Neidio i'r prif gynnwy

Dathlu nyrsys cymunedol ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Nyrsys

O fewn Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Chanolradd (PCIC), mae gan nyrsys rôl ddeinamig ac amrywiol, yn darparu gofal yng nghartrefi pobl, mewn lleoliadau cymunedol, meddygfeydd teulu a chlinigau bob dydd.

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Nyrsys, rydym yn cydnabod y gwaith anhygoel y mae ein nyrsys yn ei wneud yn ein cymunedau yng Nghaerdydd a’r Fro i sicrhau bod gofal diogel ac effeithiol yn cael ei roi i gleifion.

Fel Aseswyr Nyrsio, Jay Ventura Santana a Sophia Taylor-Moore sy’n gyfrifol am weithredu pecynnau Gofal Iechyd Parhaus y GIG ar gyfer cleifion unigol sy’n bodloni meini prawf cymhwysedd nyrsio penodol ac maent yn monitro ac yn adolygu hyn yn seiliedig ar angen.

Mae Aseswyr Nyrsio hefyd yn gyfrifol am hyfforddi, addysgu a chefnogi cydweithwyr mewn gwahanol leoliadau cymunedol i sicrhau bod cleifion yn cael y gofal iawn, yn cynnal y gofal priodol ac yna’n rheoli unrhyw faterion sy’n codi’n effeithlon ac yn effeithiol.

Wrth siarad am yr hyn y mae’n ei fwynhau fwyaf am ei rôl yn y gymuned, dywedodd Jay, “Yr hyn rwy’n ei hoffi fwyaf am fy rôl yw gwneud newid cadarnhaol i fywydau pobl. Gallaf edrych ar berson yn holistaidd a llunio pecyn gofal sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol iddynt. Rwy’n gyfrifol am gydlynu pecynnau gofal ac rwy’n gallu rhoi cynlluniau ar waith i ddatrys unrhyw broblemau, a gweithio’n agos gyda’r claf, y gofalwyr a’r teulu i sicrhau bod hyn yn gweithio iddynt ac ymateb yn gyflym i unrhyw newidiadau a allai godi.”

Meddai Sophia, “Gan fod gen i gefndir nyrsio ardal, mae dod yn Asesydd Nyrsio yn golygu fy mod yn cael cynllunio a bod yn rhan o ofal ein cleifion o’r dechrau i’r diwedd. Yn fy rôl flaenorol, gwelais gleifion yn ffynnu ac yn adennill eu hannibyniaeth o ganlyniad i’r gefnogaeth a gafwyd gan dimau nyrsio ardal, ac mae gallu rhoi’r cynlluniau hyn ar waith a gweithio gyda’n cydweithwyr nyrsio ardal i sicrhau bod y cynllun hwn o fudd i gleifion ac yn cael effaith gadarnhaol yn hynod werth chweil.

“Yn ogystal ag Asesydd Nyrsio, rwyf hefyd yn gweithio sifftiau banc ar gyfer y gwasanaeth nyrsio ardal y tu allan i oriau yng Nghaerdydd a’r Fro gan fy mod yn mwynhau’r annibyniaeth a’r profiad gofal unigryw a gewch fel nyrs ardal.”

Mae Angharad Slade, Nyrs Ardal, yn darparu gofal i gleifion yn eu cartref i atal derbyniadau i’r ysbyty, lle bo hynny’n bosibl. Fel nyrs ardal, mae rôl Angharad yn cynnwys gofal clwyfau, gofal diabetes, gofal cathetr, rhoi meddyginiaeth a gofal lliniarol.

Wrth fyfyrio ar ei rôl o fewn y gymuned, dywedodd Angharad: “Y rhan o’m rôl sy’n rhoi’r boddhad mwyaf yw rhyngweithio â chleifion yn eu hamgylchedd eu hunain. Mae gweithio yn y gymuned yn ein galluogi i feithrin perthynas â chleifion ac mae cyflawni cyfrifoldebau nyrsio yng nghartrefi cleifion yn fraint.

“Ar ôl blynyddoedd o nyrsio mewn ysbyty, symud i nyrsio cymunedol oedd y penderfyniad gorau i mi ei wneud! Rydw i wir yn mwynhau’r amrywiaeth yn fy rôl gan fod pob diwrnod yn wahanol ac rwy’n mwynhau’r ymreolaeth a’r cyfrifoldeb sy’n dod gyda rôl gymunedol. Mae nyrsio cymunedol yn dod â’i set ei hun o heriau ond mae bod yn rhan o dîm cefnogol ac agos yn golygu bod y llwyth yn cael ei rannu ac mae rhywun wrth law bob amser i drafod pryderon.”

Dilynwch ni