Neidio i'r prif gynnwy

Dau leoliad gofal plant yn ennill gwobr am safonau 'eithriadol o uchel' o ran hybu iechyd meddwl da

Mae dau leoliad gofal plant ym Mro Morgannwg wedi ennill gwobr am gyrraedd safonau eithriadol o uchel wrth helpu plant ifanc i fynegi eu hemosiynau.

Mae Meithrinfa Teddy Bear yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, ynghyd â Chanolfan Gofal Plant Caerdydd a'r Fro yng Ngholeg y Barri, wedi cyflawni 'Statws Cyn-Ysgol Enghreifftiol' ar gyfer Rhaglen PATHS® (Hyrwyddo Strategaethau Meddwl Amgen).

Maent yn ddau o blith chwe lleoliad gofal plant yn y DU gyfan sydd wedi ennill clod o'r fath.

Arweinir Rhaglen PATHS® gan elusen Barnardo's ac mae'n helpu plant i ddatblygu sgiliau a fydd yn eu galluogi i wneud dewisiadau cadarnhaol gydol eu hoes.

Ei nod yw helpu plant i ddatblygu pum agwedd ar eu dysgu cymdeithasol ac emosiynol, gan gynnwys hunanreolaeth, dealltwriaeth emosiynol, hunan-barch cadarnhaol, cydberthnasau cadarnhaol a sgiliau datrys problemau rhyngbersonol.

Gan ddefnyddio straeon, pypedau, gemau a gweithgareddau, gall y plant archwilio eu hemosiynau, eu teimladau a’u cydberthnsaau ag eraill yn eu bywydau. Mae staff gofal plant yn cael hyfforddiant a chymorth parhaus gan hyfforddwr Barnardo's i'w helpu i roi'r wybodaeth a enillwyd yn ystod yr hyfforddiant ar waith.

Dywedodd Hannah Dundas, Rheolwr Meithrinfa yng Nghanolfan Gofal Plant Caerdydd a’r Fro: “Mae cymryd rhan wedi bod mor fuddiol i ni. Mae'r plant yn gofalu am ei gilydd yn well, yn canmol ei gilydd, ac yn sylwi pan fydd plentyn neu oedolyn arall yn anhapus.

“Mae’r plant wrth eu bodd yn chwarae gyda’r pypedau sy’n eu helpu i ddeall gwahanol emosiynau. Mae’r cymorth a gawsom gan y Cynllun Cyn Ysgol Iach a Chynaliadwy a Barnardo’s wedi bod yn amhrisiadwy.”

Dywedodd Kelly Lovell, Rheolwr Meithrinfa Teddy Bear: “Yn dilyn y pandemig roedd angen dull newydd arnom i helpu ein plant i fynegi eu teimladau a deall teimladau pobl eraill. Fe wnaeth y Rhaglen PATHS®

roi hynny i ni – ffordd strwythuredig ond hyblyg o helpu pawb i ddatblygu hunanreolaeth, dealltwriaeth emosiynol, hunan-barch cadarnhaol a gwell cyfeillgarwch.”

Dywedodd Catherine Perry, cydlynydd y Cynllun Cyn Ysgol Iach a Chynaliadwy yn Nhîm Iechyd Cyhoeddus Caerdydd a’r Fro: “Mae Meithrinfa Teddy Bear yn Ysbyty Llandochau a Meithrinfa Coleg y Barri wedi ymrwymo eu hunain i’r prosiect hwn gydag egni a brwdfrydedd, ac mae’r buddion i blant yn eu blynyddoedd cynnar yn glir.

“Rwyf wrth fy modd bod gwaith ein lleoliadau wedi cael cydnabyddiaeth genedlaethol. Mae'r gefnogaeth ymroddedig a dderbyniwyd gan gydweithwyr yn Barnardo's wedi bod yn amhrisiadwy. Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran.”

Wrth sôn am Raglen PATHS®, dywedodd un rhiant: “Mae ein mab wedi mwynhau cymryd rhan yn y rhaglen yn fawr, felly fe wnaeth ein hysbrydoli ni i brynu’r llyfr bwystfilod lliw iddo ar gyfer y Nadolig. Nawr pryd bynnag mae'n mynd yn dawel rydyn ni'n gofyn pa liw yw e, ac mae'n esbonio sut mae'n teimlo yn seiliedig ar yr ymateb lliw ac rydyn ni'n archwilio hynny ymhellach. Mae nawr yn gofyn pam ein bod ni'n teimlo pa bynnag emosiwn rydyn ni'n ei deimlo ac yn rhoi cwtsh neu bump uchel i ni yn dibynnu ar yr ymateb.'

Dywedodd un arall: “Gallaf ddweud yn bendant ein bod wedi sylwi ar wahaniaeth pan fydd fy machgen bach yn ymateb i bethau nad yw’n eu hoffi, fel plentyn arall yn chwarae gyda thegan y mae ei eisiau. Mae’n deall ei emosiynau’n well ac yn deall bod rhai ymddygiadau’n iawn a bod rhai eraill ddim yn iawn.”

Ychwanegodd un arall: “Rwy’n meddwl bod y cysyniad a’r cyflwyniad wedi bod yn wych i fy nau blentyn wrth ddysgu mynegi eu hemosiynau. Mae hon yn sgil bwysig iawn iddynt ei datblygu wrth iddynt dyfu i fyny o ran sicrhau eu bod yn gallu mynegi eu hunain yn emosiynol a’i bod yn beth da gwneud hyn a pheidio â chuddio unrhyw deimladau negyddol.

“Rwy’n meddwl ei fod hefyd yn wych ei fod yn eu dysgu i roi canmoliaeth i’w gilydd. Mae’n eu dysgu sut i fod yn garedig a pharchus tuag at eu cyfoedion sydd eto’n nodwedd wych.”

Dilynwch ni