Mae pobl yn ganolog i bopeth a wnawn. Mae’r rhai sy’n gweithio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl bob dydd.
Bob mis, bydd yr ymgyrch ‘Dan Sylw’ yn taflu goleuni ar y gwahanol bobl sy’n rhan o BIPCAF; o’r rhai sy’n cefnogi y tu ôl i’r llenni, i’r rhai y gwnaeth eu hangerdd eu harwain at weithio yn eu rôl.
Fel sefydliad gyda dros 17,000 o gydweithwyr, bydd yr ymgyrch yn tynnu sylw at yr amrywiaeth o rolau, timau ac unigolion ar draws y bwrdd iechyd. Gall gweithio yn y GIG newid bywydau, i gydweithwyr ac i’r cleifion y maent yn eu helpu.
Dan Sylw ym mis Hydref roedd Dr Jomol Joseph. Mae Jomol yn Gymrawd Clinigol mewn Meddygaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Yn 2022 symudodd Dr Jomol Joseph i'r DU o Kerala ar gyfer swydd ei gŵr. Roedd Jomol wedi gweithio a hyfforddi fel meddyg yn India, ond er mwyn cofrestru ac ymarfer ym Mhrydain bu'n rhaid iddi basio cyfres o arholiadau. Wrth aros i sefyll yr asesiadau hyn, roedd Jomol yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i waith ar y dechrau, nes iddi gael cynnig rôl Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Fis Awst eleni, bron i ddwy flynedd a dwy rôl yn ddiweddarach, dechreuodd Dr Jomol Joseph weithio fel Cymrawd Clinigol mewn Meddygaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Dywedodd Jomol: “O’r diwedd, mae gen i fy swydd meddyg, ac rwy’n ddiolchgar i’r bwrdd iechyd ar hyd fy siwrnai o fand 2, i fand 4, i feddyg. Mae fy mhrofiadau mewn gwahanol rolau o fewn y GIG wedi atgyfnerthu fy ymrwymiad i'r proffesiwn hwn.
“Heb gofrestru gyda’r GMC, ni allwn weithio fel meddyg yma, a threfnwyd fy arholiad PLAB 1 ar gyfer Mai 2023, a oedd yn golygu bod gen i chwe mis i aros am yr arholiad. Dechreuais chwilio am swydd, ond yn anffodus, cefais fy ngwrthod bob tro ar gyfer swyddi Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd band 2.
“Yna, un diwrnod braf, cefais swydd fel Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Roedd yn anodd iawn i mi wneud y swydd hon i ddechrau, ond llwyddais i addasu, ac yn y pen draw, rhoddodd gyfle gwych i mi ddeall system y GIG.”
Ar ôl pasio ei harholiad PLAB 1, cefnogwyd Jomol gan y tîm Adnoddau Nyrsio i sicrhau swydd fel Ymarferydd Cynorthwyol (band 4) mewn Meddygaeth Acíwt yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Dywedodd Jomol: “Fe wnes i fwynhau fy swydd newydd oherwydd roeddwn yn gweld amrywiaeth o achosion yn ystod fy sifftiau a wnaeth wella fy sgiliau mewn brysbennu, tynnu gwaed, canwleiddio a chathetreiddio. Gwnaeth fy swydd yn yr uned asesu chwarae rôl arwyddocaol i’m helpu i basio fy arholiad PLAB 2 ym mis Rhagfyr 2023.
“Roedd pawb ar ward A1 yn gefnogol iawn, ac fe wnaeth fy rheolwr fy nghefnogi yn ystod diwrnodau fy arholiad. Llwyddais yn fy arholiad a sicrhau fy Nghofrestriad GMC ym mis Chwefror 2024. Pan wnes i gais am swyddi meddygon, roedd yn fuddiol bod yn rhan o’r GIG eisoes, yn enwedig yn yr un bwrdd iechyd.
Hoff beth Jomol am ei swydd yw'r gallu i wneud gwahaniaeth diriaethol ym mywydau cleifion.
“Mae’r heriau dyddiol a’r amgylchedd deinamig yn fy nghadw i’n llawn cymhelliant ac yn angerddol am fy ngwaith. Mae gweithio gyda thîm amrywiol o weithwyr gofal iechyd proffesiynol wedi cyfoethogi fy mhrofiad ac wedi ehangu fy safbwynt ar ofal cleifion.”
“Mae fy ysbrydoliaeth i ddilyn rôl mewn gofal iechyd yn deillio o awydd dwfn i helpu eraill a chael effaith gadarnhaol ar eu bywydau. Mae’r boddhad o weld cleifion yn gwella a gwybod fy mod wedi chwarae rhan yn eu proses iachau yn fy ngyrru i ragori yn fy maes.”
Drwy gydol ei gyrfa, mae Jomol wedi gallu ymlacio trwy ei hangerdd am goginio a cholur.
“Rwyf wrth fy modd yn arbrofi gyda gwahanol fwydydd a rhoi cynnig ar ryseitiau newydd yn fy amser rhydd ac mae gen i ddiddordeb mawr mewn colur a steilio hefyd.
“Mae’r hobïau hyn yn rhoi cyfle creadigol i mi ac yn fy helpu i gynnal bywyd cytbwys y tu allan i’m gyrfa feddygol feichus.”
Mwy am sut rydym yn rhoi pobl yn gyntaf yn y strategaeth Llunio ein Llesiant i’r Dyfodol trwy ymweld â’r dudalen we hon: Hafan - Llunio ein Llesiant i’r Dyfodol.
I weld y swyddi gwag presennol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ewch i’r dudalen Swyddi ar ein gwefan yma: Swyddi - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (nhs.wales)
Darllenwch am rolau a chydweithwyr eraill sydd wedi bod yn cael sylw yma.