Neidio i'r prif gynnwy

Dathlu Wythnos Prentisiaethau Cymru

Laura Smith

Yr wythnos hon, rydym yn dathlu Wythnos Prentisiaethau Cymru (6 – 12 Chwefror) – dathliad o’r effaith y mae prentisiaethau yn ei gael ledled y wlad ar gyfer unigolion a busnesau. 

Y thema ar gyfer 2023 yw Sgiliau am Oes, gan ddangos sut y gall prentisiaethau helpu pobl i ddatblygu’r sgiliau i gael gyrfaoedd gwerth chweil a sut y gall busnesau greu gweithluoedd talentog. 

Mae prentisiaethau’n sicrhau bod pobl yn cael eu cefnogi ar bob cam yn ystod yn eu gyrfa er mwyn meithrin y sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo ac rydym yn falch o feithrin diwylliant o ddysgu a datblygu doniau. 

Rydym yn gweld prentisiaethau fel cyfle i gyrraedd y nod hwn drwy wneud y mwyaf o botensial ein gweithlu, drwy ymgysylltu â’n staff profiadol fel eu bod yn trosglwyddo eu sgiliau a’u profiadau i eraill a chefnogi cyfleoedd dysgu ar bob lefel. Ein nod yw sicrhau bod gan ein staff y sgiliau i ddarparu’r gwasanaethau gorau posibl sy’n canolbwyntio ar y claf. 

Mae Samantha Walker, ein Cydlynydd Pryderon, wedi cefnogi prentisiaid drwy eu hyfforddiant ac mae’n annog adrannau eraill i ystyried gweithio gyda phrentisiaid. 

Samantha Walker

Dywedodd: “Mae’r prentisiaid wedi ymgartrefu’n dda ac wedi datblygu cymaint mewn cyfnod mor fyr. Maen nhw wedi magu hyder, dysgu ein ffordd o weithio ac ennill profiad yn ein hadran ac o fewn y Bwrdd Iechyd. 

“Rwy’n credu bod cymryd rhan yn y rhaglen brentisiaeth yn gyfle gwych a byddwn yn sicr yn ei hargymell i adrannau eraill o fewn y Bwrdd Iechyd. Mae’n rhoi cyfle i oedolion ifanc ddatblygu eu sgiliau a’u hyder ar ôl gadael yr ysgol, wrth weithio ac astudio ar gyfer y brentisiaeth ar yr un pryd.” 

Mae rhai o’n cydweithwyr, yn garedig iawn, wedi rhannu eu taith fel prentisiaid gyda ni. Dyma rai o’u profiadau: 

Laura Smith 

“Dechreuais brentisiaeth i barhau â fy hyfforddiant ar ôl ymuno â’r bwrdd iechyd ar raglen Kickstart. 

“Rwyf am barhau i ddatblygu fy sgiliau fel derbynnydd yn ogystal â gwella fy ngwybodaeth academaidd ar yr un pryd. Bydd hyn fy ngalluogi i symud ymlaen yn rôl y derbynnydd a datblygu fy sgiliau. 

“Gall fod yn heriol ar brydiau ond gyda chefnogaeth fy rheolwr, rwyf bob amser yn gallu treulio rywfaint o amser yn hyfforddi yn ystod yr wythnos, ac mae hynny wedi helpu llawer. 

“Mae angen cryn ymroddiad i wneud prentisiaeth ond mae’n caniatáu i chi ddatblygu’ch sgiliau ac yn eich galluogi i ennill bywoliaeth wrth hyfforddi. Roedd yn heriol ar adegau gan fy mod yn gweithio ar ward lawfeddygol brysur ond mae’n gyfle da i ehangu eich gwybodaeth.  

“Byddwn yn dweud bod gwneud prentisiaeth yn gyfle da i gael dealltwriaeth gadarn o’r rôl.” 

Katie Cornick 

“Roedd y brentisiaeth yn ddefnyddiol iawn gan ei bod wedi fy helpu i ddysgu’r sgiliau oedd eu hangen arnaf i gael y swydd barhaol ar ôl i’m prentisiaeth ddod i ben. 

“Fe helpodd i gryfhau fy sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig hefyd.” 

Jade Tiley 

“Rwyf wrthi’n gwneud fy mhrentisiaeth ar hyn o bryd. Rwyf eisoes wedi meithrin llawer o sgiliau o’r cwrs hwn megis fy sgiliau TG a fy sgiliau cyfathrebu. 

“Mae’r brentisiaeth yma hefyd wedi fy helpu i fagu hyder wrth siarad â chydweithwyr a chleifion eraill drwy reoli eu pryderon. 

Ethan Tallett 

“Rwy’n gwneud fy mhrentisiaeth ar hyn o bryd. Ers dechrau, rwyf wedi dysgu llawer o sgiliau newydd, er enghraifft yn y maes TG a sgiliau rheoli amser. Mae’r brentisiaeth hon hefyd wedi helpu i wella fy hyder yn aruthrol ac wedi rhoi profiad o weithio i fi.” 

Prentis Presennol 

“Roedd gen i ddiddordeb yn y brentisiaeth oherwydd fy rôl flaenorol yn gweithio yn y GIG. Roeddwn i eisiau dod yn ôl a gweithio o fewn yr ymddiriedolaeth a hefyd gwella fy sgiliau ac ennill cymwysterau newydd ar gyfer rolau yn y dyfodol o fewn y GIG neu fusnesau eraill. 

“O fy mhrofiad blaenorol, roeddwn i’n gwybod y byddai’r GIG yn fy herio i roi popeth sydd gen i a cheisio gwella bywydau’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio.” 

Gareth Jones 

“Roedd gen i ddiddordeb yn y brentisiaeth hon oherwydd roeddwn i eisiau ennill profiad a gwybodaeth o wahanol agweddau o TG. Roeddwn i’n meddwl y byddai’r brentisiaeth yma’n benodol yn berffaith i fi ddysgu i ymdopi â gwahanol fathau o bobl, delio â beirniadaeth a gweithio ar fy hyder fy hun. 

“Roedd gwneud cronfeydd data a logio hefyd yn rai o fy hoff unedau i ddysgu amdanynt tra yn y coleg.” 

Prentis blaenorol a gweithiwr presennol 

“Mae rhaglen brentisiaethau Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn ffordd wych o gyflwyno pobl iau i amgylchedd gwaith a helpu i ddatblygu eu sgiliau, fel gweithio mewn tîm a chyfrifoldeb personol. 

“Mae’r rhaglen brentisiaethau wedi bod o fudd i fi gan y byddaf wedi bod yn gweithio yn y Bwrdd Iechyd am bedair blynedd ym mis Ebrill ar ôl ymuno fel prentis yn wreiddiol yn 2019. 

“Roedd y rhaglen brentisiaethau yn caniatáu i fi gwrdd a gweithio gyda phobl wych, a helpu i ddod â fi allan o fy nghragen a bod yn fwy hyderus. Mae hefyd wedi fy helpu i wella llawer o sgiliau yn y gweithle a fydd yn bwysig ar gyfer fy nyfodol.” 

A oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am brentisiaeth? 

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi menter Addewid Caerdydd, gan gynorthwyo ein cydweithwyr yng Nghyngor Caerdydd i sicrhau bod holl bobl ifanc y ddinas yn y pen draw yn cael swydd sy’n eu galluogi i gyrraedd eu llawn botensial wrth gyfrannu at dwf economaidd y ddinas. 

I gael gwybod mwy am beth yw prentis a manteision hyfforddi gyda ni, ewch i’n tudalen we Academi Prentisiaeth

I weld ein cyfleoedd prentisiaeth presennol, ewch i adran swyddi ein gwefan a chwilio am “Prentisiaethau”. Gallwch hefyd ymweld â gwefan Dod o hyd i Brentisiaeth. 

Dilynwch ni