Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad ynghylch Angladd Gwladol Ei Mawrhydi'r Frenhines Elizabeth II

Mae llawer o gydweithwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a chleifion yn ein gofal wedi bod yn myfyrio'n annwyl ar deyrnasiad anhygoel y Frenhines Elizabeth II, drwy ddod at ei gilydd i gydnabod ymrwymiad cadarn Ei Mawrhydi i wasanaeth cyhoeddus.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn cefnogi cydweithwyr a chleifion i wneud trefniadau a fydd yn caniatáu iddynt wylio neu wrando ar sylwebaeth ar yr Angladd Gwladol os ydynt yn dewis gwneud hynny. Gwyddom y bydd llawer o bobl ar draws ein hysbytai eisiau gwylio neu wrando ar y sylwebaeth fel ffordd o dalu teyrnged neu ddim ond i arsylwi ar y digwyddiad mawr hwn.

Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddathlu esgyniad y Brenin Charles III, yn ogystal â chyhoeddi William a Catherine fel Tywysog a Thywysoges newydd Cymru. Rydym yn gobeithio cwrdd â nhw yn y dyfodol agos.

Rydym yn falch o gael yr anrhydedd o gynrychioli Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn y Gwasanaeth Gweddïo a Myfyrio ar fywyd Ei Mawrhydi'r Frenhines Elizabeth II ar 16 Medi 2022 yn Eglwys Gadeiriol Llandaf.

Yn olaf, hoffem estyn ein diolch i asiantaethau partner, gan gynnwys y gwasanaethau brys ac Awdurdodau Lleol, sydd wedi bod yn gweithio gyda ni bob awr o'r dydd yn ystod y cyfnod Galaru Cenedlaethol i sicrhau bod ein poblogaeth yn cael ei chadw'n ddiogel mewn digwyddiadau sydd wedi dilyn.

Estynnwn ein cydymdeimlad diffuant i'r Teulu Brenhinol, ac ymunwn â'r genedl i alaru marwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II.
 

Charles 'Jan' Janczewski, Cadeirydd

Suzanne Rankin, Prif Weithredwr

Dilynwch ni