Bydd plant a fethodd eu dos cyntaf o’r brechlyn HPV yn yr ysgol yn gallu mynd i glinig galw heibio arbennig yr wythnos nesaf.
Mae merched a bechgyn 12 a 13 oed yn cael cynnig y brechlyn HPV (human papillomarvirus) fel rhan o raglen frechu'r GIG.
Mae'n helpu i amddiffyn rhag canserau a achosir gan HPV, gan gynnwys canser ceg y groth, rhai canserau'r pen a'r gwddf a rhai canserau'r ardaloedd rhefrol a'r organau cenhedlu. Mae hefyd yn helpu i amddiffyn rhag dafadennau gwenerol.
Bob blwyddyn mae’r brechiad yn cael ei roi i ddisgyblion Blwyddyn 8 yn eu hysgol uwchradd, ond yn anorfod bydd rhai plant yn colli’r apwyntiad.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn trefnu clinigau galw heibio arbennig ar gyfer y brechlyn HPV ddydd Llun, 24 Gorffennaf yn y lleoliadau canlynol:
Canolfan Brechu Torfol Tŷ Coetir, Ffordd Maes-y-Coed, Caerdydd, CF14 4HH o 9am-12pm
Ysbyty'r Barri, Heol Colcot, Y Barri, CF62 8YH rhwng 9am a 12pm
Mae'r clinigau hyn ar agor i unrhyw blant oed ysgol ym Mlynyddoedd 8, 9 10 neu 11 a fethodd eu dos cyntaf o'r brechlyn HPV pan gafodd ei gynnig.
I gael rhagor o wybodaeth, neu os nad ydych yn siŵr a yw eich plentyn wedi cael y brechlyn, cysylltwch â’r tîm imiwneiddio ar 02920 907661 neu 02920 907664.
Ac am fwy o wybodaeth am yr holl frechlynnau y mae plant yn eu derbyn ym Mlynyddoedd 7 i 11 a pham, ewch yma.