Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad i gleifion a'r cyhoedd ar COVID-19

6 Hydref 2022

Mae nifer yr achosion o COVID-19 yn ein cymunedau yn cynyddu ac rydym yn dechrau gweld effaith hyn ar leoliadau gofal iechyd. Er mwyn amddiffyn ein cydweithwyr, ein cleifion a’n cymunedau, rydym wedi adolygu ein canllawiau presennol. Yn ogystal â lleihau’r effaith ar bobl, bydd gwneud y newidiadau angenrheidiol hefyd yn ein helpu i gynnal y gwasanaethau a ddarperir wrth i ni nesáu at y gaeaf. 

Cyfarpar diogelu personol (PPE) a gorchuddion wyneb 

Mae hi bellach yn ofynnol i’r holl staff sy’n dod i gysylltiad â chleifion wisgo masgiau llawfeddygol sy’n atal hylif yn eu hardaloedd gwaith, lle mae rhyngweithio â chleifion a’r cyhoedd yn digwydd. Rydym yn annog staff a chleifion yn gryf i wisgo gorchuddion wyneb ar draws ardaloedd ehangach fel coridorau a swyddfeydd, yn enwedig pan fyddant yn agos at eraill. Bydd cadw pellter cymdeithasol lle bo’n bosibl hefyd yn helpu i leihau lledaeniad COVID-19 a feirysau anadlol. 

Ymweld 

Yn sgil yr achosion cynyddol o COVID-19 mewn ysbytai, rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd i leihau nifer yr ymweliadau i un ymwelydd fesul claf bob dydd, er mwyn helpu i leihau lledaeniad COVID-19 a heintiau anadlu acíwt eraill. 

Bellach mae’n ofynnol i ymwelwyr wisgo gorchuddion wyneb neu gyfarpar diogelu personol (PPE) priodol arall i ddiogelu eu hanwyliaid. Os yw ymwelwyr wedi’u heithrio, bydd hyn yn cael ei gofnodi yn nodiadau’r claf. 

Rhaid trefnu ymweliad ymlaen llaw gyda’r ward a byddem yn eich annog i beidio â mynychu os ydych yn profi unrhyw symptomau. Ar ôl cyrraedd, caiff ei gofnodi eich bod wedi cadarnhau nad oes gennych symptomau. 

Mae hyn er mwyn cadw cleifion yn ddiogel oherwydd gall y cynnydd mewn trosglwyddiad cymunedol gael effaith ar wardiau ein hysbytai os bydd pobl yn mynychu pan fyddant yn sâl. 

Ein cais i’r cyhoedd 

Gall y cyhoedd hefyd ein cefnogi drwy fynd â’u hanwyliaid adref pan fyddant yn gallu cael eu rhyddhau, fel nad oes rhaid iddynt aros yn yr ysbyty yn hirach na’r angen, oherwydd gallai hyn gynyddu eu risg o drosglwyddo. Yn yr achosion hyn, gall y cartref fod yn amgylchedd mwy diogel i ynysu a chadw’n iach. 

Os ydych yn gallu mynd â’ch anwyliaid adref, siaradwch â Rheolwr y Ward. 

Cael mynediad at ofal brys 

Gofynnwn yn garedig i’r cyhoedd fynychu ein hysbytai os yw’n gwbl angenrheidiol yn unig (e.e. mae gennych apwyntiad claf allanol neu mae angen gofal brys arnoch gan ein Huned Achosion Brys). 

Rydym yn gweld nifer cynyddol o bobl yn mynychu ein safleoedd gyda symptomau COVID-19, felly cysylltwch â 111 os oes angen cyngor arnoch, ac os oes angen i chi gael eich gweld gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol, rhoddir slot apwyntiad i chi ymweld â’r gwasanaeth mwyaf priodol. 

Gwnewch yn siŵr hefyd fod eich pecynnau cymorth cyntaf yn gyfredol gartref fel y gallwch drin mân anhwylderau trwy hunanofal. Gall eich fferyllfa gymunedol hefyd ddarparu cyngor gofal iechyd a meddyginiaeth dros y cownter ar gyfer y rhan fwyaf o fân anhwylderau, gan olygu nad oes rhaid i chi aros yn ein hysbyty prysur a’n lleoliadau gofal iechyd cymunedol. 

Hefyd, manteisiwch ar y cynnig i gael dos atgyfnerthu COVID-19 neu’r brechlyn rhag y ffliw pan gewch eich gwahodd. Y brechlyn yw’r ffordd orau i amddiffyn eich hunain rhag salwch difrifol o hyd, a sicrhau bod y GIG a’n staff yn gallu helpu’r rhai sydd ei angen fwyaf. 

Diolch yn fawr am eich cefnogaeth a’ch cydweithrediad parhaus ar yr adeg hon. Rydym yn parhau i adolygu ein canllawiau yn rheolaidd yn seiliedig ar nifer yr achosion yn ein cymunedau a’n hysbytai. Parhewch i arfer eich barn a’ch cyfrifoldeb personol i’n helpu i leihau effaith COVID-19.

Dilynwch ni