Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad ar y cyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Chyngor Bro Morgannwg ar Feddygfa Albert Road a Gwasanaethau Gofal Sylfaenol ym Mhenarth

Yn dilyn yr hysbysiad bod y landlord wedi cyflwyno rhybudd ar yr adeilad, ac yn dilyn hynny, penderfyniad y feddygfa i roi eu contract Gwasanaethau Cyffredinol Meddygol (GMS) yn ôl, mae’r ddau sefydliad wedi ymrwymo i archwilio opsiynau i gynnal Gwasanaethau Meddygon Teulu ar gyfer y gymuned leol o fis Ebrill 2022 ymlaen.

Mae ffocws y BIP ar ddod â gofal yn nes at gartref ac aros o fewn y gymuned leol yn rhan o’r uchelgeisiau gofal sylfaenol tymor hirach ar gyfer Canolfan Iechyd a Lles yng Nghogan ym Mhenarth. 

Mae’r BIP a’r Awdurdod Lleol yn gefnogol o ran egwyddor i Ganolfan Les Cogan ac mae’r BIP yn datblygu’r rhaglen waith sy’n ofynnol i gadarnhau achos busnes i gefnogi hyn. Fodd bynnag, mae’n bwysig ailadrodd mai opsiwn tymor canolig yw hwn, a bydd angen ei drafod ymhellach gyda Chyngor Bro Morgannwg, yn ogystal â’r prosesau cynllunio a chymeradwyo angenrheidiol a’r ymgysylltu parhaus â rhanddeiliaid allweddol a’r gymuned wrth i’r cynlluniau gael eu datblygu.

Bydd cleifion yn parhau i allu cael gafael ar wasanaethau gofal sylfaenol ym Meddygfa Albert Road tan 18 Mawrth 2022. Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r gymuned leol am sut y bydd gofal iechyd yn cael ei ddarparu yn y dyfodol, wrth i ni geisio dod o hyd i ddatrysiad cynaliadwy. Hoffem ailadrodd na fydd unrhyw gleifion yn yr ardal hon yn colli mynediad at wasanaethau meddyg teulu.

Hoffai’r BIP ddiolch i’r gymuned am eu hamynedd yn ystod yr adeg hon, a gallwn sicrhau cleifion ein bod yn ymrwymedig i ddatrys hyn er mwyn diwallu anghenion gofal iechyd cynaliadwy’r boblogaeth leol ym Mhenarth.

26/11/2021

Dilynwch ni