Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad ar Wasanaethau Mamolaeth: Newid i Feddyginiaeth y Pecyn Rhyddhau

17 Mehefin 2024

O 1 Gorffennaf 2024, ni fydd y gwasanaethau mamolaeth bellach yn darparu paracetamol fel meddyginiaeth reolaidd ym mhecyn rhyddhau’r claf.

Y pecyn rhyddhau, a elwir hefyd yn becyn ‘I Fynd Adref’, yw’r pecyn a ddarperir i rieni newydd sy’n cynnwys unrhyw feddyginiaethau y gallent fod eu hangen ar ôl genedigaeth.

Defnyddir paracetamol yn gyffredin ar gyfer lleddfu poen ôl-enedigol a rheoli twymyn, ac mae gan lawer o bobl gyflenwad personol o baracetamol gartref eisoes. O ganlyniad, mae’r Gwasanaethau Mamolaeth wedi penderfynu rhoi’r gorau i ddarparu paracetamol fel mater o drefn mewn ymdrech i arbed adnoddau a lleihau gwastraff.

Mae paracetamol ar gael yn rhwydd ac yn hygyrch mewn archfarchnadoedd a fferyllfeydd, ac anogir cleifion i gael cyflenwad gartref i baratoi ar gyfer eu rhyddhau.

Gallwch fod yn dawel eich meddwl y bydd pob meddyginiaeth arall yn parhau i gael ei rhagnodi fel arfer. Os oes gan gleifion unrhyw bryderon am y cyhoeddiad hwn, neu os ydynt yn meddwl y byddant yn cael trafferth yn dod o hyd i paracetamol, siaradwch â’ch bydwraig.

I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau mamolaeth, ewch i Gwasanaethau Mamolaeth - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (gig.cymru).

Dilynwch ni