22 Ionawr 2024
Mae tîm newydd o Gymdeithion Ysbyty a hyfforddwyd gan Marie Curie a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cynnig cymorth i gleifion sy’n nesáu at ddiwedd eu hoes.
Mae’r gwirfoddolwyr Cydymaith Ysbyty sydd wedi’u hyfforddi’n llawn ac wedi’u gwirio gan y DBS wrth law i ddarparu cwmni a chymorth emosiynol i gleifion yn Ysbyty Athrofaol Cymru a’u hanwyliaid.
Gallant wrando, trafod pynciau heriol fel cynlluniau gofal ymlaen llaw, a bod yn bresennol pan fydd angen i aelodau'r teulu orffwys neu gamu i ffwrdd, neu os nad oes gan glaf berthnasau yn byw gerllaw.
Dechreuodd Hazel Orchard, un o’r Cymdeithion Ysbyty, ymweld â chlaf, Barry, ar ôl i Marie Curie dderbyn atgyfeiriad gan y Tîm Gofal Lliniarol. Dros gyfnod o bythefnos, ymwelodd Hazel â Barry bedair gwaith, gan ffurfio cysylltiad ystyrlon a chynnig cymorth hanfodol iddo ef a’i deulu.
Yn ystod eu cyfarfod cyntaf, mae Hazel yn cofio: “Buom yn siarad am oesoedd am daith bywyd Barry, ei yrfa, ei deulu a cholli ei wraig. Fe wnaethon ni siarad am ei iechyd ac roedd yn amlwg yn bryderus ynghylch beth oedd yn mynd i ddigwydd.”
Pan gynigiodd Hazel ddychwelyd, dywedodd Barry: “Rwy’n teimlo’n dawelach nawr. Dewch yn ôl os gwelwch yn dda.”
Ar ei hymweliad olaf, siaradodd Hazel a Barry yn ddyfnach am ei fywyd, ei waith a’r pryderon y mae pobl yn aml yn eu hwynebu yn ystod y cyfnod hwn o fywyd—ofn yr anhysbys, ofn colli rheolaeth, ac ofn yr hyn sy’n digwydd ar ôl marwolaeth.
“Diolchodd Barry i mi am bopeth cyn iddo farw, ac rwy’n wirioneddol ddiolchgar iddo am fy ngadael i mewn i’w fywyd, hyd yn oed am gyfnod mor fyr. Ni allaf fynegi digon cymaint o fraint oedd cael bod yn rhan o daith rhywun. Mae'n ymddangos yn beth mor fach a di-nod i eistedd a siarad â rhywun, ond rwy'n gwybod ei fod wedi helpu Barry, ac fe wnaeth fy helpu i cymaint
hefyd. Cefais gymaint allan o’n sgyrsiau a gwnaeth fy helpu i sylweddoli beth rwy’n gallu ei wneud, a beth all fy mhrofiad a’m sgiliau ei wneud i helpu pobl ar adeg mor bwysig yn eu bywyd”.
Y tu hwnt i ddarparu cwmni, gall y Cymdeithion Ysbyty gymryd rhan mewn gweithgareddau i hybu lles cleifion, mynd gyda chleifion i ardaloedd cyffredin o'r ysbyty a chynnig cysur i'r teulu a'r claf yn ystod eu munudau olaf.
Dywedodd Andrea Rich, Nyrs Arweiniol mewn Gofal Lliniarol: “Mae'r tîm Gofal Lliniarol wedi canfod bod y Cymdeithion Ysbyty yn gyfeillgar ac yn hyblyg iawn yn eu hymagwedd. Maent yn hapus i eistedd gyda chleifion, i ddod i'w hadnabod a sgwrsio neu byddant yn darllen iddynt, chwarae cardiau neu’n mynd â nhw i'r cyntedd os oes angen.
“Mae hwn yn wasanaeth nad oes gan dîm Gofal Lliniarol yr ysbyty y gallu i’w gynnig yn anffodus felly mae cael y gwirfoddolwyr sydd ar gael wedi bod yn anhygoel, ac mae’n hyfryd gwybod bod ein cleifion yn cyfrannu at wneud rhywbeth sy’n bwysig iddyn nhw tra’u bod nhw yn yr ysbyty.”
I weld sut y gall eich anwylyd elwa ar y gwasanaeth Cydymaith Ysbyty, cysylltwch â walescompanion@mariecurie.org.uk neu gofynnwch i’ch clinigwr am atgyfeiriad.
Os hoffech wirfoddoli gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro edrychwch ar y cyfleoedd yma.