ac yn mwynhau cyfrannu at ein cymdeithas broffesiynol ac ehangach trwy fy rolau arwain.

Mae eleni yn nodi 113 o flynyddoedd ers Diwrnod Rhyngwladol y Menywod cyntaf ac rydym yn parhau i frwydro dros gydraddoldeb rhywiol ac mae gennym ffordd bell i fynd.

Mae menywod yn cael eu tangynrychioli’n ddifrifol o fewn llawdriniaeth gardiaidd yn y DU. Hyd at 2014, roedd pum meddyg cardiaidd ymgynghorol benywaidd yn y DU a heddiw mae gennym 20. Er y gall ymddangos yn gynnydd esbonyddol, mae'n debyg ei fod yn dal i gynrychioli tua 6% o gyfanswm nifer y llawfeddygon cardiaidd ymgynghorol.

Mae amrywiaeth gyfoethog yn y GIG ond dim ond drwy fod yn gynhwysol y gellir harneisio’r manteision hyn. Mae ymchwil mewn sectorau corfforaethol wedi dangos dro ar ôl tro bod timau amrywiol a chynhwysol yn hynod gynhyrchiol, yn fwy creadigol ac yn gwneud penderfyniadau rhagorol. Os gellir goresgyn rhagfarn a gwahaniaethu, bydd yr ymdeimlad o berthyn yn adeiladu timau hynod effeithiol.

Os ydych chi'n teimlo bod gennych chi'r deheurwydd, y gallu a'r gwytnwch i ddod yn llawfeddyg, rhaid i chi ddilyn eich breuddwyd. Nid oes terfyn ar yr hyn y gallwch ei gyflawni.

 

Abigail Bernard — Cyd-Gadeirydd y Rhwydwaith Anabledd 

Rwyf wrth fy modd bod fy rôl yn caniatáu imi eirioli dros unigolion anabl a chreu newid cadarnhaol. Mae bod yn rhan o rwydwaith sy'n gweithio'n weithredol tuag at wella hygyrchedd a chynrychiolaeth yn hynod foddhaol.  

Wrth i ni ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (IWD), rwy'n gweld bod fy ngwerthoedd teuluol cryf yn cydblethu â'r mudiad byd-eang hwn. Rwy'n credu'n gryf bod grymuso menywod yn cael effaith eang, gan fod o fudd nid yn unig i unigolion ond hefyd i deuluoedd, cymunedau a chymdeithas gyfan.  

Ar y diwrnod hwn, rydym yn sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda'n chwiorydd ledled y byd. Rydym yn cydnabod ein brwydrau a rennir ac yn atseinio ein lleisiau ein gilydd. Boed yn chwalu rhwystrau, eirioli dros gyfle cyfartal, neu'n herio stereoteipiau, mae IWD yn ein hatgoffa mai ymdrech gydweithredol yw cynnydd.  

Mae thema IWD eleni, Ysbrydoli Cynhwysiant, yn atseinio'n ddwfn gyda mi. Mae cynhwysiant yn golygu cydnabod profiadau amrywiol menywod - ar draws diwylliannau, galluoedd a chefndiroedd. Pan fyddwn yn ysbrydoli cynhwysiant, rydym yn creu byd lle mae pob menyw yn teimlo ei bod yn cael ei gweld, ei gwerthfawrogi a'i grymuso  

Mae gweithlu amrywiol a chynhwysol yn hanfodol yn y GIG ar gyfer gwell gofal cleifion, llai o wahaniaethau iechyd, arloesedd a lles staff. Mae'n rhwymedigaeth gyfreithiol ac yn hollbwysig o’r safbwynt moesegol.  

 

Rachel Flynn — PA o fewn y Tîm Iechyd y Cyhoedd Lleol 

Rwyf wrth fy modd â'r amrywiaeth o fewn fy rôl a'r gallu i gysylltu â chymaint o bobl wahanol, y tu mewn a'r tu allan i'r bwrdd iechyd.  

Rwyf wedi gweithio ym maes gofal iechyd ers mis Ebrill 2020 a chefais fy ysbrydoli i wneud hynny ar ôl i mi dderbyn gofal dwys gan y GIG yn dilyn salwch o'r enw Seicosis Ôl-enedigol ar ôl geni fy mab yn 2017. Cyn hyn, roeddwn i'n gweithio fel Rheolwr Cyfleusterau Ardal Rhanbarthol yn y byd corfforaethol, felly roedd yn wahanol iawn! 

Mewn gwirionedd, disgwyliwyd i’m mab gael ei eni ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod - 8fed o Fawrth 2017! Roedd y salwch yn gyfnod anodd iawn i mi ac nid oeddwn yn gallu siarad, darllen nac ysgrifennu am rai misoedd. Ar ôl fy adferiad, roedd yn bwysig i mi allu rhoi yn ôl i'r GIG a chodi ymwybyddiaeth o'r salwch.  

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn bwysig i mi gan ei fod yn gyfle i ddathlu'r holl bethau anhygoel y mae menywod yn eu cyflawni ledled y byd. Mae cael gweithlu amrywiol a chynhwysol o fewn y GIG yn wych. 

 

Kate Waters (Hi) — Bydwraig 

Ar hyn o bryd, rwyf wedi fy lleoli yn y gymuned ac yn gofalu am fenywod a phobl feichiog cyn y geni ac ar ôl y geni yn bennaf. Fodd bynnag, rwyf hefyd wedi cael y fraint o hwyluso dwy enedigaeth hardd gartref!

Mae’n fraint cael bod yn fydwraig; mae gallu bod gyda menywod a’u teuluoedd yn ystod y garreg filltir hon, sy’n newid eu bywyd, yn rhywbeth na fyddaf byth yn ei gymryd yn ganiataol.

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod i mi yw dathlu pob menyw a chyflawniadau ein gilydd a gwerthfawrogi’r menywod sydd wedi paratoi’r ffordd ar gyfer ffeministiaeth a chydraddoldeb rhywiol tra’n cydnabod pa mor bell sydd gennym i fynd cyn i ni gyrraedd gwir degwch rhwng y rhywiau.

Mae cael gweithlu amrywiol a chynhwysol yn hanfodol o fewn y GIG ac o fewn gwasanaethau mamolaeth. Mae cynrychiolaeth yn hollbwysig i sicrhau bod pob claf a defnyddiwr gwasanaeth yn teimlo’n gyfforddus wrth dderbyn gofal ac yn helpu i chwalu rhwystrau a gwneud newid cadarnhaol.

Byddwn yn dweud wrth unrhyw un sy’n ystyried bydwreigiaeth i fynd amdani yn bendant. Mae’r byd angen mwy o fydwragedd o bob cefndir! Mae cefnogi menywod, pobl sy’n geni a theuluoedd yn alwedigaeth, ac nid yn swydd na gyrfa; mae’n dod o’r galon.

 

Rhian Thomas Turner — Arweinydd Ymchwil a Datblygu ar gyfer Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru 

Rwy’n rheoli’r tîm cyflawni ymchwil pediatrig, sydd wedi’i leoli yn yr Uned Ymchwil Plant ac Oedolion Ifanc; yr unig gyfleuster ymchwil clinigol ar gyfer pobl ifanc o dan 18 oed yng Nghymru.

Fe wnes i arwain y gwaith o sefydlu CYARU pan ymunais â NACHfW yn 2016 ac mae gwireddu’r prosiect, gan ddechrau gyda’r cam cynllunio a’i droi’n rhywbeth sy’n effeithio ar fywydau cleifion, wedi bod yn brofiad anhygoel.

Mae gennyf gefndir yn y gyfraith, gan gynnwys gradd meistr mewn Agweddau Cyfreithiol ar Ymarfer Meddygol o Brifysgol Caerdydd. Rwy’n gwneud PhD yn y gyfraith ar hyn o bryd, sy’n ystyried a oes gan blant yr hawl i elwa o ymchwil glinigol. Mae’r ymchwil hwn yn cael ei gynnal drwy Brifysgol Abertawe, lle rwyf hefyd yn aelod cyswllt o’r Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant.

Yn ogystal, cefais fy ethol yn ddiweddar i Fwrdd ‘Global Alliance of Impact Lawyers’ y DU ac rwyf hefyd yn eistedd ar Grŵp Cynghori Arbenigol Meddyginiaethau Pediatrig yr MHRA.

Rwy’n ymwybodol iawn na fyddai CYARU yn llwyddiant oni bai am y tîm o nyrsys ymchwil gweithgar, hynod fedrus ac ymroddedig yr wyf yn gweithio gyda nhw. Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn gyfle i ddathlu a thynnu sylw at gyfraniad y menywod hyn i’r GIG.

Dylai gweithlu amrywiol a chynhwysol arwain at amrywiaeth o safbwyntiau. Mae hyn yn hollbwysig os ydym yn dymuno adeiladu gwasanaethau sy’n bodloni anghenion y boblogaeth.

 

 

Dilynwch ni