Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi lansio gwasanaeth newydd a fydd yn gwella triniaeth i bobl ag anhwylderau llawr y pelfis yn sylweddol.
Mae Canolfan Gymunedol Iechyd y Pelfis wedi'i lleoli yn yr Adran Cleifion Allanol yn Ysbyty'r Barri a bydd yn darparu cymorth, cyngor ac opsiynau triniaeth sy'n canolbwyntio ar y claf ar gyfer rheoli prolaps organau'r pelfis, anymataliaeth a chamweithrediad y coluddyn.
Y cyntaf o'i fath yng Nghymru, bydd y ganolfan newydd yn darparu ymagwedd amlddisgyblaethol tuag at ofal cleifion, gan gynnwys llawfeddygon ymgynghorol y colon a'r rhefr, wrogynaecolegwyr, wrolegwyr, ffisiotherapyddion, deietegwyr, nyrsys clinigol arbenigol, cynghorwyr ymataliaeth a thîm rheoli poen.
Fe’i cefnogir hefyd gan Gydlynydd Gwasanaeth Iechyd y Pelfis, rôl sydd wedi'i sefydlu ym mhob Bwrdd Iechyd ledled Cymru, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru.
Disgwylir i'r ganolfan newydd leihau amseroedd aros a gwella gwasanaethau iechyd y pelfis yn ardal Caerdydd a Bro Morgannwg, ac mae wedi'i chynllunio i ehangu wrth i'r galw am y gwasanaeth gynyddu dros amser.
Mae'r ganolfan hefyd yn gallu darparu triniaeth Symbylu’r Nerf Sacrol (SNS), sy'n golygu mewnosod dyfais sy'n gweithredu fel rheolydd calon yn y bledren a'r coluddyn.
Gall y driniaeth drin anymataliaeth yn llwyddiannus mewn hyd at 75 y cant o gleifion a Chanolfan Gymunedol Iechyd y Pelfis yw'r ganolfan gyntaf yng Nghymru i gynnig y driniaeth.
Mae Elusen Iechyd Caerdydd a'r Fro a Rhaglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles wedi cefnogi Canolfan Gymunedol Iechyd y Pelfis, gan fywiogi gofod y coridor y tu allan i ardaloedd eu clinig.
Dywedodd Sally Keenan, Cydlynydd Gwasanaeth Iechyd y Pelfis: “Rydym yn falch iawn o agor y Ganolfan Gymunedol Iechyd y Pelfis newydd, a fydd yn gwella ein gwasanaethau i bobl ag anhwylderau llawr y pelfis yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg yn sylweddol.
“Hoffem ddiolch i Elusen Iechyd Caerdydd a'r Fro sydd, mewn partneriaeth â Grosvenor, wedi dod â rhywfaint o olau a gofod i mewn i ardal coridor mewnol yr ysbyty, drwy raglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles.”