Neidio i'r prif gynnwy

Dan Sylw - Saira Bano

2 Mehefin 2025

I nodi Wythnos y Gwirfoddolwyr, Saira Bano sydd 'Dan Sylw' y mis hwn. Mae Saira wedi bod yn wirfoddolwr gwerthfawr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ers mis Mai 2023. Mae hi hefyd yn gweithio i'r Bwrdd Iechyd fel Meddyg Preswyl Locwm.

Dan Sylw - Saira Bano, Cymorth Gwisgwr Uned Gofal  Critigol (CCU) Oedolion, Cyfaill Cleifion  a Meddyg Preswyl Locwm Dechreuodd Saira wirfoddoli ar y Tîm Croeso yn y prif gyntedd ac yn adran cleifion allanol Ysbyty Athrofaol Cymru. Mae hi bellach yn croesawu ymwelwyr o fewn yr Uned Gofal Critigol i Oedolion (CCU) ac yn rhoi o’i hamser i fod yn gyfaill i gleifion oedrannus ar y ward Gerontoleg. Ochr yn ochr â'i gwaith gwirfoddol, mae Saira'n gweithio fel Meddyg Preswyl Locwm mewn Meddygaeth Integredig.

Dywedodd Sara: “Rwy'n dod o gefndir meddygol. Hyfforddais fel meddyg ym Mhacistan ac ar ôl cymryd seibiant o waith clinigol, roeddwn i eisiau cael profiad o ofal iechyd yn y GIG. Roedd gwirfoddoli yn ffordd wych i mi ddysgu mwy am ofal iechyd yn y wlad hon wrth ddatblygu fy mhroffil ar gyfer dychwelyd i weithio fel meddyg. Ar y dechrau, roeddwn i'n ei weld fel cyfle i ddysgu yn unig. Ond wrth i mi dreulio mwy o amser yn gwirfoddoli, daeth yn llawer mwy ystyrlon.

“Rydw i wedi mwynhau fy holl rolau gwirfoddol yn fawr iawn. Dw i wrth fy modd yn siarad â phobl a gwybod fy mod i yno i'w helpu, hyd yn oed mewn ffyrdd bach, i wneud eu hymweliad â'r ysbyty ychydig yn haws.”

Mae rolau Saira fel Cyfaill Cleifion a Chroesäwr yn gofyn am rinweddau fel tosturi, empathi a'r gallu i aros yn dawel dan bwysau. “Mae treulio amser gyda chleifion wedi fy helpu i dyfu fel person ac mae wedi cryfhau fy ymrwymiad i ofal tosturiol,” meddai Saira. “Cefais lawdriniaeth a achubodd fy mywyd chwe blynedd yn ôl yn Ysbyty Athrofaol Cymru a chefais ofal eithriadol. Mae gwirfoddoli hefyd wedi rhoi cyfle i mi roi ychydig o'r gofal a'r caredigrwydd hwnnw yn ôl.”

Fel gwirfoddolwr, mae Saira yn rhyngweithio â chleifion a'u teuluoedd mewn gwahanol ffyrdd bob dydd. Weithiau mae ond yn golygu arwain rhywun i glinig, tra ar adegau eraill gall olygu cynnig clust i wrando i ymgysylltu mewn sgwrs ddyfnach. “Mewn lleoliad ysbyty, lle mae llawer yn wynebu heriau anodd, gall cynnig cysur, gair caredig, neu dim ond gwrando gael effaith ddofn. Nid gofal corfforol yn unig yw e; mae cefnogaeth emosiynol yn atgoffa pobl nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain,” eglurodd.

Pan wirfoddolodd Saira o fewn y ward Gerontoleg, roedd hi'n chwilio am fwy o brofiad clinigol. Gwnaeth y gefnogaeth a gafodd gan y tîm yn y ward ei galluogi i sicrhau ymlyniad clinigol. “Rhoddodd fy meddygon ymgynghorol goruchwyliol ddigon o gyfleoedd ac arweiniad i mi ddysgu am y system, ac arweiniodd hyn at fy rôl bresennol fel Meddyg Preswyl Locwm,” meddai.

Yn ogystal â bod yn feddyg, a gwirfoddoli yn yr ysbyty, mae Saira hefyd yn gwasanaethu fel Llywodraethwr Ysgol mewn ysgol gynradd leol. Dywedodd: “Fel Cadeirydd y Corff Llywodraethu, rwy’n gweithio gyda thîm gwych i gefnogi’r ysgol a sicrhau bod plant yn cael y cyfle gorau i ddysgu a thyfu.” Y tu allan i'r gwaith, mae hi'n mwynhau teithio a chyfarfod â ffrindiau a theulu.

“Yn ystod fy nhaith wirfoddoli, rydw i wedi cwrdd â phobl anhygoel, ac rydw i’n arbennig o ddiolchgar i’m cydweithwyr gwirfoddol a’r tîm am fy nghefnogi mor dda,” meddai Saira. “Mae’r holl brofiadau hyn wedi rhoi ymdeimlad o berthyn i mi gyda’r bwrdd iechyd hwn ac rwy’n edrych ymlaen at gyfrannu mwy fel meddyg ac fel gwirfoddolwr.”

Os oes gennych ddiddordeb mewn archwilio cyfleoedd gwirfoddoli gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, ewch i'r dudalen Gwasanaethau Gwirfoddol neu anfonwch e-bost at volunteer.enquiries.cav@wales.nhs.uk


 

Mae pobl yn ganolog i bopeth a wnawn. Mae’r rhai sy’n gweithio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl bob dydd.

Bob mis, bydd yr ymgyrch Dan Sylw yn taflu goleuni ar y gwahanol bobl sy’n rhan o BIPCAF; o’r rhai sy’n cefnogi y tu ôl i’r llenni, i’r rhai y gwnaeth eu hangerdd eu harwain at weithio yn eu rôl.

Fel sefydliad gyda dros 17,000 o gydweithwyr, bydd yr ymgyrch yn tynnu sylw at yr amrywiaeth o rolau, timau ac unigolion ar draws y bwrdd iechyd. Gall gweithio yn y GIG newid bywydau, i gydweithwyr ac i’r cleifion y maent yn eu helpu.

 

Dilynwch ni