Neidio i'r prif gynnwy

Dan Sylw - Shahila Zia

Mae pobl yn ganolog i bopeth a wnawn. Mae’r rhai sy’n gweithio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl bob dydd.

Bob mis, bydd yr ymgyrch Dan Sylw yn taflu goleuni ar y gwahanol bobl sy’n rhan o BIPCAF; o’r rhai sy’n cefnogi y tu ôl i’r llenni, i’r rhai y gwnaeth eu hangerdd eu harwain at weithio yn eu rôl.

Fel sefydliad gyda dros 17,000 o gydweithwyr, bydd yr ymgyrch yn tynnu sylw at yr amrywiaeth o rolau, timau ac unigolion ar draws y bwrdd iechyd. Gall gweithio yn y GIG newid bywydau, i gydweithwyr ac i’r cleifion y maent yn eu helpu.


Mae Shahila Zia yn Uwch Dechnegydd Fferylliaeth ePMA, sy’n gweithio yn y Fferyllfa yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Mae Shahila wedi bod yn rhan o dîm Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ers 18 mlynedd ac yn ddiweddar mae wedi ymgymryd â her newydd drwy ymuno â’r prosiect sy’n cyflwyno’r system Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau yn electronig (ePMA). Bydd y fenter yn disodli siartiau cyffuriau papur wrth erchwyn y gwely gyda system ddigidol fwy diogel a mwy effeithlon ar gyfer rhagnodi a gweinyddu meddyginiaethau.

“Rwy’n falch iawn o fod yn rhan o dîm ePMA,” meddai Shahila. “Rwy’n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o hyfforddi a chefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i sicrhau trosglwyddiad di-dor i ragnodi electronig, lle bydd dyfeisiau digidol yn disodli siartiau cyffuriau papur ar draws ein hysbytai.”

Gyda 30 mlynedd o brofiad fel technegydd fferyllol, gan gynnwys 24 mlynedd ar lefel ward, mae Shahila yn llawn cyffro am fanteision lluosog y system newydd. “Mae gweld sut mae ePMA yn gwella diogelwch rhagnodi, yn lleihau gwallau meddyginiaeth, ac yn gwella llif gwaith yn hynod werth chweil,” esboniodd.

“Fy angerdd am ddiogelwch meddyginiaeth, trawsnewid digidol, ac optimeiddio gofal cleifion a’m hysgogodd i ymgymryd â’r rôl hon. Ar ôl gweithio’n agos gyda chleifion a thimau amlddisgyblaethol ers dros ddau ddegawd, gwelais â’m llygaid fy hun heriau rhagnodi traddodiadol a’r angen am system fwy effeithlon a mwy diogel.

“Mae ePMA yn darparu datrysiad sy’n gwella cywirdeb rhagnodi ac yn cefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i ddarparu gofal o ansawdd uchel. Mae gallu cyfrannu at y datblygiad hwn ac effeithio’n uniongyrchol ar ddiogelwch cleifion yn fy ysbrydoli bob dydd.”

Mae rôl Shahila yn cynnwys datblygu canllawiau cyflym i ddefnyddwyr a deunyddiau e-ddysgu i gefnogi staff i ddefnyddio'r system newydd yn effeithlon ac yn hyderus. Dywed: “Mae fy mhrofiad helaeth ar lefel ward wedi rhoi dealltwriaeth ddofn i mi o’r heriau y mae staff gofal iechyd yn eu hwynebu. Rwyf yn cymryd rhan weithredol yn y gwaith o lansio ePMA ar y wardiau arennol, lle byddaf yn darparu hyfforddiant ymarferol a chymorth uniongyrchol, er mwyn sicrhau trosglwyddiad esmwyth i staff a chleifion. Mae’r gwaith hwn nid yn unig o fudd i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ond mae hefyd yn cael effaith sylweddol ar ofal a chanlyniadau cleifion.”

Y tu allan i'r gwaith, mae gan Shahila angerdd am addysgu a mentora. Mae hi'n gwirfoddoli i addysgu plant 10-12 oed. Dywed: “Mae’r profiad hwn wedi cryfhau fy ngallu i gyfleu gwybodaeth gymhleth mewn modd clir a diddorol – sgil sydd o fudd uniongyrchol i’m rôl yn hyfforddi staff ar ePMA. Mae’n caniatáu i mi addasu fy null i wahanol arddulliau dysgu a sicrhau bod staff yn teimlo’n hyderus wrth ddefnyddio’r system. “Gyda thri degawd o brofiad fel technegydd fferyllol, rwyf wedi gweld esblygiad gwasanaethau fferyllol ac wedi addasu i ddatblygiadau technolegol i wella gofal cleifion yn barhaus.

“Bydd lansio ePMA ar y ward arennol yn garreg filltir allweddol, a fydd yn gofyn am gydweithio helaeth a datrys problemau. Rwy’n parhau i fod yn ymrwymedig i ddysgu a datblygu parhaus er mwyn gwella gwasanaethau fferyllol a gofal cleifion ymhellach.”


Mwy am sut rydym yn rhoi pobl yn gyntaf yn y strategaeth Llunio ein Llesiant i’r Dyfodol trwy ymweld â’r dudalen we hon: Hafan - Llunio ein Llesiant i’r Dyfodol.

Darllenwch am rolau a chydweithwyr eraill sydd wedi bod yn cael sylw yma.

Dilynwch ni