Neidio i'r prif gynnwy

Canolfan Iechyd Genomig Cymru yn agor ei drysau yn swyddogol fel cartref newydd genomeg yng Nghymru

Agorodd Canolfan Iechyd Genomig Cymru (CIGC) yn Coryton, Gogledd Caerdydd ei drysau yn swyddogol ar 7 Rhagfyr, i wasan aethu fel conglfaen i uchelgais iechyd manwl Cymru.

Agorwyd y ganolfan gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan AS, a gafodd ei chroesawu gan Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Charles ‘Jan’ Janczewski, a’r Prif Weithredwr, Suzanne Rankin, yn rhinwedd ei swydd fel Uwch Swyddog Cyfrifol Partneriaeth Genomeg Cymru.

Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, bydd y cyfleuster o'r radd flaenaf yn cyd-leoli rhai o arbenigwyr blaenllaw Cymru ym maes genomeg: Partneriaeth Genomeg Cymru, Gwasanaeth Genomeg Meddygol Cymru Gyfan (AWMGS), yr U ned Genomeg Pathogen a Rhaglen Genomeg Iechyd y Cyhoedd, a Pharc Geneteg Cymru.  Gyda'r GIG wrth ei wraidd, mae'r amgylchedd cydweithredol hwn sy'n cyfuno diwydiant a'r byd academaidd wedi cael ei gynhyrchu ar y cyd gan staff ar draws yr holl bartneriaid, cleifion ac aelodau'r cyhoedd. Bydd y gofod newydd yn gartref i labordai clinigol ac ymchwil o'r radd flaenaf a mannau clinigol pwrpasol, gan ddod â chleifion ochr yn ochr â'r ymchwil a fydd yn parhau i ehangu eu dewisiadau triniaeth a gwella canlyniadau gofal tra'n darparu amgylchedd tawel, croesawgar iddynt hwy a'u teuluoedd ar yr un pryd.

Dywedodd Suzanne Rankin, Uwch Swyddog Cyfrifol Partneriaeth Genomeg Cymru

“Mae’n fraint gweithio ochr yn ochr â’r holl gydweithwyr, Partneriaid a chynrychiolwyr cleifion sydd wedi dod ynghyd i ddylunio, datblygu a lansio Canolfan Iechyd Genomig Cymru.”

“Mae hwn yn ddarn o waith sy’n torri tir newydd a fydd yn gweld rhai o arbenigwyr blaenllaw genomeg Cymru yn cydgyfarfod i rannu gwybodaeth ac arbenigedd hanfodol. Bydd y cydleoli hwn yn hybu datblygiadau arloesi ac yn cefnogi Cymru i ddod yn genedl flaenllaw yn y maes gofal iechyd hwn, gan wella bywydau’r cleifion sy’n defnyddio’r gwasanaethau hyn yn y pen draw a dod â manteision enfawr i boblogaeth Cymru.”

“Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i bawb sy’n ymwneud â’r prosiect; yn ogystal ag Eluned Morgan AS a chydweithwyr eraill yn Llywodraeth Cymru, am eu cefnogaeth allweddol i sicrhau y gallwn barhau â thwf genomeg yng Nghymru.”

Bydd y datblygiad yn cynnwys cyfres o dechnolegau dilyniannu, a fydd yn parhau i hwyluso ac ehangu'r astudiaeth o'r genom ar gyfer bodau dynol, bacteria a feirysau. Pan ddechreuodd gwyddonwyr fapio hyn am y tro cyntaf fel rhan o The Human Genome Project, cymerodd dair blynedd ar ddeg, tua thair biliwn o ddoleri ac ymdrech nifer fawr o unigolion. Mae'r dechnoleg sydd ar gael yn y CIGC yn gallu mapio genomau dynol lluosog mewn llai na 48 awr; sy’n golygu y gellir parhau i gynnal astudiaethau genomeg arloesol Cymru i feysydd iechyd unigolion a'r cyhoedd sy'n newid bywyd. Hyd yn hyn mae'r rhain yn cynnwys gwasanaeth dilyniannu SARS-CoV-2 sy'n arwain y byd i gefnogi’r ymateb i’r pandemig COVID-19; gwasanaeth dilyniannu genom cyfan cyflym cyntaf y DU i wneud diagnosis o fabanod newydd-anedig a babanod sy'n ddifrifol wael; gwasanaeth ffarmacogenomig cyntaf y DU ar gyfer cleifion canser i ragweld adwaith niweidiol i gemotherapïau penodol a defnyddio technoleg 'biopsi hylif' trwy dreial clinigol QuicDNA, sy'n ceisio byrhau'r llwybr diagnostig ar gyfer cleifion canser yr ysgyfaint.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:

“Rwy’n falch iawn o agor Canolfan Iechyd Genomig Cymru yn swyddogol a gweld yn uniongyrchol sut mae’r GIG a’r byd academaidd yn cydweithio i chwyldroi genomeg a sut fyddwn yn trin salwch yn y dyfodol.

“Mae’n wych bod Llywodraeth Cymru wedi gallu ariannu’r cyfleuster diweddaraf hwn ac mae’n dangos ein hymrwymiadau i hyrwyddo gofal iechyd drwy genomeg a meddygaeth fanwl.

“Rydym eisoes wedi gweld llwyddiant gyda mentrau arloesol yn y maes hwn ac rwy’n gobeithio y bydd y cyfleuster newydd hwn yn helpu i adeiladu ar y gwaith hwn a chreu mwy o gyfleoedd i genomig drawsnewid gofal iechyd, gwella canlyniadau cleifion, a chyfrannu at ffyniant pobl Cymru.

“Mae Canolfan Iechyd Genomig Cymru yn fwy na chyfleuster; mae’n ganolbwynt gwybodaeth, arloesi, a gobaith ar gyfer dyfodol gofal iechyd yng Nghymru.”

Dilynwch ni