Diwrnod Hepatitis y Byd
Mae Diwrnod Hepatitis y Byd (WHD) yn ddigwyddiad blynyddol yn y calendr byd-eang sy'n cael ei gynnal ar 28 Gorffennaf i godi ymwybyddiaeth o hepatitis feirysol ac i annog newid gwirioneddol trwy addysg ac eiriolaeth ar gyfer atal, profi a thriniaeth.
Mae WHD, sy’n un o ddim ond pedwar diwrnod ymwybyddiaeth byd-eang sy'n benodol i glefydau a gymeradwyir yn swyddogol gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), yn uno sefydliadau gofal iechyd, llywodraethau, diwydiant a'r cyhoedd yn gyffredinol i hybu proffil hepatitis feirysol, yn fwyaf diweddar trwy lansio 'NOHep'; mudiad byd-eang i ddileu hepatitis feirysol erbyn 2030.
Hepatitis yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio llid yr afu. Mae fel arfer yn ganlyniad haint feirysol neu niwed i'r afu a achosir gan yfed alcohol.
Mae yna sawl math gwahanol o hepatitis. Bydd rhai mathau heb unrhyw broblemau difrifol, tra gall eraill fod yn hirhoedlog (cronig) ac achosi creithio'r afu (sirosis), colli gweithrediad yr afu ac, mewn rhai achosion, canser yr afu.
Amcangyfrifir bod 'dros 350 miliwn o bobl yn byw gyda hepatitis feirysol ar draws y byd a phob 30 eiliad, mae rhywun yn colli ei fywyd i salwch sy'n gysylltiedig â hepatitis’ (ffynhonnell: worldhepatitisalliance.org)
Dywedodd ein Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd, Fiona Kinghorn:
“Mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud o ran imiwneiddio a thrin hepatitis feirysol yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae'n hollbwysig cynnal y momentwm hwn.
Rwy'n falch o fod yn llysgennad, yn goruchwylio'r gwaith o gyflawni Cynllun Adfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, sy'n manylu ar ein hymateb lleol i liniaru nifer yr achosion a gadarnhawyd a'r risg o drosglwyddo ymhlith ein cymunedau.
Gan ddefnyddio dull partneriaeth, rydym wedi rhoi cymorth cymheiriaid ar waith i gleifion a theuluoedd drwy ddatblygu Rhwydwaith Cymorth Hepatitis Caerdydd a'r Fro, clinigau cymunedol wythnosol sy'n cynnig ymgynghoriad neu adolygiad cychwynnol ac yn fwyaf diweddar lansiwyd ein rhaglen Hyrwyddwyr Hepatitis sy'n darparu gwybodaeth am leihau niwed, cyngor ymarferol a ffynonellau cyfeirio i gleifion a theuluoedd.”
I gael rhagor o wybodaeth am hepatitis, cliciwch yma ac am ddadansoddiad manylach o arwyddion a symptomau sy'n gysylltiedig â'r gwahanol fathau o hepatitis ewch i dudalennau'r GIG.