Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun peilot rhoi'r gorau i ysmygu yn yr Adran Achosion Brys yn llwyddiant ysgubol

11 Mawrth 2024

Mae prosiect peilot sy’n annog staff mewn adrannau acíwt ac achosion brys i atgyfeirio ysmygwyr at wasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu yn profi’n llwyddiant ysgubol.

Nod y cynllun peilot, a ddechreuodd ym mis Hydref 2023 ac a fydd yn rhedeg tan fis Medi 2024, yw gwella nifer y cleifion sy’n cael cynnig cymorth i roi’r gorau i ysmygu yn yr ardaloedd asesu meddygol acíwt ac acíwt brys yn Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd (YAC) ac Ysbyty Athrofaol Llandochau (YALl). 

Bob mis, mae'r prif atgyfeirwyr yn yr adrannau yn cael 'tystysgrif cyflawniad' a bathodyn pin am eu hymdrechion - ac mae'n ymddangos bod y fenter yn dwyn ffrwyth, gyda gwasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu yn gweld cynnydd sylweddol mewn atgyfeiriadau. 

Ym mis Tachwedd 2023 yn unig, roedd nifer yr atgyfeiriadau bedair gwaith yn uwch na’r un mis y flwyddyn flaenorol. 

“Rydym eisoes wedi gweld mwy o atgyfeiriadau yn 2024 nag a wnaethom ar gyfer y llynedd yn gyfan gwbl, sy’n gyflawniad gwych iawn,” meddai Helen Poole, Rheolwr Rhoi’r Gorau i Ysmygu mewn Ysbytai. “Rydyn ni nawr yn gobeithio y bydd y prosiect hwn yn gallu cael ei gyflwyno ar draws adrannau eraill o fewn y Bwrdd Iechyd.” 

Ar hyn o bryd, mae tua 60,000 o bobl yn ysmygu ledled Caerdydd a Bro Morgannwg, ond dim ond tua 1.3% o’r rheini a gafodd gymorth rhoi’r gorau i ysmygu arbenigol mewn gofal sylfaenol neu eilaidd yn 2016-2017. 

Mae’n destun pryder bod tua 20% o’r holl dderbyniadau a diwrnodau gwely yng Nghymru i’w priodoli i bobl sy’n dioddef o glefydau sy’n gysylltiedig ag ysmygu. 

Fodd bynnag, mae tystiolaeth yn dangos bod ysmygwr sy’n cael cynnig cymorth i roi’r gorau iddi yn yr ysbyty, ac sy’n parhau i’w ddefnyddio am o leiaf fis ar ôl iddo gael ei ryddhau, yn cynyddu’n sylweddol ei debygolrwydd o aros yn ddi-fwg yn y tymor hir. 

Mae staff sy'n ymwneud â'r prosiect wedi gallu gwneud atgyfeiriadau cyflym trwy fecanwaith atgyfeirio electronig rhoi'r gorau i ysmygu mewn ysbytai sy'n cymryd tua dwy funud i'w gwblhau. Yn Ysbyty Athrofaol Cymru mae'r staff yn cael eu cyfarwyddo i ddefnyddio'r Bwrdd Gwyn electronig, ond yn Ysbyty Athrofaol Llandochau defnyddir system Gweithfan y Ward Clinigol.  

Dywedodd Dr Nicola Hutchinson, Meddyg Ymgynghorol mewn Meddygaeth Acíwt ac Anadlol: “Mae cynnig cymorth i glaf i roi'r gorau i ysmygu yn un o'r ymyriadau mwyaf effeithiol y gall gweithiwr gofal iechyd proffesiynol ei wneud. Mae’r ymyriad hwn sy’n ymddangos yn syml mor bwysig ac rydym wrth ein bodd gyda’r cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau.”

Ar Ddiwrnod Dim Smygu ddydd Mercher, 13 Mawrth, bydd stondin yng nghyntedd Ysbyty Athrofaol Cymru lle bydd ysmygwyr yn gallu cael cyngor a gwybodaeth arbenigol am roi’r gorau iddi. Bydd awgrymiadau a chefnogaeth hefyd ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n awyddus i ddarganfod mwy am sut i godi mater rhoi'r gorau i ysmygu gyda'u cleifion neu gydweithwyr.  

Pan fyddwch chi'n penderfynu rhoi'r gorau i ysmygu, nid oes rhaid i chi ei wneud ar eich pen eich hun. Cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt Helpa Fi i Stopio; 

Dilynwch ni