Neidio i'r prif gynnwy

Dathlu Agoriad Swyddogol yr Hyb Lles yn y Maelfa

3 Chwefror 2023 

Agorwyd yr Hyb Lles yn y Maelfa, cyfleuster iechyd a lles integredig sy’n canolbwyntio ar y gymuned, yn swyddogol gan Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ddydd Iau, 2 Chwefror 2023.

Wedi’i agor ynghyd â Charles ‘Jan’ Janczewski, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Dr Roger Morris, Uwch Bartner Meddyg Teulu yn Llan Healthcare, a’r Cynghorydd Huw Thomas, mae’r Hyb Lles yn rhan o fuddsoddiad o £14 miliwn gan Lywodraeth Cymru, fel rhan o genhedlaeth newydd o wasanaethau iechyd a chymdeithasol integredig.

Datblygwyd yr Hyb Lles yn y Maelfa mewn partneriaeth â’r Bwrdd Iechyd, Cyngor Caerdydd, Llan Healthcare a rhanddeiliaid lleol allweddol eraill, gan gynnwys Cyngor Trydydd Sector Caerdydd, Y Cyngor Iechyd Cymuned, Heddlu De Cymru a grwpiau cymunedol lleol i feithrin ymgyrchoedd cymdeithasol, cyd-gynhyrchu a gwirfoddoli ar gyfer iechyd ac i ddarparu gofal ataliol, cymunedol, sylfaenol ac eilaidd. Mae integreiddio â gwasanaethau lleol eraill yn rhoi mynediad i’r gymuned at ofal cleifion o ansawdd uchel ac yn helpu i wella iechyd a lles poblogaeth Dwyrain Caerdydd.

Dywedodd Jan Janczewski, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Fel yr Hyb Lles cyntaf i gael ei ddatblygu’n llawn ac sy’n weithredol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, mae’r gwaith a wnaed ar y prosiect hwn a’r canlyniadau yn crynhoi llwyddiant gweithio mewn partneriaeth a chydweithio rhwng rhanddeiliaid allweddol ac yn hybu ein nod o ddarparu gwasanaeth wedi’i foderneiddio i’n cleifion yn y gymuned.”

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan: “Rwy’n falch iawn o agor y datblygiad newydd hwn yn y Maelfa, sydd wedi derbyn £14 miliwn o gyllid drwy raglen Gyfalaf y GIG. Mae’n enghraifft wych o waith partneriaeth ar ei orau.

“Bydd Hybiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol integredig o’r fath wedi’u gwreiddio mewn cymunedau, a byddant yn rhoi mynediad hawdd i bobl at ystod ehangach o wasanaethau iechyd, gofal a lles yn agosach at ble maent yn byw. Bydd hyn yn chwarae rhan bwysig wrth helpu i feithrin y gallu cymunedol sydd ei angen arnom i helpu pobl i fyw’n dda gartref, a’u hatal rhag gorfod cael eu derbyn i’r ysbyty. Bydd yr hybiau hefyd yn cefnogi pobl i ddychwelyd adref yn gyflym os byddant wedi cael eu derbyn.”

Mae’r Hyb Lles newydd wedi’i adeiladu yn Hyb Cymunedol y Pwerdy, Cyngor Caerdydd sy’n bodoli eisoes. Trwy fod yn gysylltiedig a rhannu’r gofod, mae’n darparu gwasanaethau iechyd a chymunedol a gwasanaeth amlswyddogaethol i gleifion, staff a’r gymuned leol. Trwy weithio ar lefel gymunedol, Hyb Lles yn y Maelfa yw’r cyntaf mewn cyfres o hybiau sydd ar y gweill sy’n sicrhau bod cyfle person o fyw bywyd iach yr un peth ble bynnag y mae’n byw a phwy bynnag ydyw.

Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, “Mae buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd y Cyngor yn y Maelfa yn adlewyrchu ein huchelgais i helpu i adfywio cymunedau lleol fel Llanedern i fod yn ardaloedd deniadol, diogel a chroesawgar i fyw a gweithio ynddynt. Mae datblygiadau fel y parêd siopa newydd, cartrefi newydd, adnewyddu’r tŵr o fflatiau a dechrau ar safle cynllun byw cymunedol i bobl hŷn, sydd ei ddirfawr angen, i gyd yn ategu’r Hyb Iechyd a Lles newydd.

“Rydym wedi ymrwymo i integreiddio a moderneiddio gwasanaethau iechyd a chymunedol a defnyddio asedau’r sector cyhoeddus ar y cyd, ac mae’r cyfleuster newydd hwn yn enghraifft wych o sut y gallwn weithio gyda’n gilydd i gyflawni’r ymrwymiad hwn.”

Dywedodd Uwch Bartner Meddyg Teulu yn Llan Healthcare, Dr Roger Morris, “Mae’r Hyb Lles yn y Maelfa yn lle gwych ac mae’n bleser dod i’r gwaith bob dydd. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r staff, Llywodraeth Cymru, y Bwrdd Iechyd a’r Cyngor am wneud hyn yn bosibl ac edrychwn ymlaen at feithrin perthynas agosach fyth gyda’n partneriaid yn y gymuned leol.”

Yr Hyb Lles yn y Maelfa yw’r cyntaf i gael ei ddatblygu fel rhan o raglen strategol sy’n gosod y gymuned yn y canol. Bydd ein hymroddiad i brofiadau cleifion, gofalwyr a’r gymuned yn cael ei amlygu drwy weithio gyda’n partneriaid ar draws y GIG, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector ac rydym yn hyderus y bydd yr Hybiau Lles yn cefnogi ein dinasyddion i fyw bywydau hirach, iachach ac o ansawdd gwell.

Dilynwch ni