Mae Gwasanaeth Rheoli Pwysau Caerdydd a’r Fro yn gweld nifer cynyddol o bobl yn holi am feddyginiaeth colli pwysau chwistrelladwy, sydd â rhestr aros o fwy na 12 mis ar hyn o bryd.
Cyn cael eu hystyried ar gyfer triniaeth arbenigol o'r fath, rydym yn disgwyl i gleifion sy'n cael eu hatgyfeirio at y gwasanaeth ymgysylltu â'n deietegwyr arbenigol a fydd yn darparu cymorth i’w helpu i wneud newidiadau cadarnhaol i’w deiet, eu ffordd o fyw a’u hymddygiad, a chynnal y newidiadau hyn.
Yn hytrach na bod yn wasanaeth presgripsiwn annibynnol, mae ein tîm amlddisgyblaethol o weithwyr proffesiynol wrth law i gefnogi ymgais claf i golli pwysau ochr yn ochr ag unrhyw feddyginiaeth fel y nodir gan ganllawiau NICE ar gyfer y GIG.
Rydym hefyd yn ymwybodol o bobl yn defnyddio darparwyr preifat, heb eu rheoleiddio i gael gafael ar y cyffuriau hyn. Byddem yn annog unrhyw un sy’n ystyried presgripsiwn preifat ar gyfer colli pwysau i’w gael gan ddarparwr ag enw da, fel ysbyty preifat sydd â meddyg ymgynghorol rheoli pwysau, neu fferyllfa ag enw da.
I gael rhagor o wybodaeth am Wasanaeth Rheoli Pwysau Caerdydd a’r Fro, ewch i wefan Cadw Fi’n Iach neu ffoniwch 029 21847681.