Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi cael gwybod yn ffurfiol bod Lloyds Pharmacy wedi gwneud y penderfyniad i gau eu fferyllfa sydd wedi’i lleoli yn Sainsbury’s Thornhill, Caerdydd.
Bydd y fferyllfa hon yn cau o 21 Mai 2023 .
Fel rhan o'r gweithdrefnau rheoleiddio sy’n gysylltiedig â hysbysiad o’r fath, bydd y Bwrdd Iechyd yn adolygu darpariaeth fferyllol yn yr ardal, er mwyn sicrhau bod y boblogaeth leol yn dal i allu cael mynediad at wasanaethau fferyllol priodol, yn unol ag Asesiad o Anghenion Fferyllol 2021.
Hoffem atgoffa cleifion fod ganddynt y dewis i ymweld ag unrhyw fferyllfa ar draws Caerdydd a’r Fro i gasglu eu presgripsiwn ac i gael mynediad at wasanaethau clinigol, megis y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin.
Mae rhestr lawn o’r fferyllfeydd sydd ar gael ar wefan GIG 111 Cymru neu drwy ddilyn y ddolen hon i’n Fferyllfeydd Cymunedol.
Sylwch, ni fydd eich practis meddyg teulu yn gallu argymell unrhyw fferyllfa benodol ond gall roi cyngor ar y rhai sydd agosaf at eich practis.
Gall fod prosesau gwahanol mewn fferyllfeydd ar gyfer archebu a chasglu presgripsiynau a dylech holi yn eich fferyllfa ddewisol i weld a yw eu proses yn addas ar gyfer eich anghenion.
I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael mewn Fferyllfeydd Cymunedol, ewch i'r dudalen we hon.