Neidio i'r prif gynnwy

Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn ymuno â BIP Caerdydd a'r Fro ar gyfer ymgyrch brechlyn HPV

Mae Sefydliad Cymunedol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd wedi ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i hyrwyddo pwysigrwydd brechlyn sy’n cynnig amddiffyniad hanfodol yn erbyn sawl math o ganser. 

Mae’r brechlyn papilomafeirws dynol (HPV) yn cael ei gynnig am ddim i bob plentyn 12 a 13 oed ym Mlwyddyn 8 yn yr ysgol uwchradd. Mae wedi bod yn hynod effeithiol o ran lleihau’r risg o gael HPV, grŵp o fwy na 100 o feirysau sydd fel arfer yn cael eu trosglwyddo drwy gyswllt croen-i-groen.  

Bydd y rhan fwyaf o bobl sy’n cael eu heintio â HPV yn clirio’r feirws o’u corff ac ni fyddant yn mynd yn sâl ond, i eraill, gall achosi dafadennau gwenerol neu hyd yn oed ddatblygu i fod yn rhai mathau o ganser, gan gynnwys canser ceg y groth ymhlith menywod, a chanserau’r pen a’r gwddf sydd fwyaf cyffredin ymhlith dynion.  

Fel arfer nid oes gan HPV unrhyw symptomau, a dyna pam ei bod mor hawdd ei drosglwyddo. Bydd mwy na 70% o bobl nad ydynt wedi cael y brechlyn HPV yn cael HPV ar ryw adeg yn eu bywyd.  

Ond hyd yma mae'r brechlyn wedi bod yn effeithiol iawn. Ers iddo gael ei gyflwyno yn 2008, mae wedi lleihau cyfraddau canser ceg y groth bron i 90% ymhlith menywod yn eu 20au.  

Bob gwanwyn, mae Tîm Imiwneiddio Nyrsio Ysgol BIP Caerdydd a’r Fro yn ymweld ag ysgolion ar draws y rhanbarth i roi’r brechlyn HPV i ddisgyblion Blwyddyn 8, ynghyd â’r rhai ym Mlwyddyn 9, 10 ac 11 a fethodd eu brechlyn ym Mlwyddyn 8. Mae'r rhestr lawn o ddyddiadau i'w gweld yma

Er mwyn helpu i hyrwyddo pwysigrwydd y brechlyn, roedd chwaraewyr o Glwb Pêl-droed Dinas Caerdydd wrth law i helpu i greu fideo hyrwyddo byr a fydd yn cael ei rannu’n eang ar gyfryngau cymdeithasol a sianeli eraill.  

Roedd y blaenwr Kion Etete a’r amddiffynnwr Mark McGuinness ymhlith y rhai i gyfrannu at y fideo o dîm y dynion, yn ogystal â’r ymosodwr Rhianne Oakley o dîm y merched.  

Dywedodd Claire Beynon, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Mae’n wych gweithio mewn partneriaeth â Chlwb Pêl-droed Caerdydd a Sefydliad Dinas Caerdydd i hyrwyddo neges iechyd cyhoeddus mor bwysig. Mae disgwyl y bydd y brechlyn yn y pen draw yn achub miloedd o fywydau bob blwyddyn ledled y DU.” 

Dywedodd Zac Lyndon-Jones, Pennaeth Cymuned a Datblygu Sefydliad Cymunedol Clwb Pêl-droed Caerdydd: “Mae Sefydliad Cymunedol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn falch o gefnogi’r ymgyrch hanfodol ar gyfer y brechlyn HPV mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.  

“Trwy ein timau cyntaf o ddynion a merched, ein nod yw torri’r stigma sy’n gysylltiedig â’r brechlyn a defnyddio asedau’r clwb er mwyn cynyddu’r nifer sy’n manteisio ar y brechlyn mewn ysgolion yng nghymunedau Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd. Ein nod yw defnyddio ein llais a’n dylanwad i rannu negeseuon iechyd hanfodol fel hyn, ac i newid bywydau a thrawsnewid cymunedau.” 

Bu Esyllt Kelly a Diana Owen, o Dîm Imiwneiddio Nyrsio Ysgolion Caerdydd a’r Fro, yn cydweithio ar y prosiect ac roeddent wrth law i gynnig cyngor arbenigol i bawb sy’n ymwneud â chynhyrchu’r fideo.  

“Profwyd bod y brechlyn HPV yn ddiogel ac yn effeithiol o ran amddiffyn rhag HPV a lleihau heintiau HPV, ac mae’n cael ei roi gan ein gweithwyr nyrsio imiwneiddio proffesiynol mewn un pigiad cyflym yn rhan uchaf y fraich,” esboniodd Diana. 

“Mae brechiad HPV yn fwyaf effeithiol mewn pobl nad ydynt wedi dod i gysylltiad â HPV a dyna pam yr argymhellir brechu plant 11-13 oed. Erbyn iddynt ddod yn oedolion bydd y rhan fwyaf o bobl wedi dod i gysylltiad â HPV, felly ni fydd brechu mor effeithiol.” 

Bydd pobl ifanc sy’n methu eu brechlyn ym Mlwyddyn 8 yn yr ysgol yn cael y cyfle i’w gael cyn iddynt adael addysg statudol ar ddiwedd Blwyddyn 11.  I’r rhai na allant ei dderbyn yn yr ysgol, bydd clinigau dal i fyny cymunedol ledled Caerdydd a Bro Morgannwg. 

Fel gydag unrhyw frechlyn arall, yn aml ceir rhai sgil-effeithiau ysgafn gan gynnwys braich dyner neu gur pen sy’n diflannu’n gyflym iawn. 

I gael rhagor o wybodaeth am y brechlyn HPV, ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yma

Dilynwch ni