27 Medi 2024
Ddydd Mawrth 1 Hydref rydym yn dathlu 'Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn'; ymgyrch fyd-eang a gymeradwyir gan y Cenhedloedd Unedig i godi ymwybyddiaeth o'r cyfraniad cymdeithasol gwerthfawr y mae pobl hŷn yn ei wneud.
Derbynnir yn eang bod pobl yn byw'n hirach a bod disgwyliad oes yn uwch o lawer na 75 mlynedd mewn bron i hanner y gwledydd ledled y byd. Erbyn 2030 amcangyfrifir y bydd nifer y bobl hŷn yn drech na'r carfannau o blant a phobl ifanc gyda'i gilydd, yn fwyaf nodedig mewn gwledydd sy'n datblygu'n gyflym.
Yn y DU, mae cyfran y bobl sy'n gweithio neu'n gwirfoddoli y tu hwnt i'r oedran ymddeol gwladol 'traddodiadol' o 65 yn y DU yn parhau i gynyddu. Thema #DiwrnodRhyngwladolPoblHŷn yw;
Hoffem achub ar y cyfle hwn i ddiolch i gydweithwyr, gwirfoddolwyr a phobl sy’n darparu gofal di-dâl yn ein cymunedau ac yn rhoi cefnogaeth werthfawr i lawer o bobl.
I nodi'r achlysur hwn, bydd cydweithwyr sy'n gweithio fel rhan o Raglen Heneiddio'n Dda CAVRPB yn cynnal stondin ym mhrif ardal gyhoeddus Ysbyty Athrofaol Llandochau ar 1 Hydref.
Dywedodd Ruth Cann, Nyrs Ymgynghorol Oedolion Hŷn Agored i Niwed:
“Gellir defnyddio’r ymgyrch hon i hyrwyddo negeseuon ynghylch heneiddio’n iach. Nid yw syndromau neu salwch fel eiddilwch, cwympiadau neu ddementia yn ganlyniad anochel i heneiddio. Gallwn hefyd ei ddefnyddio fel cyfle i herio rhagfarn ar sail oedran a myfyrio ar yr iaith a ddefnyddir ym maes iechyd wrth siarad am Bobl Hŷn a chyfathrebu â nhw.
'Dewis iaith wrth gyfeirio at bobl hŷn mewn cyd-destun iechyd' |Cymdeithas Geriatreg Prydain
Heneiddio'n Dda | CAVRPB
Caerdydd Oed Gyfeillgar | Gweithio tuag at Ddinas Oed Gyfeillgar
Arwain Ffordd Iach o Fyw |Cadw Fi'n Iach
Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn |Canolfan Heneiddio’n Well