Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched Mewn Gwyddoniaeth - Menywod mewn Ymchwil yn BIP Caerdydd a'r Fro

11 Chwefror 2021

I nodi Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched Mewn Gwyddoniaeth heddiw, rydym yn amlygu’r cyfraniad mawr mae menywod yn ei wneud i’n gweithgarwch ymchwil a datblygu. Darllenwch beth mae ymchwil yn ei olygu i aelodau o’n tîm Ymchwil a Datblygu.

Dr Emma Tallantyre

Niwrolegydd Ymgynghorol ac Uwch-ddarlithydd Clinigol mewn Niwrowyddoniaeth.

Dr Emma Tallantyre Pan oeddwn i’n hyfforddi i fod yn feddyg, roeddwn i’n gweld ymchwil a gwyddoniaeth fel pethau anhygoel roedd pobl eraill yn eu gwneud. Doeddwn i ddim yn siŵr os oeddwn i’n ddigon clyfar i ddarganfod pethau newydd neu i wneud gwahaniaeth. Ond roeddwn i’n ffodus i gael fy ysbrydoli a fy annog gan rai mentoriaid gwych. Doeddwn i ddim yn sylweddoli ar y pryd fod gwyddoniaeth yn fwy na labordai a hafaliadau. Mae’n ymwneud â chwrdd â phobl, cael trafodaethau, ffurfio timau a datrys problemau gyda’ch gilydd. Bellach, mae ymchwil yn cynnig amrywiaeth, hyblygrwydd, cyfleoedd i deithio ac yn fwy na dim, yn gwneud i mi fwynhau mynd i’r gwaith bob dydd. Rydw i’n niwrolegydd ac yn ymchwilydd ym maes niwroleg. Rydw i’n astudio sglerosis ymledol, afiechyd sydd fel arfer yn dechrau yn gynnar ym mywyd oedolyn ac yn effeithio ar bobl trwy gydol eu hoes. Mae fy ngwaith yn canolbwyntio ar ddeall pam fod gan bobl sydd ag MS brofiadau a chanlyniadau gwahanol, a threialu dulliau gwahanol o drin MS.

Yn union fel fi, rydw i’n teimlo bod llawer o fenywod yn ansicr o ran a oes ganddynt yr hyn sydd ei angen i gyrraedd y brig ym maes gwyddoniaeth - o ganlyniad mae rhagor o ddynion mewn uwch-swyddi academaidd o hyd. Ond mae pethau yn newid er gwell. Mae menywod yn cael mwy o’r cyfleoedd maen nhw’n eu haeddu ym maes gwyddoniaeth ac yn dangos sgiliau pwerus o ran rheoli prosiectau ac arwain. Rydw i’n fam i dair o ferched ac rydw i’n meddwl weithiau tybed a ydw i’n eu harwain nhw i “wneud gwyddoniaeth”. Ond ers iddynt fod yn fach, rydw i wedi gwylio sut maent yn mwynhau archwilio, darganfod a rhannu eu rhyfeddod at y byd o’u cwmpas: dyma beth rydyn ni gyd yn ei wneud mor naturiol fel plant. Wrth feddwl meddwl am y peth, dyna yw hanfod gwyddoniaeth - felly peidiwch â chael eich twyllo i feddwl ei fod yn fwy addas i rywun arall - efallai mai dyma eich cyfle i barhau i archwilio a darganfod trwy gydol eich gyrfa.

Jade Cole

Arweinydd Tîm Ymchwil Gofal Critigol

Jade Cole Fe wnes i ddechrau gweithio fel Nyrs Gofal Dwys yn 2004 a fi oedd un o’r nyrsys cyntaf i ymuno â’r tîm ymchwil gofal critigol yn 2011. Tyfodd y tîm wrth i ni gymryd rhan mewn mwy o astudiaethau ymchwil ac yn 2017, fi oedd yr Arweinydd Tîm Ymchwil Gofal Critigol cyntaf yng Nghymru.

Mae bob dydd yn wahanol yn fy swydd i, rydw i’n cael defnyddio fy sgiliau clinigol gyda’n cleifion, addysgu, sefydlu cyrsiau hyfforddi ymchwil a chynnal portffolio mawr o astudiaethau clinigol yn yr uned gofal dwys. Rydw i’n ymgymryd â rôl Prif Ymchwilydd ar gyfer y treialon clinigol, yn cyhoeddi mewn cyfnodolion meddygol ac yn helpu fy nghydweithwyr meddygol i wneud yr un fath. Mae fy nhîm yn gweithio ar astudiaethau ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol sy’n dylanwadu ar driniaethau cleifion sy’n ddifrifol wael yn fyd-eang.

Rydw i wir yn caru’r effaith mae ymchwil clinigol yn ei gael ar ofal cleifion. Diben popeth rydym yn ei wneud yw sicrhau bod cleifion yn cael y gofal gorau posibl yn seiliedig ar dystiolaeth. Dyna ran orau’r swydd i fi; gwybod ein bod ni’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n cleifion.

Lucy Knibbs

Nyrs Ymchwil

Lucy Knibbs Mae fy rôl fel nyrs ymchwil wedi fy ngalluogi i gyfuno fy niddordeb mewn gwyddoniaeth â’r sgiliau nyrsio rydw i wedi’u datblygu trwy gydol fy ngyrfa.

Yn ogystal â helpu gydag astudiaethau COVID-19 yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydw i hefyd wedi bod yn arwain astudiaethau ar gyfer cyfarwyddiaeth Gerontoleg Glinigol. Mae’r ddau faes yma wedi fy nghyflwyno i dimau clinigol gwych ac wedi fy helpu i ddatblygu fy ngwybodaeth ynghylch cyflyrau gwahanol a’r driniaeth sydd ar gael i gleifion.

Un o’r astudiaethau mwyaf cyffrous i fod yn rhan ohonynt oedd yr astudiaeth ddiweddar i frechlyn COVID-19 Janssen y cynhaliwyd gennym yn y Cyfleuster Ymchwil Clinigol. Yma, roeddwn i a dau nyrs ymchwil arall (y tîm nad oedd yn “ddall” (unblinded)) ymhlith rhai o’r gweithwyr proffesiynol cyntaf un ym maes iechyd yn y DU i baratoi a dosbarthu’r brechlyn newydd fel bod modd iddo gael ei weinyddu (gan y tîm brechu “dall” (blinded)) i gyfranogwyr. Pan gyhoeddwyd y canlyniadau ar gyfer yr astudiaeth hon ychydig wythnosau yn ôl, roedd y tîm cyfan yn gyffrous ynghylch eu cyfraniad i’r canfyddiadau hyn. Roedd hyd yn oed yn fwy arbennig ar ôl clywed bod y brechlyn COVID-19 penodol yma’n effeithiol ar ôl un dos!

Er fy mod i’n fenyw ym maes gwyddoniaeth, dydw i erioed wedi ystyried fy hun fel hyn. Yn anad dim, rydw i’n nyrs gyda’r sgiliau i gynnig gofal sy’n canolbwyntio ar y claf a gweithredu ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth yn y dyfodol.

Zoe Hilton

Uwch Nyrs Ymchwil

Zoe Hilton Fi yw’r Uwch Nyrs Ymchwil yn Ysbyty Athrofaol Llandochau ar hyn o bryd. Trwy gydol y pandemig, mae wedi bod yn hanfodol sefydlu a chyflwyno treialon clinigol COVI19 ar draws yr ysbyty er mwyn rhoi’r cyfleoedd gorau am driniaethau i’n cleifion. Mae wedi bod yn fraint gweithio ochr yn ochr â’r staff meddygol a nyrsio yn ystod y cyfnod hwn, i ddatblygu rôl y Nyrs Ymchwil a chreu lle mwy parhaol ar gyfer ymchwil yn ein meysydd clinigol yn y dyfodol. Gan nad ydw i’n teimlo fy mod i’n cael fy nhrin yn wahanol i unrhyw un o fy nghydweithwyr, rydw i’n cael trafferth yn gweld fy hun fel “menyw mewn ymchwil.”

 

 

 

Betsy Basker

Nyrs Ymchwil

Betsy Basker Ymunais â’r Cyfleuster Ymchwil Clinigol ym mis Ionawr 2020. Ers hynny, rydw i wedi bod yn gweithio fel nyrs ymchwil a chyflenwi. Yn ystod fy mhrofiad, gallwn weld sut y bydd triniaethau’r dyfodol yn cael eu seilio ar waith y tîm ymchwil. Felly, rydw i’n hapus iawn i fod yn rhan o’r tîm ymchwil. Ni fyddwn yn disgrifio fy hun fel menyw bwerus ond fodd bynnag, yn gymharol, gallaf ddweud fod mwy a mwy o fenywod mewn timau ymchwil. Felly, rydw i’n teimlo’n bwerus fel rhan o dîm o fenywod!

 

11/02/2021

Dilynwch ni