Neidio i'r prif gynnwy

Dathlu cyflawniadau staff yn ein Bwrdd Clinigol Diagnosteg a Therapiwteg Glinigol

Cynhaliwyd digwyddiad cydnabod staff ffisiotherapi am y tro cyntaf ers y pandemig COVID-19, ar 25 Ebrill i ddathlu gwaith caled a gwasanaethau ymroddedig staff clinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro drwy gydol y cyfnod anodd a welwyd dros y 12-18 mis diwethaf.

Roedd y digwyddiad hybrid, a gefnogwyd gan Elusen Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, yn cynnwys amrywiaeth o gyflwyniadau a phosteri yn tynnu sylw at gyflawniadau staff, a rhoddwyd gwobrau gan y Cyfarwyddwr Therapïau Clinigol, Emma Cooke, i 10 enillydd teilwng. 

Dywedodd Emma: "Hoffwn ddiolch o galon i'n holl staff clinigol am eu hymrwymiad i'n Bwrdd Iechyd, yn enwedig yn ystod y cyfnod anodd iawn a welwyd yn y maes gofal iechyd o ganlyniad i’r pandemig. Heb eu hymdrechion a'u gofal ni fyddem wedi gallu gwneud y gwaith pwysig a wnawn i ofalu am gymunedau a chleifion Caerdydd a'r Fro. 

"Llongyfarchiadau diffuant i'n holl enillwyr a'r rhai a ddaeth yn ail, rydych chi i gyd, yn unigol, yn wirioneddol deilwng o'r gwobrau hyn."

Dyma ein henillwyr a’r rhai a ddaeth yn ail ar gyfer y deg categori o wobrau a gyflwynwyd yn y digwyddiad:

Yn gwbl anhygoel

Enillydd: Jill Davies

Mae Jill wedi bod yn Ffisiotherapydd Niwrolegol gwych ac ymroddedig ac yn eiriolwr arbennig dros bob claf â chyflyrau niwrolegol. Mae wedi bod yn flaengar wrth sefydlu adnoddau a gweithgareddau sy'n canolbwyntio ar y claf o fewn y gwasanaeth niwrogyhyrol, y mae’r grŵp hwn o gleifion wedi elwa’n fawr arnynt. Mae hi wedi gweithio gyda'r fath angerdd wrth reoli cleifion ac mae wedi cael ei chanmol gan nifer o gleifion a theuluoedd am ei sgiliau a'i gwaith caled.

Mae cydweithwyr Jill yn ei disgrifio fel person twymgalon a chyfeillgar, sy’n gwmni hyfryd ac yn gwbl anghygoel! Maent i gyd wedi mwynhau gweithio ochr yn ochr â hi a byddant yn gweld ei heisiau’n fawr iawn yn y gwaith yn dilyn ei hymddeoliad diweddar ar ôl 27.5 mlynedd yn y Bwrdd Iechyd.

Yn ail: Steve Prance, Laura Perry, Y Tîm ‘Escape Pain’, Nancy Maisey, Helen Williams, James Hinder, Emma Perkins

Arwr cudd

Enillydd: Rob Jones

Mae Rob wedi cael ei gydnabod am ei waith rhagorol yn cynnal y rhaglenni ESCAPE pain ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Mae Rob wedi gweithio'n ddiflino ar hyrwyddo'r rhaglen, gan gynnwys cefnogi defnyddwyr gwasanaeth i gael mynediad ar-lein ac wyneb yn wyneb yn ystod y pandemig, a chydlynu sesiynau goruchwylio a hyfforddiant i staff.

Mae ei gydweithwyr yn dweud ei fod yn berson angerddol ac yn meddu ar ethig gwaith anhygoel, ac yn pwysleisio bod adborth cleifion yn dystiolaeth o'r gwaith gwych y mae wedi'i ddechrau ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth y Bwrdd Iechyd. 

Yn ail: Alison Atkins, James Atter, Pete Deness, Rob Skellett

Arweinyddiaeth

Enillydd: Kate Jones

Mae Kate wedi bod yn ysbrydoliaeth i'w thîm, sy'n ei disgrifio fel arweinydd brwdfrydig, gwybodus a chynhwysol. Mae Kate yn meithrin hyder yn ei chydweithwyr ac mae'n eiriolwr dros gyfleoedd datblygu i'w thîm ar draws Oedolion a Phediatreg. Er gwaethaf pwysau eithafol mae Kate yn arwain drwy esiampl, gan wrando ar bob aelod ar draws pob gradd a phroffesiwn, a pharhau'n gadarnhaol ac yn rhagweithiol drwyddi draw.

Yn ail: Jackie Sharp, Sarah Wolujewicz, Natalie Robertson, Vanessa Howells, Nadia Hodge

Byw ein gwerthoedd

Enillydd: Amaani McGee

Mae cydweithwyr Amaani yn dweud ei bod yn aelod o staff gwerthfawr iawn ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, a’i bod yn byw ac yn anadlu gwerthoedd ac ymddygiadau’r Bwrdd Iechyd. Mae Amaani yn gweithio'n galed ac mae bob amser yn mynd gam ymhellach ar gyfer cleifion, yn barod i helpu a chefnogi lle bynnag y bo angen.

Yn ail: Monica Reading, Rob Jones, George Scott, Zoe Oram Jones, Tîm Gweinyddol Canolog Ffisiotherapi, Rhian Harrington, Jo Sweeney

Ymateb i her Covid

Enillydd: Caroline James

Dychwelodd Caroline i'r gwaith yn ystod y pandemig, ac roedd yn allweddol wrth ddatblygu’r wefan Cadw Fi’n Iach ar gyfer y Bwrdd Iechyd. Defnyddiodd Caroline ei sgiliau datblygedig mewn dylunio gwe ynghyd â'i phrofiad a'i gwybodaeth o ffisiotherapi i adeiladu cynnwys y wefan a datblygu tudalennau i gefnogi defnyddwyr gwasanaeth yn ystod adegau pan oedd mynediad defnyddwyr at y gwasanaeth ffisiotherapi yn gyfyngedig.

Gweithiodd Caroline hefyd gyda'r Tîm Orthopedig Paratoi’n Dda i  helpu i gefnogi cleifion sy'n aros am lawdriniaeth Orthopedig yn y ffordd orau posibl. Roedd wedi helpu i ddatblygu a chynnal prosiect newydd yn canolbwyntio ar addysg gweithgarwch corfforol a chydrannau ymarfer corff. 

Yn ail: Kelly Miller, Sian Griffiths, Toby Flemming, Alison Atkins, Sam Owen, Owain Stacey, Y Tîm Mân Anafiadau

Ansawdd a diogelwch

Enillydd: Rob Goldsmith

Mae Rob wedi neilltuo cryn dipyn o amser ac ymdrech i Musculoskeletal (MSK) digital, sef adnodd sy'n rhoi cymorth i dimau clinigol, gan ddefnyddio offer digidol sy'n cefnogi'r gwaith o ddarparu llwybrau cleifion. Mae wedi dod ag adnoddau a chyfleusterau at ei gilydd ar gyfer staff clinigol mewn un lleoliad canolog drwy system sharepoint newydd. Mae Rob wedi gwneud gwaith anhygoel i adeiladu strwythur cynaliadwy gyda llywodraethu a pherchnogaeth briodol a ddylai osgoi peryglon.

Yn ail: Dave Price Smith, Rhian Jenkins

Ymchwil a datblygu

Enillydd: Rhian Jenkins, Y Tîm ARPP

Ynghyd â'i thîm, mae Rhian wedi datblygu un o'r gwelliannau ansawdd mwyaf arwyddocaol ar draws llwybr yr asgwrn cefn a welwyd erioed. Mae'r tîm wedi gweithio'n ddiflino i gyflawni meddygaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth er budd y grwpiau cleifion mwyaf agored i niwed.

Roedd y datblygiad cynyddol hwn yn drawsnewidiad sylweddol sydd wedi'i gymeradwyo a'i roi ar y rhestr fer ar gyfer gwobrau GIG Cymru. 

Yn ail: Robert Jones, Cadw Fi'n Iach, Tîm VGC Poen Parhaus, Tîm Orthopedig Paratoi'n Dda

Gweithiwr cymorth y flwyddyn

Enillydd: Julie Eedy

Enwebwyd Julie gan gydweithwyr oherwydd ei hymagwedd broffesiynol. Yn ystod y pandemig dangosodd Julie ei gallu i fod yn hyblyg ac addasu i amgylchoedd newydd mewn adrannau newydd ar draws y Bwrdd Iechyd.

Mae cydweithwyr Julie yn ei chanmol am ei gwaith caled a'i chefnogaeth ddefnyddiol y mae wedi'i rhoi i'r gwasanaethau ffisiotherapi.

Yn ail: Pete Deness, Luke Cumming

Ffisiotherapydd y flwyddyn

Enillydd: Kamila Kowalczyk

Yn ystod y pandemig dangosodd Kamila broffesiynoldeb mawr wrth iddi fentro i dir anghyfarwydd a chael ei hadleoli sawl gwaith. Er gwaethaf yr heriau y mae'r pandemig wedi'u cyflwyno, gan gynnwys amseroedd anodd i ffwrdd o'i theulu, roedd Kamila bob amser yn gydweithiwr dibynadwy a hapus a roddodd gleifion yn gyntaf. 

Mae cydweithwyr Kamila yn ei disgrifio fel person sy’n gweithio'n galed ac yn ased i unrhyw dîm, gan bwysleisio ei chefnogaeth i gydweithwyr a thimau ehangach.

Yn ail: Robert Jones, Kate Thompson, Megan Lewis

Dewis y rheolwr

Enillydd: Emma Cooke

Dyfarnwyd y wobr gyntaf i Emma am ei harweinyddiaeth a'i chefnogaeth ysbrydoledig i gydweithwyr yn ystod cyfnod heriol y pandemig. Mae wedi cael effaith gadarnhaol ar y gwasanaeth ffisiotherapi fel Cyfarwyddwr Clinigol, gan hwyluso llawer o newidiadau buddiol i'r gwasanaeth, ac mae'n parhau i ddylanwadu ar y broses o ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar y claf a gwneud gwahaniaeth yn hyn o beth.

Mae cydweithwyr Emma yn dweud ei bod wedi rhoi hyder i'r gwasanaeth ddatblygu ac arddangos y sgiliau a'r doniau sydd o’i fewn, gan roi cyfle i lawer o staff ddatblygu a ffynnu dros y blynyddoedd diwethaf.

Dilynwch ni