Neidio i'r prif gynnwy

Dan Sylw - Holly SanMiguel

Dan Sylw

Mae pobl yn ganolog i bopeth a wnawn. Mae’r rhai sy’n gweithio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl bob dydd.

Bob mis, bydd yr ymgyrch ‘Dan Sylw’ yn taflu goleuni ar y gwahanol bobl sy’n rhan o BIPCAF; o’r rhai sy’n cefnogi y tu ôl i’r llenni, i’r rhai y gwnaeth eu hangerdd eu harwain at weithio yn eu rôl.

Fel sefydliad gyda dros 17,000 o gydweithwyr, bydd yr ymgyrch yn tynnu sylw at yr amrywiaeth o rolau, timau ac unigolion ar draws y bwrdd iechyd. Gall gweithio yn y GIG newid bywydau, i gydweithwyr ac i’r cleifion y maent yn eu helpu.


Yn cael sylw y mis hwn mae Holly SanMiguel. Cafodd Holly ei phrofiad cyntaf o Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru fel claf pan aned ei mab â nam septwm fentriglaidd mawr, yna bu’n gwirfoddoli yno, cyn dod yn Weithiwr Cymorth Gofal Iechyd i Blant yn yr Uned Achosion Brys Pediatrig.

“Pan anwyd fy mhlentyn cyntaf, Isaac, gyda nam septwm fentriglaidd mawr, daethom yn gleifion yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru nes iddo gael llawdriniaeth agored gywirol ar y galon yn chwe wythnos oed ym Mryste.

“Ar ôl treulio amser hir yn yr ysbyty, fe wnes i gwrdd â chymaint o nyrsys a meddygon a oedd yn dangos gofal a thosturi yn ystod yr amseroedd gwaethaf.

“Dechreuais wirfoddoli yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru i geisio rhoi rhywbeth yn ôl am y gofal yr oeddem wedi’i dderbyn, a oedd yn cynnwys darparu cefnogaeth a chyfle i gael hwyl i blant a’u teuluoedd yn ystod eu cyfnod o angen.

“Ymunais â’r Bwrdd Iechyd wedi hynny fel Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd, a gweithio ar wardiau oedolion, cyn i mi ddechrau gweithio yn yr Uned Achosion Brys Pediatrig. Ar ôl gwneud hynny, nid wyf erioed wedi edrych yn ôl.

“Mae fy nyletswyddau’n cynnwys helpu i drin mân anafiadau, sicrhau bod digon o stoc yn yr adran, cynorthwyo gyda thriniaethau meddygol, arsylwi ar gleifion a cheisio ymlacio’r plant a’r teuluoedd cymaint â phosibl mewn cyfnodau o straen uchel.

“Rwy’n hoffi ceisio gwneud yr adran yn lle mor neis â phosib i’r plant. Fe wnes i baentio cymeriadau ar y ffenestri ac mae’n ymddangos bod y plant a’r rhieni yn hoff iawn ohonynt.

“Mae’n hyfryd gweithio gyda’r tîm cyfan ac maent wedi ymrwymo i ddarparu’r gofal gorau. Maen nhw i gyd yn hynod fedrus ac rwy’n edrych ymlaen at barhau i ddysgu ganddyn nhw i gyd wrth wneud fy ngwaith.”


Mwy am sut rydym yn rhoi pobl yn gyntaf yn y strategaeth Llunio ein Llesiant i’r Dyfodol trwy ymweld â’r dudalen we hon: Hafan - Llunio ein Llesiant i’r Dyfodol.

I weld y swyddi gwag presennol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ewch i’r dudalen Swyddi ar ein gwefan yma: Swyddi - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (nhs.wales)

Darllenwch am rolau a chydweithwyr eraill sydd wedi bod yn cael sylw yma.

Dilynwch ni