Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor i'r cyhoedd yn ystod Gweithredu Diwydiannol Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) | 7am 25 Mawrth – 7am 29 Mawrth 2024

19 Mawrth 2024

Mae Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) wedi cadarnhau y bydd Meddygon Iau yng Nghymru yn ymgymryd â Gweithredu Diwydiannol rhwng 7am ddydd Llun 25 Mawrth a 7am ddydd Gwener 29 Mawrth 2024.

Mae’r Bwrdd Iechyd yn cydnabod hawl Meddygon Iau i gymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol ac felly’n cynllunio, cyn belled ag y bo modd, i barhau i ddarparu gwasanaethau diogel ac effeithiol i gleifion a’r cyhoedd, ond mae’n debygol y bydd rhai gwasanaethau a chleifion yn cael eu heffeithio, yn enwedig gan fod y cyfnod o weithredu yn mynd â ni at ddechrau penwythnos Gŵyl Banc y Pasg.

Mae Meddygon Iau yn chwarae rhan allweddol wrth ddarparu gofal a thriniaeth i gleifion ar draws y mwyafrif o wasanaethau a bydd eu habsenoldeb yn ystod y Gweithredu Diwydiannol yn cael effaith, gan ein bod yn rhagweld y bydd llai o staff meddygol dros y cyfnod hwn.

Y flaenoriaeth yw sicrhau bod aelodau’r cyhoedd yn gallu cael mynediad at ofal brys diogel ac effeithiol, e.e. Unedau Achosion Brys ac Asesu, yn ystod y cyfnod o Weithredu Diwydiannol, felly bydd angen i’r Bwrdd Iechyd ohirio rhai apwyntiadau a llawdriniaethau rheolaidd, nad ydynt yn rhai brys a oedd i fod i gael eu cynnal dros y cyfnod o bedwar diwrnod.

Nid yw hwn yn benderfyniad a wnaed ar chwarae bach ac ymddiheurwn am yr anghyfleustra a’r gofid y bydd hyn yn ei achosi, yn enwedig i’r rhai sy’n wynebu arosiadau hir am apwyntiadau, diagnosteg, llawdriniaethau a thriniaethau. Bydd ein timau’n gweithio’n galed i aildrefnu apwyntiadau sydd wedi’u gohirio maes o law a byddwn yn cysylltu â’r cleifion yr effeithir arnynt gyda dyddiad ac amser newydd.

Er mwyn ein Helpu Ni i’ch Helpu Chi a sicrhau bod cleifion yn gallu cael mynediad at ofal a thriniaeth sy’n diwallu eu hanghenion yn ystod y cyfnod hwn, rydym yn galw arnoch i ddewis gwasanaethau’n ddoeth a, lle bo’n rhesymol gwneud hynny, hunan-ofalu gartref. I gael cyngor ar ddewis pa opsiwn gofal iechyd sydd orau i chi, ewch i Wiriwr Symptomau GIG 111 Cymru am arweiniad.  Drwy ddewis a chael mynediad at y gwasanaethau cywir, byddwch yn ein helpu i ofalu am y rhai sydd ein hangen fwyaf.

Bydd hyn yn arbennig o bwysig pan ddaw’r Gweithredu Diwydiannol i ben gan y bydd Gŵyl Banc y Pasg wedi cyrraedd a Meddygfeydd Teulu ar gau am bedwar diwrnod. Mae’n bwysig gofyn am eich presgripsiynau rheolaidd yn gynnar ac ymgyfarwyddo â pha fferyllfeydd cymunedol y tu allan i oriau fydd ar gael i gynnig cymorth a chyngor dros Ŵyl y Banc. (add link)

Fodd bynnag, hoffem eich sicrhau y bydd gwasanaethau ambiwlans a gofal brys yn parhau i weithredu drwy gydol y cyfnod o Weithredu Diwydiannol ac y dylid eu defnyddio os teimlir bod eich cyflwr chi, neu gyflwr anwylyd neu rywun rydych yn gofalu amdano, yn bygwth bywyd neu aelod o’r corff.

Darllenwch y wybodaeth isod a fydd yn rhoi rhagor o fanylion am wasanaethau gofal iechyd penodol.

Apwyntiadau cleifion allanol a rheolaidd

Cysylltir ag unrhyw glaf y mae ei apwyntiad wedi’i ohirio oherwydd Gweithredu Diwydiannol drwy neges destun neu alwad ffôn i roi gwybod iddynt. Sylwch y bydd galwadau gan y Bwrdd Iechyd yn dod o rif anhysbys.

Os na fyddwch yn clywed gennym, bydd eich apwyntiad yn mynd yn ei flaen, felly cofiwch ddod ar y dyddiad a’r amser a neilltuwyd i chi. Os na allwch ddod i’ch apwyntiad, rhowch wybod i ni drwy gysylltu â’r tîm Apwyntiadau Cleifion Allanol ar 029 2074 8181.

Bydd unrhyw apwyntiadau sy’n cael eu gohirio yn cael eu haildrefnu gan yr adrannau unigol a byddwn yn cysylltu â chleifion gyda dyddiad ac amser newydd. Bydd llythyrau dilynol yn cael eu hanfon yn y post i gadarnhau hyn a gall ein timau hefyd gysylltu â’r rhai yr effeithir arnynt dros y ffôn.

Mae’n bwysig nad ydych yn cysylltu â’ch Meddygfa i wirio neu aildrefnu apwyntiadau ysbyty gan na fyddant yn gallu helpu.

Gwasanaethau Gofal Sylfaenol

Bydd gwasanaethau gofal sylfaenol yn parhau ar agor fel arfer yn ystod y cyfnod o weithredu diwydiannol, fodd bynnag, rydym yn disgwyl iddynt fod yn brysurach nag arfer.

Mae gofal sylfaenol yn cynnwys ymarfer cyffredinol, fferylliaeth gymunedol, gwasanaethau deintyddol ac optometreg (iechyd y llygaid).

Os oes gennych apwyntiad wedi’i drefnu gyda gwasanaeth gofal sylfaenol, dylech fynychu yn ôl yr arfer. Os na allwch ddod i’ch apwyntiad, cysylltwch â’r tîm cyn gynted â phosibl fel y gallant gynnig yr apwyntiad i rywun arall.

Yn ystod cyfnod Gŵyl y Banc (29 Mawrth – 1 Ebrill) bydd Meddygfeydd Teulu ar gau felly dylech ymgyfarwyddo â’r fferyllfeydd cymunedol y tu allan i oriau a fydd ar gael i gynnig cymorth a chyngor dros Ŵyl y Banc neu defnyddiwch wiriwr symptomau GIG 111 Cymru ar-lein.

Gofal Brys

Bydd y Bwrdd Iechyd yn blaenoriaethu gwasanaethau gofal brys ond, gan y bydd llai o staff meddygol yn ystod y cyfnod o Weithredu Diwydiannol, fe allai hyn arwain at arosiadau hirach nag arfer am eich gofal.

Os byddwch yn cyrraedd yr Uned Achosion Brys byddwch yn cael eich brysbennu ac, os nad oes angen gofal brys ar eich cyflwr, efallai y cewch eich cyfeirio at wasanaeth arall fel GIG 111 Cymru neu eich fferyllfa gymunedol. Mae rhestr o fferyllfeydd cymunedol sydd ar gael y tu allan i oriau i’w gweld yma.

Er y bydd ein tîm yn yr Uned Achosion Brys yn brysur yn gofalu am gleifion, os ydych yn teimlo eich bod wedi bod yn aros am gyfnod hir ac nad ydych wedi cael unrhyw ddiweddariadau, siaradwch ag aelod o’r tîm a fydd yn hapus i helpu. Gofynnwn yn garedig i chi fod yn amyneddgar yn ystod y cyfnod heriol hwn a hoffwn atgoffa pawb sy’n defnyddio ein gwasanaethau na fydd cam-drin a/neu ymddygiad bygythiol tuag at ein tîm yn cael ei oddef.

Helpwch Ni i’ch Helpu Chi

Gellir trin y rhan fwyaf o fân salwch gartref gan ddefnyddio meddyginiaeth dros y cownter sydd ar gael yn eich fferyllfa gymunedol, gallwch hefyd brynu meddyginiaethau fel paracetamol o archfarchnadoedd, felly rydym yn eich annog i fod yn barod a gwneud yn siŵr bod gennych feddyginiaethau gartref i ofalu amdanoch eich hun a’ch teulu.

Os nad ydych yn siŵr pa ofal sydd ei angen arnoch, defnyddiwch Wiriwr Symptomau GIG 111 Cymru yn gyntaf lle gallwch gael cyngor gofal iechyd.

Sylwch, efallai y bydd galwadau i wasanaeth GIG 111 Cymru yn cymryd mwy o amser nag arfer i’w hateb gan y rhai sy’n delio â galwadau yn ystod Gweithredu Diwydiannol, felly byddwch yn barod am amseroedd aros hirach a byddwch yn garedig wrth gydweithwyr.

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru (WAST)

Nid yw Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) yn cymryd rhan mewn streic. Fodd bynnag, defnyddiwch y gwasanaeth hwn yn ddoeth a ffoniwch 999 dim ond mewn achosion o argyfwng gwirioneddol neu sefyllfa lle mae bywyd yn y fantol.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r gwiriwr symptomau ar GIG 111 Cymru fel man cychwyn os yw’ch plentyn yn sâl. Defnyddiwch yr Uned Achosion Brys Pediatrig dim ond os yw’ch plentyn yn sâl iawn neu’n profi symptomau sy’n peri pryder difrifol yn eich barn chi, fel y gall ein cydweithwyr gefnogi cleifion sydd angen cymorth meddygol brys.

  • Hunanofal. Gofalwch amdanoch chi’ch hun a’ch anwyliaid, yfwch ddigon o ddŵr, a defnyddiwch feddyginiaethau dros y cownter neu’r cynllun anhwylderau cyffredin i gefnogi hunanofal.
  • Defnyddiwch y cyfrwng digidol yn gyntaf a gwiriwch eich symptomau gan ddefnyddio Gwiriwr Symptomau GIG 111 Cymru.
  • Byddwch yn ymwybodol o’r mynediad a’r gefnogaeth sydd ar gael yn y gymuned ac mewn gofal sylfaenol, a ble y gallwch chi gael mynediad at wasanaeth yn uniongyrchol.

 

Gyrru i’n safleoedd

Os ydych yn mynychu ein safleoedd, cofiwch ei fod yn safle gweithredol ac y bydd yn brysur felly ymgyfarwyddwch â’r meysydd parcio a’r mynedfeydd a’r allanfeydd.

Y flaenoriaeth ar y safle fydd cael ambiwlansys i’n Huned Achosion Brys i ddarparu triniaeth i gleifion.

Diolch i chi am dreulio amser yn darllen y wybodaeth hon ac am eich amynedd a’ch cydweithrediad yn ystod cyfnod a fydd yn heriol.

Dilynwch ni